Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Y
Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint); ·
Y
Cynghorydd Jason McLellan (Cyngor Sir Ddinbych) gyda’r Cynghorydd Barry Mellor
yn dirprwyo; ·
Yana
Williams (Coleg Cambria); ·
Yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo; ·
Ian
Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo; ·
Dafydd
Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo ·
Neal
Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo. Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion
brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 326 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd
ar 21 Gorffennaf, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2023-24 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2023 PDF 531 KB Dewi
A.Morgan, Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian
Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) Nodi a derbyn adolygiad
refeniw diwedd Awst 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1 i’r adroddiad). (2) Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd
wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2). (3) Cytuno ar broffil gwariant
cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3). Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol). PENDERFYNWYD (1)
Nodi a derbyn
adolygiad refeniw diwedd Awst 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1 i’r adroddiad).
(2)
Nodi a derbyn
diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2). (3)
Cytuno ar broffil
gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3). RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD (1)
Nodi
tanwariant a ragwelir o £266,683 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2023/24 sydd yn
bennaf oherwydd llwyddiant y Swyddfa Rheoli Portffolio gyda'u cais Cronfa
Ffyniant Gyffredin rhanbarthol. Bydd y
tanwariant terfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei ddefnyddio i
leihau'r swm a hawlir o grant y fargen dwf a'r gronfa a glustnodir. (2)
Nodi
llithriad pellach ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £7.13m yn
2023/24 o'i gymharu â chyllideb gymeradwy o £11.25m ar gyfer y flwyddyn. TRAFODAETH Nodwyd yr angen i
gydnabod a gwerthfawrogi gwaith y tîm yn tynnu arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin
(SPF) i lawr. Nodwyd, er bod y
sefyllfa bresennol yn sefydlog, bod y Bwrdd yn nodi’r heriau ariannol sy’n ei
wynebu i’r dyfodol, ac y bydd rhaid cynnal trafodaethau hynod o anodd dros y
misoedd nesaf. Holwyd a oedd y
llog gwell na’r disgwyl ar y balansau eleni yn ffactor sylweddol wrth symud
ymlaen. Mewn ymateb, eglurwyd bod y llog
yn debygol o fod dros £2m eleni, ond y golygai hynny y byddai ein costau
benthyca yn uwch yn y dyfodol, ac y byddai’r llog yn cyfrannu tuag at hynny. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PDF 396 KB Hedd
Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. Cofnod: Oherwydd bod y Cadeirydd yn cael problemau technegol, cadeiriwyd y
cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Mark Pritchard, yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem hon. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau). PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio)
2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau
rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Gofyniad Rhan 5 yw i’r Cydbwyllgor adolygu a
chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol.
Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r
gofyniad hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad
y Bwrdd Uchelgais. TRAFODAETH Gan gyfeirio at y tabl ar dudalen 13 o’r
fersiwn Saesneg o’r Datganiad Llywodraethu, nodwyd bod yna ddwy seren wrth ochr
yr Asesiad Hyder Cyflawni Ambr ar gyfer Porth Caergybi, ond dim esboniad
pellach ynglŷn â hynny. Mewn
ymateb, eglurwyd:- ·
Bod
y ddwy seren yn cyfeirio at y ffaith ein bod, ar y pryd, yn aros i Lywodraeth
Cymru arwyddo’r Gorchymyn Adolygu Harbwr, oedd yn cael ei weld gan y tîm fel
risg sylweddol y tu allan i reolaeth y prosiect ei hun. ·
Bod
Llywodraeth Cymru bellach wedi arwyddo’r Gorchymyn, ac felly bod y risg honno
wedi’i dileu. ·
Mai
unig bwrpas yr un seren wrth ochr y cyfeiriad at Adolygiad Porth 2 AAP ar gyfer
y Prosiect yr Ychydig % Olaf oedd i egluro ystyr AAP, ond nad oedd yr esboniad
hwnnw wedi’i gynnwys yn y ddogfen chwaith. ·
Y
byddai’r sêr hyn yn cael eu hychwanegu i’r fersiwn derfynol o’r Datganiad. Nodwyd nad oedd yna unrhyw sêr gyferbyn â’r
prosiectau yn y fersiwn Gymraeg o’r Datganiad, ac eglurwyd y byddai’r tîm yn
diwygio’r fersiwn honno yn ogystal, ac yn sicrhau cysondeb rhwng y ddwy iaith. |