skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Madog, Coleg Llandrillo, Ffordd Llandudno, Rhos on Sea LL28 4HZ

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a cyflwynwyd ymddiheuriadau gan Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych), David Jones (Coleg Cambria) Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Is Ganghellor, Yr Athro Graham Upton (Prifysgol Bangor), Dafydd Edwards (Swyddog Adran 151) a Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Gadawodd y Cyfarwyddwr Arweiniol ac yr Uwch Swyddog Gweithredol y cyfarfod ar gyfer yr eitem frys oherwydd buddiant.

 

3.

MATERION BRYS

Penderfyniad:

Ail-hysbysebu’r swydd gyda chyflog wedi  osod rhwng £86,000 ac uchafswm o £106,000 yn ddarostyngedig i adrodd ar y cyflog arfaethedig  i  Gyngor Llawn y Corff Atebol fydd yn lletya’r swydd.

Cofnod:

Nodwyd fod un mater brys i’w drafod – Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen.

Penderfynwyd trafod yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod. 

 

4.

DIWEDDARIAD AR RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 165 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Adolygwyd, diweddarwyd a chymeradwywyd statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNIAD

 

Adolygwyd, diweddarwyd a chymeradwywyd statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen diweddaru cynnydd y tasgau ar y Rhaglen Waith

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Bwrdd yn agosáu at Benawdau’r Telerau ar gyfer Cynllun Twf ac y bydd modd eu harwyddo cyn diwedd Gorffennaf. Mynegwyd fod Sesiwn Herio gyda’r Sector Breifat a Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru bellach wedi ei gynnal a oedd wedi bod yn gadarnhaol gydag adborth positif. 

 

Tynnwyd sylw ar £7miliwn sydd wedi ei gymeradwyo gan  yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth fel rhan o’r Rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Leol. Ychwanegwyd fod y swydd Rheolwr Rhaglen Ddigidol wedi ei hysbysebu.

 

Mynegwyd fod llythyr diweddariad wedi ei anfon at Ken Skates AC , Alun Cairns AS a Kevin Foster AS yn dilyn y cyfarfod diwethaf, ac y bydd gohebiaeth debyg yn cael eu hanfon yn dilyn bob cyfarfod y Bwrdd Uchelgais.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Trafodwyd y cyfarfodydd herio gan nodi fod y sesiwn gyda’r Sector breifat yn gadarnhaol gydag awgrymiadau adeiladol.

¾     Pwysleisiwyd pwysigrwydd arwyddo Penawdau’r Termau cyn diwedd Gorffennaf.

¾     Mynegwyd fod angen pwysleisio a chyfleu fod pawb a rôl i’w chwarae er mwyn sicrhau fod y Cynllun Twf yn gweithio ac nid yr awdurdodau yn unig.

¾     Mynegwyd pryderon am rhai o gynlluniau sydd i’w gweld yn yr ail don, gan fod rhai cwmnïau yn barod i gyfrannu yn ariannol. Mynegwyd fod angen bod yn hyblyg gyda phrosiectau a manteisio ar gyfleodd pan yn codi. Ychwanegwyd y bydd sesiynau herio ar gyfer y cynlluniau’r ail don yn cael ei gynnal yn fuan.

¾     Mynegwyd fod angen amserlen o ran penderfyniadau fydd angen ei wneud gan yr awdurdodau fel bod modd eu rhaglennu yn eu trefniadau Cabinet a Chynghorau llawn.

¾     Tynnwyd sylw at y cylchlythyr syml sydd wedi ei greu ond nodwyd fod angen gwybodaeth bellach mwy manwl yn arbennig ar gyfer Craffu gan nodi'r 14 prosiect arno bob tro gyda diweddariad ar bob prosiect.

 

5.

STRWYTHUR Y SWYDDFA RHAGLEN pdf eicon PDF 189 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo strwythur craidd y Swyddfa Rhaglen fel y nodwyd yn yr adroddiad a symud at recriwtio ar yr amod nad yw’n ychwanegu ar gyfraniadau ariannol craidd y Cynghorau a’r Partneriaid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo strwythur craidd y Swyddfa Rhaglen fel y nodwyd yn yr adroddiad a symud at recriwtio ar yr amod nad yw’n ychwanegu ar gyfraniadau ariannol craidd y Cynghorau a’r Partneriaid.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

         

Er mwyn bwrw ymlaen a datblygu a chyflawni’r Weledigaeth Twf a’r Cynllun Twf, bydd angen sefydlu Swyddfa Raglen. Bydd y swyddfa Raglen yn gyfrifol am gefnogi gweithgareddau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru  a fydd hefyd yn gyfrifol am fwrw ymlaen ag elfennau allweddol o Gynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod egwyddor y Swyddfa Raglen wedi ei dderbyn gan y Cydbwyllgor ond fod angen symud ymlaen. Ychwanegwyd fod amrywiol ffynonellau yn ariannu'r Swyddfa Raglen ond y bydd angen anelu i fod yn hunan arianol mewn pum mlynedd. Mynegwyd fod angen datblygu'r swyddfa raglen er mwyn bwrw ymlaen a datblygu a chyflawni’r Weledigaeth Twf.

 

Ymhelaethwyd at y ffrydiau ariannol a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer ran-ariannu costau’r swyddfa raglen yn benodol cais am arian ESF yn ogystal a elfen o gyfalafu prosiectau ar raddfa o tua 0.75% - 1%. Ychwanegwyd y bydd lefel isel y cyfalafu yn sicrhau y bydd arian craidd y cynllun twf yn cael ei ddefnyddio yn benodol ar brosiectau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Gan fod llawer o brosiectau’r ffrwd gyntaf yn barod fod angen symud ymlaen i ddechrau recriwtio.

¾     Tynnwyd sylw at y ffaith nad oes elfen gweinyddiaeth wedi ei nodi yn strwythur staffio.

¾     Trafodwyd ariannu’r swyddfa raglen gan nodi eu bod yn hapus i gyfalafu prosiectau ar raddfa o tua 0.75% - 1% ar gyfer costau staffio. Mynegwyd eu bod yn cytuno i symud ymlaen ond ar yr amod na fydd angen i Gynghorau na Phartneriaid wneud cyfraniad ariannol pellach.

 

6.

DIRPRWYO A STAFFIO pdf eicon PDF 168 KB

Adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro (ynghlwm).

Penderfyniad:

Cadarnhawyd y pennir strwythur staffio’r Swyddfa Raglen yn ystod cyfnod Cytundeb Llywodraethu 1 (“GA1”) gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Cytunwyd i ddirprwyo’r cyfrifoldeb i benodi swyddi ar y strwythur staffio cymeradwy dan lefel y Cyfarwyddwr Rhaglen i’r Cyfarwyddwr Rhaglen ac o fewn y cyfnod interim, Prif Weithredwr Y Corff Atebol  yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro - Corff Atebol.

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd y pennir strwythur staffio’r Swyddfa Raglen yn ystod cyfnod Cytundeb Llywodraethu 1 (“GA1”) gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Cytunwyd i ddirprwyo’r cyfrifoldeb i benodi swyddi ar y strwythur staffio cymeradwy dan lefel y Cyfarwyddwr Rhaglen i’r Cyfarwyddwr Rhaglen ac o fewn y cyfnod interim, Prif Weithredwr Y Corff Atebol  yn unol â’r adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Dan GA1 mae gan y Bwrdd Uchelgais rym i ddirprwyo ei swyddogaethau i Is-bwyllgorau a/neu Swyddogion. Un o elfennau allweddol y prosiect yw sefydlu a rheoli Swyddfa Raglen. Er bydd y staff yn gyflogeion i’r Corff Atebol yn gyfreithiol, maent gyfystyr ag adnodd rhanbarthol i’r Bwrdd Uchelgais a chant eu sefydlu a’u hariannu drwy gyllideb y Cydbwyllgor. Felly, mae ar y Bwrdd Uchelgais angen gosod egwyddorion clir yng nghyswllt y trefniadau hyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan nodi fod angen dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen benodi staff.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd mai mater gweithredol yw’r penderfyniad hwn gan mai penderfyniad ar pwy sydd yn pendoi swyddi yw’r penderfyniad ac nid strwythur staffio. Ychwanegwyd y bydd y swyddi yn cael ei pendoi drwy’r Corff Atebol.

 

 

7.

DIWEDDARIAD TRAFNIDIAETH A CHYNNYDD GYDA SEFYDLU IS-GRWP TRAFNIDIAETH pdf eicon PDF 210 KB

Adroddiad gan Iwan Prys Jones – Rheolwr Rhaglen (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi’r adroddiad a’r cynnydd sydd wedi’i wneud i sefydlu’r Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

 

  1. Cadarnhau derbyn y gefnogaeth gyllid a gynigir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodi llofnodi’r llythyr cynnig grant gan yr Awdurdod Lletya.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd David Bithell.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Nodi’r adroddiad a’r cynnydd sydd wedi’i wneud i sefydlu’r Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

 

2.    Cadarnhau derbyn y gefnogaeth gyllid a gynigir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodi llofnodi’r llythyr cynnig grant gan yr Awdurdod Lletya.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r Bwrdd Uchelgais wedi penderfynu sefydlu Is Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth ac adroddwyd ar y cynnydd ar weithredu’r penderfyniad ynghyd a gwaith y Grŵp Trafnidiaeth bresennol  wrth drosi i’r strwythur ffurfiol.  Adroddwyd ar y materion mwyaf brys yng nghyswllt y rhwydwaith bysiau rhanbarthol a’r dilyniant i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus.

 

Ymateb i gynnig o grant  a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ymchwil ynglŷn â datblygu cynigion y Papur Gwyn ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adoddiad gan dderbyn cefndir y Is-Grŵp Trafnidiaeth gan nodi pan ddiddymwyd Consortia Trafnidaieth Rhanbarthol yn 2014, fod yr aelodau Cabinet wedi parahu i gyfarfod yn anffurfiol. Ychwanegwyd eu bod bellach yn awyddus i drefniadau llywodraethu ffufiol i gyfarod nesaf y grŵp.

 

Amlinellwyd gwaith diweddariad yr Is-grŵp gan bwysleisio Rhwydwaith Bysus rhanbarthol, datgarboneiddio trafnidiaeth a phrosiectau peilot ynghyd a gweithredu parthau 20 milltir yr awr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Pwysleisiwyd fod y cyd-weithio sydd i’w weld yn gadarnhaol.

¾     Holwyd am eglurdeb o ran cynlluniau’r Weledigaeth Twf   gan fod rhai o’r cynlluniau yn rhai y dylid cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mynegwyd fod llawer o ddatblygiadau mawr a bach yn cael ei wneud er mwyn gweld intergreddio ar draws y rhanbarth fel datblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus.

¾     Trafodwyd rhai o’r cynlluniau gan bwysleisio fod trafnidiaeth yn rhan ganolog o ddatblygu’r economi

 

8.

RHAGLEN SGILIAU A CHYFLOGAETH, GWELDIGAETH GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 275 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones – Cyfarwyddwr Arweiniol a Sioned Williams – Is Gadeirydd Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (ynghlwm).

Penderfyniad:

Gohirio'r penderfyniad i ariannu un swydd gyfwerth a llawn amser (£50,000 am 12 mis) a fuasai’n gweithio ar brosiectau Porth Gwybodaeth a Chyngor a Llwybrau Cyflogadwyedd i gael cyfle i ystyried y prosiectau yn wyneb y Strategaeth Sgiliau fydd yn dod ger bron y Bwrdd yn fuan,  ymchwilio a chael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Prydain am y maes.

 

Gohirio cadarnhau'r dull cydlynu’r rhaglen sgiliau a chyflogadwyedd, gan ofyn am wybodaeth bellach ac eglurdeb pellach ar y rhaglen Sgiliau a Chyflogaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

 

Gohirio'r penderfyniad i ariannu un swydd gyfwerth a llawn amser (£50,000 am 12 mis) a fuasai’n gweithio ar brosiectau Porth Gwybodaeth a Chyngor a Llwybrau Cyflogadwyedd i gael cyfle i ystyried y prosiectau yn wyneb y Strategaeth Sgiliau fydd yn dod ger bron y Bwrdd yn fuan,  ymchwilio a chael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Prydain am y maes.

 

Gohirio cadarnhau'r dull cydlynu’r rhaglen sgiliau a chyflogadwyedd, gan ofyn am wybodaeth bellach ac eglurdeb pellach ar y rhaglen Sgiliau a Chyflogaeth.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Gofynnodd y Cydbwyllgor am fwy o wybodaeth ac eglurdeb  ar y rhaglen Sgiliau a Chyflogaeth cyn gwneud wneud penderfyniad ar y mater.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r 5 prosiect allweddol, gan nodi fod rhaglen waith glir i symud ymlaen a’r cynlluniau. Ychwanegwyd y bydd y rhaglen yn bwrw ymlaen a’r prosiectau Porth Gwyboaeth a Chyngor a Llwybr Cyflogadwyedd, ond bod angen adnodd ychwanegol i alluogi’r gwaith symud ymlaen. Nodwyd fod gwaith sylweddol wedi ei wneud sydd yn dangos ymarfer da yn y maesydd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Codwyd pryderon am yr angen i gael adnodd i symud ymlaen y ddau brosiect: Porth Gwybodaeth a Chyngor; a’r Llwybr Cyflogadwyedd. Ychwanegwyd fod pryderon y byddai’n dyblygu gwaith gyda Llywodraeth Cymru.

¾     Mynegwyd ei bod yn gyn amserol i wneud y penderfyniad a bod angen mwy eglurdeb ar y 2 brosiect, ynghyd a chynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ei rôl o fewn y prosiectau ynghyd a’r berthynas rhwng y Bwrdd Uchelgais a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

 

9.

SEFYDLU IS-GRWP YNNI A DIWEDDARIAD AR GYNLLUNIO YNNI RHANBARTHOL pdf eicon PDF 187 KB

Adroddiad gan Rhys Horan – Arweinydd Strategol Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (ynglwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1. Sefydlu Is-grŵp Ynni gyda’r Rôl a Chylch Gorchwyl  yn Atodiad 1yr adroddiad.

 

2.Penodi Cyng. Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn fel aelod o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fydd yn gweithredu fel aelod cyswllt ar gyfer yr Is-grŵp Ynni.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rhys Horan, Arweinydd Strategol – Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

1. Sefydlu Is-grŵp Ynni gyda’r Rôl a Chylch Gorchwyl  yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

2. Penodi Cyng. Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn fel aelod o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fydd yn gweithredu fel aelod cyswllt ar gyfer yr Is-grŵp Ynni.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn gwella’r gwaith o gydlynu prosiectau sy’n ymwneud ag ynni o fewn y rhanbarth a chyflawni’r targed ynni carbon Isel sydd wedi’i adnabod yn y Cynllun Twf.

 

Bod statws Is-grŵp yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r adolygiad o’r trefniadau llywodraethu i’w sefydlu yng Nghytundeb Llywodraethu 2. 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod datganiadau diweddar yn nodi fod argyfwng hinsawdd gan bwysleisio fod angen i Ogledd Cymru fod ar flaen y gad o ran ynni. Ychwanegwyd fod angen gweithio ar gynllunio ynni rhanbarthol a datblygu’r weledigaeth ac i’r Bwrdd Uchelgais i berchnogi’r cynlluniau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Pwysleisiwyd sut mae’r Is-grŵp yn ffitio i mewn i fframwaith y Bwrdd Uchelgais gan nodi y byddai’n Fwrdd Ymgynghorol.

¾     Trafodwyd aelodaeth y bwrdd yn benodol Cyfoeth Naturiol Cymru gan nodi o bosib y buasai’n her gan eu bod yn rheoleiddwyr.

¾     Pwysleisiwyd fod angen sicrhau budd lleol gydag unrhyw ynni carbon isel.

 

 

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

11.

PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Ail-hysbysebu’r swydd gyda chyflog wedi  osod rhwng £86,000 ac uchafswm o £106,000 yn ddarostyngedig i adrodd ar y cyflog arfaethedig  i  Gyngor Llawn y Corff Atebol fydd yn lletya’r  swydd.

 

RHESWMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nododd aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn dilyn methu penodi Cyfarwyddwr Raglen, mae angen ail-hysbysebu er gwneud penodiad allweddol o benodi Cyfarwyddwr Rhaglen mor fuan a bod modd, gan sicrhau fod y broses recriwtio a’r trefniadau yn rhai effeithiol a gwydn.

 

Er cyfarch yr arweiniad statudol  “Atebolrwydd Tal  o fewn Lywodraeth Leol yng Nghymru – Arweiniad dan Adran 40 Deddf Lleoliaeth 2011.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ar y sefyllfa yn dilyn  cyfweliadau diweddar  nad oedd penodiad i’r swydd  Cyfarwyddwr Rhaglen, ac o ganlyniad fod angen penderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod angen hysbysebu mor fuan â phosib er mwyn sicyrhau cyn-lleied o gyfnod heb Gyfarwyddwr Rhaglen ac sydd yn bosib.

¾     Penderfynwyd ar yr uchafswm cyflog gan nodi y buasai’r Bwrdd yn derbyn secondiad i’r swydd yn ogystal er mwyn annog diddordeb.