skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

Derbynwyd ymddiehruiadau gan y Cyng. Llinos Medi Huws(Cyngor Sir Ynys Mon), Cyng. Hugh Evans(Cyngor Sir Ddinbych), Yr Athro Graham Upton (Prifysgol Bangor) a David Jones (Coleg Cambria).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Iwan Trefor Jones ar gyfer eitem 9 – Cyfarwyddwr Rhaglen Bwrdd Ucheglais Economaidd Gogledd Cymru – oherwydd natur y swydd dan sylw roedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 67 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).  

Cofnod:

Llofnododd Y Cadeirydd gofnodion o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar y 1af Chwefror fel rhai cywir.

 

5.

LLYWODRAETHU BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 224 KB

Adroddiad gan Iwan Evans, Cyngor Gwynedd  (ynghlwm).

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

1.    Derbyn yr adroddiad

2.    I dderbyn y bydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn belled y mae’n rhesymol bosib yn cyfarfod mewn un lleoliad priodol yng Ngogledd Cymru yn ôl unol a’r adroddiad.

3.    Yn ddarostyngedig i sefydlu Bwrdd Arweinyddion Busnes ffurfiol. I benodi Cadeirydd y Grwp Busnes Gogledd Cymru fel Ymgynghorydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a chadarnhau strwythur Ymgynghorwyr.

4.    Fod adroddiad pellach ar yr Is fyrddau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

5.    I dderbyn Protocol Gweithredol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ddarostyngedig i gadarnhadu  hawl i’r Swyddog Monitro ac i’r Swyddog Adran 151 i adrodd yn unigongyrchol i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pe cyfyd angen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

  1. Derbyn yr adroddiad
  2. I dderbyn y bydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn belled y mae’n rhesymol bosib yn cyfarfod mewn un lleoliad priodol yng Ngogledd Cymru yn ôl unol a’r adroddiad.
  3. Yn ddarostyngedig i sefydlu Bwrdd Arweinyddion Busnes ffurfiol. I benodi Cadeirydd y Grwp Busnes Gogledd Cymru fel Ymgynghorydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a chadarnhau strwythur Ymgynghorwyr.
  4. Fod adroddiad pellach ar yr Is fyrddau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
  5. I dderbyn Protocol Gweithredol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ddarostyngedig i gadarnhadu  hawl i’r Swyddog Monitro ac i’r Swyddog Adran 151 i adrodd yn unigongyrchol i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pe cyfyd angen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan mai ei brif fwriad yw i symud y rhaglen Lywodraethu yn ei blaen. Cafwyd trafodaeth am yr argymhellion yn y penderfyniad yn unigol.

 

Trafodwyd lleoliad priodol ar gyfer cyfarfodydd gyda’r bwriad o gael lleoliad canolog, nodwyd fod lleoliad wedi ei drefnu ar gyfer y cyfarfodydd nesaf yng Nghonwy. Mynegwyd na fydd amser yn cael ei nodi yn y protocol ond yn hytrach fod penderfyniad y bydd y cyfarfod yn anelu i gychwyn am 1y.h. gan bwysleisio fod hyblygrwydd o ran amser.  Trafodwyd penodi Cadeirydd y Gweithdy Busnes Gogledd Cymru fel ymgynghorydd i’r Bwrdd Uchelgais, a cytunwyd ar hyn.

 

Nodwyd o’r themâu allweddol fod Trafinidaieth a’r Cynllun Digidol wedi eu blaenoriaethu fel ys is-bwyllgorau cyntaf i gael eu ffufio. Ychwanegwyd fod angen trafodaeth bellach ar y mater er mwyn cael cynlluniau i sefydlu’r is-bwyllgorau o ran aelodaeth ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd Uchelgais.

 

Tynnwyd sylw at y Protocol Gweithredol ar gyfer y Cydbwyllgor sydd yn gosod sylfaen ac amserlen ar gyfer cyfarfodydd ac adroddiadau ynghyd a gosod sicrwydd ar gyfer cyfeiriad y Bwrdd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Cafwyd trafodaeth am y themâu allweddol sydd yn cael eu blaenoriaethu, mynegwyd fod angen trafodaeth bellach yn y grŵp gweithredol ac ystyried amserlen.

-        Tynnwyd sylw at adroddiadau y Bwrdd Uchelgais yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Gweithredol bythefnos cyn y cyfarfod, gan nodi na ddylid adroddiadau gan y Swyddog Monitro nac y Swyddog Adran 151 gael eu cynnwys yn y drefn ac y bydd modd iddynt hwy gyflwyno eu hadroddiadau yn uniongyrchol i’r Bwrdd.

 

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN GWEITHREDU DRAFFT pdf eicon PDF 184 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyngor Gwynedd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu fel sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda

Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gytundeb Penawdau’r Telerau Posib ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ddarostynedig i’r addasiadau isod yn cael eu ymgorffodi yn y Cynllun:

1.    Hyblygrwydd o ran amerlenu, proffilio gwariant a blaenoriaethu prosiectau yn Rhan 7 o’r Cynllun Gweithredu ar sail eu haeddfedrwydd a’u fforddiadwyedd.

2.    Hyblygrwydd ar y pecyn cyllideb gan y ddwy Lywodraeth ar gyfer gweithredu’r prosiectau yn y Cynllun Gweithredu.

3.    Ychwanegu amserlen ar gyfer sefydlu Gorffennaf 2019 fel y dyddiad ar gyfer cytuno  Pennawdau’r Telerau i’r naill Lywodraeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones

 

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu fel sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda

Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gytundeb Penawdau’r Telerau Posib ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ddarostynedig i’r addasiadau isod yn cael eu ymgorffodi yn y Cynllun:

1.    Hyblygrwydd o ran amerlenu, proffilio gwariant a blaenoriaethu prosiectau yn Rhan 7 o’r Cynllun Gweithredu ar sail eu haeddfedrwydd a’u fforddiadwyedd.

2.    Hyblygrwydd ar y pecyn cyllideb gan y ddwy Lywodraeth ar gyfer gweithredu’r prosiectau yn y Cynllun Gweithredu.

3.    Ychwanegu amserlen ar gyfer sefydlu Gorffennaf 2019 fel y dyddiad ar gyfer cytuno  Pennawdau’r Telerau i’r naill Lywodraeth.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas y Cynllun Gweithredu yw amlygu cynnig y Bwrdd Uchelgais yngyd ag amlygu cyd-destun ynghyd a gweledigaeth TWF. Mynegwyd fod y ddogfen wedi ei greu drwy gydweithrediad ac wedi ei gymeradwyo gan y Grŵp Gweithredol. Ategwyd fod y cynllun yn dod a’r prif faterion at ei gilydd gan gynnwys amserlen y cynlluniau, cynlluniau busnes amlinellol a threfniadau swyddfa raglen. Esboniwyd y bydd y Cynllun Gweithredu yn amlygu i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fod y cynlluniau yn gyffroes a bod trefn effeithiol yn y rhanbarth.

 

Tynnwyd sylw at Wylfa gan nodi fod y Cynllun yn rhoi ystyriaeth lawn i Wylfa ynghyd a’r camau nesaf fydd angen eu cymryd. Ychwanegwyd fod rôl busnesau i’w gweld yn y Cynllun yn llawn bellach gyda Phencampwr o’r Sector Fusnes i’w gweld ym mhob prosiect.

 

Nodwyd fod y Cynlluniau Busnes Amlinellol yn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer yr holl brosiectau yn rhan o’r Cynllun Gweithredu. Nodwyd fod cyfarfod wedi cael ei gynnal wythnos diwethaf gyda’r Gweithdy Busnes Gogledd Cymru i drafod yr holl brosiect gan nodi’r deilliannau a phryderon gan amlygu’r cyd-gysylltu a fydd rhwng y Sector Breifat a’r Bwrdd Uchelgais. Yn ychwanegol at hyn pwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen gyda rhai prosiectau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cyfarfod oedd wedi ei gynnal gyda’r Grŵp Cyflawni Busnes Gogledd Cymru ac amlinellwyd y drafodaeth adeiladol a gafwyd yno. Mynegwyd fod aelodau’r grŵp yn teimlo yn bositif fod llawer o’r gwaith wedi ei wneud. Nodwyd fod angen codi momentwm a datblygu cynlluniau, gan nodi pwysigrwydd datblygu swyddi yn y blynyddoedd cyntaf. Wrth edrych ar y gyllideb, mynegwyd fod y Grŵp yn hapus fod mwy o arian yn mynd at gyflawni y thema Safleoedd ac Eiddo.  Ategwyd y bydd angen mwy o arian ar gyfer cyflawni’r thema Digidol. Amlinellwyd fod busnesau allweddol bellach yn rhan o’r cynllun ac felly roedd y Grŵp yn  credu nad oedd angen ail fwrdd ymgynghorol. Pwysleisiwyd fod gwaith pellach angen ei wneud i gyfathrebu ac adeiladu ar yr hyder sydd i’w gweld yn y rhanbarth.

-        Ychwanegwyd balchder fod busnesau eisiau bod yn rhan o’r cynllun, rhywbeth oedd wedi codi pryder ar ddechrau’r cynllun.

-        Trafodwyd yr angen i brosiectau bellach symud yn eu blaenau er mwyn cadw hygrededd yr holl gynllun. Mynegwyd fod sialensiau am godi ond angen dangos arweinyddiaeth glir i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYLLIDEB 2019-20 pdf eicon PDF 110 KB

Adroddiad gan Dafydd Edwards, Cyngor Gwynedd  (ynghlwm).

Penderfyniad:

     I.        Derbyn a mabwysiadu Cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar gyfer 2019/20, wedi’i rannu rhwng costau’r Swyddfa Rheoli Rhaglen, Gwasanaethau Cefnogol y Corff Atebol a’r Cydbwyllgor.

    II.        Cymeradwyo’r trefniadau ac ariannu i Gyngor Gwynedd gyflawni swyddogaethau’r Corff Atebol, fel y nodir yn yr adroddiad.

  III.        Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen a Swyddog Adran 151 Cyngor Gwynedd i weithredu’r gyllideb a gymeradwyir.

  IV.        Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant o’r cyn trefniadau cysgodol i Gydbwyllgor y Bwrdd Uchelgais Economaidd.

   V.        Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19 i gronfa wrth gefn neilltuol, fydd ar gael i ariannu costau un-tro yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards

 

PENDERFYNIAD

      I.        Derbyn a mabwysiadu Cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar gyfer 2019/20, wedi’i rannu rhwng costau’r Swyddfa Rheoli Rhaglen, Gwasanaethau Cefnogol y Corff Atebol a’r Cydbwyllgor.

    II.        Cymeradwyo’r trefniadau ac ariannu i Gyngor Gwynedd gyflawni swyddogaethau’r Corff Atebol, fel y nodir yn yr adroddiad.

   III.        Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen a Swyddog Adran 151 Cyngor Gwynedd i weithredu’r gyllideb a gymeradwyir.

  IV.        Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant o’r cyn trefniadau cysgodol i Gydbwyllgor y Bwrdd Uchelgais Economaidd.

    V.        Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19 i gronfa wrth gefn neilltuol, fydd ar gael i ariannu costau un-tro yn y dyfodol.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen cymeradwyo’r gyllideb ac yr argymhelliad a gyflwynwyd. Nodwyd mai 2019/20 fydd y flwyddyn gyllideb lawn gyntaf y Cydbwyllgor a tynnwyd sylw penodol i benawdau yn y gyllideb. Nodwyd mai dim ond tair swydd sydd wedi ei hariannu ar gyfer cost Swyddfa Rheoli Rhaglen a fod ychydig o gyllideb ar gael ar gyfer Eiddo. Mynegwyd, gan nad oes penderfyniad wedi ei wneud am leoliad y Swyddfa Rheoli Rhaglen, gall costau newid yn unol â hynny. Ychwanegwyd fod y gyllideb ar gyfer y gost Swyddfa Rheoli Rhaglen yn rhagdybio y bydd angen prynu gwasanaeth i mewn ar gyfer cynllunio a datblygu prosiectau.

 

Mynegwyd fod y gost ar gyfer Gwasanaethau Cefnogol y Corff Atebol yn ffigwr ceidwadol, a bod nifer uchel o’r cyllideb yn mynd tuag at yr adran Gyllid. Yn y gyllideb hon, ategwyd, fod costau technoleg gwybodaeth ar gyfer cyfarpar a chefnogaeth technoleg gwybodaeth i’r tair swydd yn Swyddfa Rheoli Raglen. Ychwanegwyd y gall costau newid yn ddibynnol ar y lleoliad ac ati.

 

Nodwyd fod Cyfraniadau Partneriaid (Eraill) yn gyfraniad y chwe Cyngor, mynegwyd fod newid mewn pennawd er mwyn symlhau’r gyllideb. Gofynnwyd i fabwysiadu’r gyllideb fel bod modd symud ymlaen.

 

Sylwadau’n Codi o’r drafodaeth

-        Gofynnwyd am ddadansoddiad manwl o gostau cefnogaeth y Gwasanaeth Cyllid, gan fod y ffigwr o £105,000 yn ymddangos yn uchel. Nodwyd y bydd copi manwl yn cael ei anfon at yr aelodau yn y dyddiau nesaf.

-        Holwyd am adroddiad am gost haen uchaf pob penawd, i sicrhau fod y lefel ar gael ar gyfer yr haen uchaf yn gywir, ond mynegwyd y bydd mwy o eglurdeb am y mater pam yn edrych ar y modelau achosion busnes yn ystod y tri mis nesaf.

 

8.

DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD pdf eicon PDF 169 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyngor Gwynedd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo statws RAG (Red, Amber, Green) pob tasg o fewn y Rhaglen Waith gan nodi fod dau weithred o’r adran Penawdau’r Telerau sydd yn cael ei nodi yn isod yn newid o liw melyn i goch.

·         Sesiynau Herio gyda Gweinidigoion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

·         Cymeradwyaeth ffurfiol i Benawdau’r Telerau ar gyfer Cynllun Twf. 

 

Addasu’r amserlen a’r cyfrifoldeb ar gyfer rhai tasgau yn y Rhaglen Waith, yn unol â’r eglurhad yn rhan 4.3 a 4.4 o’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones

 

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo statws RAG (Red, Amber, Green) pob tasg o fewn y Rhaglen Waith gan nodi fod dau weithred o’r adran Penawdau’r Telerau sydd yn cael ei nodi yn isod yn newid o liw melyn i goch.

  • Sesiynau Herio gyda Gweinidigoion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
  • Cymeradwyaeth ffurfiol i Benawdau’r Telerau ar gyfer Cynllun Twf. 

 

Addasu’r amserlen a’r cyfrifoldeb ar gyfer rhai tasgau yn y Rhaglen Waith, yn unol â’r eglurhad yn rhan 4.3 a 4.4 o’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn manylu ar statws pob elfen o’r rhaglen waith. Ychwanegwyd fod y statws RAG (Red, Amber, Green) yn amlygu barn y Grŵp Gweithredu. Tynnwyd sylw at dasgau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer Chwarter 1, ond na fydd yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen, un o’r rhain oedd sesiynau herio gyda Gweinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod angen sicrwydd fod y cyfarfodydd herio yma yn cael eu cynnal.

 

Mynegwyd fod cais wedi ei gyflwyno i gyflwyno prosiect i’r LFFN (Local Full Fibre Network) sydd bellach wedi ei gymeradwyo a bod cynlluniau yn eu lle er mwyn dod o hyd i arian ychwanegol. Ategwyd fod gwaith cyson yn cael ei wneud i’r ddogfen a bydd y Cyfarwyddwr Arweiniol yn adrodd i’r Bwrdd i fod yn gwbl agored os oes unrhyw lithriad yn digwydd i brosiectau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr adroddiad yn dangos y datblygiad a rhwystrau o fewn y Cynllun.

-        Nodwyd mai’r prif bryder yw’r amserlen ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol i Benawdau’r Telerau, a'r rhwystredigaeth mae hynny yn ei greu i’r Bwrdd. Ategwyd ei bod yn syniad i’r lliw newid o felyn ar gyfer y pwynt yma i goch er mwyn sicrhau fod amserlen yn ei le. Mynegwyd y byddai’n syniad anfon llythyr at y ddau Lywodraeth yn rhoi amserlen y Bwrdd Uchelgais i gyflwyno'r Penawdau’r Telerau iddynt.

-        Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal ar gyfer lleoliad Trawsfynydd a nodwyd y byddai’n bosib i'r cynllun hwn gael trefn lywodraethol wahanol i eraill. Er trafodaethau i ddatblygu Trawsfynydd nodwyd fod angen cefnogi Wylfa yn ogystal, o ran lleoliad a chyfleoedd.

 

9.

CYFARWYDDWR RHAGLEN BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 75 KB

Adroddiad gan Dilwyn Williams, Cyngor Gwynedd  (ynghlwm).

Penderfyniad:

Penderfynwyd fod:

     I.        Cyfarfod sydd wedi ei amserlenu o’r  Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cytuno ar restr fer o ymgeiswyr i’w gwahodd ar gyfer ystyriaeth bellach.

    II.        Pob ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu Canolfan Asesu Broffesiynol. Bydda’i Ganolfan Asesu yn cael ei harwain gan asesydd allanol a ddefnyddir gan y Corff Atebol ar gyfer penodi i uwch swyddi. Bydd yr asesydd yn darparu adroddiad ysgrifenedig ar berfformiad pob ymgeisydd.

  III.        Cyfweliad ffurfiol gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer mewn cyfarfodydd ychwanegol o’r Bwrdd i’w drefnu gydag adborth o’r Ganolfan Asesu i’w ddarparu yn y cyfarfod cyn gwneud y penodiad.

  IV.        Cytunwyd, yn dilyn asesiad swydd, y bydd y swydd yn cael ei hysbysebu gyda’r cyflog o £86,000 i £96,000, gyda’r hyblygrwydd o ychwanegiad y farchnad os y byddai ymgeisydd arbennig yn ymgeisio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Dilwyn Williams - Prif Weithredwr Corff Atebol

 

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd fod:

  1. Cyfarfod sydd wedi ei amserlenu o’r  Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cytuno ar restr fer o ymgeiswyr i’w gwahodd ar gyfer ystyriaeth bellach.
  2. Pob ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu Canolfan Asesu Broffesiynol. Bydda’i Ganolfan Asesu yn cael ei harwain gan asesydd allanol a ddefnyddir gan y Corff Atebol ar gyfer penodi i uwch swyddi. Bydd yr asesydd yn darparu adroddiad ysgrifenedig ar berfformiad pob ymgeisydd.
  3. Cyfweliad ffurfiol gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer mewn cyfarfodydd ychwanegol o’r Bwrdd i’w drefnu gydag adborth o’r Ganolfan Asesu i’w ddarparu yn y cyfarfod cyn gwneud y penodiad.
  4. Cytunwyd, yn dilyn asesiad swydd, y bydd y swydd yn cael ei hysbysebu gyda’r cyflog o £86,000 i £96,000, gyda’r hyblygrwydd o ychwanegiad y farchnad os y byddai ymgeisydd arbennig yn ymgeisio.

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Bwrdd wedi nodi eisoes eu bod yn awyddus i benodi mor fuan a bod modd ac i sicrhau fod y broses recriwtio yn effeithiol a gwydn. Nodwyd fod y swydd bellach wedi ei arfarnu yn dilyn trefn Cyngor Gwynedd ac mae wedi arfarnu’r swydd a’r gyflog o £86,000 i £96,000.

 

Tynnwyd sylw ar y drefn recriwtio gan holi’r camau mae’r Bwrdd am ei gymryd o ran hysbytsebu a creu rhestr fer.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd fod y cyflog yn deg, ond ategwyd yr angen isod yn hyblyg gyda’r cyflog a nodwyd y byddai ystyriaeth i  ychwanegiadau’r farchnad os byddai ymgeisydd arbennig yn ymgeisio.

-        Nodwyd fod angen i’r Bwrdd Uchelgais greu’r rhestr fer mewn cyfarfod sydd wedi ei amserlennu yn barod.