Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Askar Sheibani (Bwrdd
Cyflawni Busnes); ·
Yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro
Paul Spencer yn dirprwyo; ·
Ian
Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda
David Fitzsimon yn dirprwyo; Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Dr Maria Hinfelaar fuddiant personol yn eitem 6 gan fod
Prifysgol Wrecsam yn noddwr y Prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg
Menter. Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y
cyfarfod yn ystod yr eitem yn ei chyfanrwydd. Er hynny, nododd Dr Maria
Hinfelaar yr hoffai gael eglurhad ar ddau fater penodol ar ryw bwynt, sef:- ·
Strwythur
yr Achosion Cyfiawnhad Busnes pellach sydd i ddilyn. ·
Y
proffil gwariant, h.y. faint o arian sy’n cael ei ddyrannu ar y cychwyn a faint
sy’n ddibynnol ar yr Achosion Cyfiawnhad Busnes hyn? Nododd y Cadeirydd y byddai’r
esboniad yn cael ei roi dan eitem 6 ac y byddai Dr Maria Hinfelaar yn derbyn
esboniad ar wahân gan y swyddogion yn dilyn y cyfarfod. Datganodd Graham Boase
fuddiant personol yn eitem 6 oherwydd ei fod yn Gyfarwyddwr Glyndŵr
Innovations Ltd. sy’n eistedd o dan Brifysgol Wrecsam. Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a
gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem yn ei chyfanrwydd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 157 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol
ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau
cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb
Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
ACHOS BUSNES LLAWN Y PROSIECT CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth,
i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: 1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a
Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam
Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno
ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r
prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n
weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad. 2. Bod y Bwrdd yn nodi y bydd
camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant. 3. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o
fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle
mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf. PENDERFYNWYD 1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes
Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg
Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam Achos Busnes
Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r
Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i
gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r prosiect, ar y sail
fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn
adran 7 o'r adroddiad. 2. Bod y Bwrdd yn nodi y bydd camau
diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant. 3. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog
Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o fewn sgôp yr
Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle mae gwariant a
buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol y Prosiect Ganolfan Opteg a
Pheirianneg Menter. Cymeradwyodd y
Bwrdd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect ar 29 Ebrill 2022 ynghyd â
chais am newid yn ymwneud â gostyngiad mewn arian cyfatebol ar gyfer y
prosiect. Wedi hynny derbyniodd y
prosiect gymeradwyaeth y broses sicrwydd gan Lywodraeth Cymru. Galluogodd hyn i Brifysgol Wrecsam fwrw
ymlaen â'r wedd caffael a datblygu Achos Busnes Llawn. Mae Prifysgol Wrecsam
bellach wedi cwblhau'r caffael ar gyfer gwedd 1 y prosiect a bellach yn
cyflwyno Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd am benderfyniad buddsoddi terfynol. TRAFODAETH Trafodwyd yr eitem. |