skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 220 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 24 Ionawr 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2020 fel rhai cywir. 

 

5.

PENAWDAU'R TELERAU pdf eicon PDF 430 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams – Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi fod Penawdau’r Telerau wedi’u cwblhau.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Drafftiwyd Cytundeb Penawdau’r Telerau gan y ddwy Lywodraeth yng nghyd-destun y Ddogfen Gynnig ac yn unol â’r cynnig gan y Bwrdd Uchelgais o fewn y Cynllun Gweithredu. Bu i’r Bwrdd Uchelgais drafod a chymeradwyo’r ddogfen drafft yn ystod cyfarfod y Bwrdd ar 26 Gorffennaf a 6 Medi 2019. Ar gyhoeddiad y ddogfen derfynol cyflwynwyd y ddogfen yn ffurfiol i’r Bwrdd i’w nodi yn gyhoeddus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno fersiwn wedi’i lofnodi o’r cytundeb Penawdau’r Telerau a baratowyd yng nghyd-destun y Ddogfen Gynnig a’r Cynllun Gweithredu. Nodwyd fod angen penderfyniad i nodi fod y Penawdau’r Telerau wedi’i chwblhau.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Pwysleisiwyd fod llofnodi’r Penawdau’r Telerau yn arwyddocaol gan ei fod yn dangos ymrwymiad y ddwy Lywodraeth yn glir i waith y Bwrdd Uchelgais. Ategwyd fod y penawdau yn ogystal yn dangos partneriaeth dda gyda’r ddwy Lywodraeth a mynegwyd fod y Bwrdd yn edrych ymlaen at lofnodi’r ddogfen derfynol cyn diwedd y flwyddyn. 

 

 

 

6.

LLYWODRAETHU RHAGLENNI pdf eicon PDF 456 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

·         Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol

·         Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.

·         Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.

·         Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.

·         Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

¾     Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol.

¾     Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.

¾     Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.

¾     Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.

¾     Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Roedd angen i’r Bwrdd Uchelgais fabwysiadu model llywodraethu’r rhaglen yn seiliedig ar arfer gorau  i sicrhau fod Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael ei gyflawni’r llwyddiannus.

 

O ystyried graddfa a chymhlethdod y bartneriaeth a phortffolio’r gwaith sydd i’w gyflawni, mynegwyd angen i sefydlu model clir ar gyfer llywodraethu’r portffolio, y rhaglenni a’r prosiectau.

           

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd llywodraethu ar gyfer prosiectau nid ar gyfer trefniadau ond ar gyfer y weledigaeth. Mynegwyd fod y model yn seiliedig ar ddull arfer gorau ar gyfer rheoli prosiectau ac yn adeiladau ar y strwythur sydd i’w gweld yn barod.

 

Amlygwyd mai’r prif newid oedd bod byrddau rhaglen yn cael ei sefydlu a fydd yn cael gwared â’r is-grwpiau. Ni fydd y rhain yn is-fyrddau ffurfiol o’r Bwrdd Uchelgais ond yn fyrddau rhaglen fydd yn goruchwylio gwaith ac yn gynnig argymhellion nid gwneud penderfyniadau. Tynnwyd sylw at y strwythur gan amlygu pa Aelodau a fydd yn Aelod Arweiniol ar gyfer bob rhaglen, a fydd yn linc rhwng y byrddau a’r Bwrdd Uchelgais.

 

Mynegwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi ei amlygu fel Grŵp i gydlynu Adfer Economi yn dilyn Covid-19. Nodwyd mai nod ac amcan y grŵp cydlynu adfer Economi fydd i hwyluso’r cyfnod yn dilyn Covid.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Holwyd y sut mae’r strwythur Grŵp Adfer a’r Bwrdd Uchelgais yn gweithio gyda’i gilydd ac os bydd effaith ar brosiectau. Mynegwyd fod 4 thema wedi ei amlygu ar gyfer y grwpiau adfer ar draws y rhanbarth ac un o’r rhain yw’r economi ac y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at yr aelodau.

·         Ychwanegwyd y bydd y Bwrdd drwy’r Grŵp Adfer yn gosod amcanion ac arwain ar y gwaith ond ddim yn ymateb yn uniongyrchol. Pwysleisiwyd y bydd angen gweithio mewn partneriaeth gyfer Llywodraeth.

 

 

7.

CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 pdf eicon PDF 540 KB

Adroddiad gan Iwan G Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Lletyol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans  - Swyddog Monitro y Awdudrdod Lletyol.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad ynghyd a’r Cynllun Prosiect Cytundeb Llywodraeth 2 diwygiedig yn ddarostyngedig i dderbyn diweddariad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae cytundeb y bartneriaeth danategol a’r fframwaith llywodraeth yn allweddol i gytuno ar Gytundeb Llywodraeth 2 (GA2) cynhwysfawr. Mae’r GA2 yn ddogfen sy’n cyfundrefnu perthynas ac ymrwymiad y partïon yn bennaf, ynghyd â’u cyfrifoldebau a’u hatebolrwydd ynghyd â sefydlu’r fframwaith llywodraethu cefnogol. Roedd angen i’r Bwrdd graffu a chytuno rhaglen ar gyfer cwblhau y gwaith yma i gyd fynd a’r amcan o gwblhau y Cytundeb Terfynol yn ystod Rhagfyr 2020..

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddioad hwn wedi ei raglennu  ar gyfer mis Mawrth er mwyn dilyn amserlen y cynllun gwaith er mwyn arwyddo’r cytundeb terfynol ym mis Rhagfyr ond fod Covid wedi ei gadw yn ôl hyn y cyfarfod hwn. Pwysleiswyd fod cytundeb Llyowdraethu 2 yn allweddol ar gyfer Cytundeb Terfynol.

 

Nodwyd fod gweithdy Llywodraethu wedi ei gynnal i adnabod a deall y materion sydd angen cytuno arnynt neu eu datrys rhwng y partneriaid. Amlygwyd y materion allweddol. Amlygwyd fod llithriad yn yr amserlen sydd yn heriol ac y bydd angen adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd yr angen i sicrhau fod y drefn craffu mor syml â phosib ac yn disgyn i mewn i drefniadau sydd i’w gweld yn yr awdurdodau yn barod. Ychwanegwyd fod amserlen craffu mynd i’w gwneud yn anodd cyrraedd y targed o gwblhau'r cytundeb Twf Terfynol erbyn Rhagfyr 2020.

·         Nodwyd y bydd adroddiad pellach cynhwysfawr yn cael ei gyflwyno i’r aelodau yn cyfarfod nesaf.

 

8.

MODELAU MASNACHOL pdf eicon PDF 380 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Penderfyniad:

Rhoddwyd sylwadau ar y papur gan nodi y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Swyddfa Raglen, y Grŵp Cefnogaeth Weithredol a Swyddogion Cyllid ar sut gellir defnyddio modelau masnachol i ddyrannu arian ar gyfer rhaglenni a phrosiectau, gan nodi y bydd adroddiad pellach ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau.

 

PENDEFYNIAD

 

Rhoddwyd sylwadau ar y papur gan nodi y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Swyddfa Raglen, y Grŵp Cefnogaeth Weithredol a Swyddogion Cyllid ar sut gellir defnyddio modelau masnachol i ddyrannu arian ar gyfer rhaglenni a phrosiectau, gan nodi y bydd adroddiad pellach ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Fel rhan o’r gwaith datblygu achosion busnes y rhaglen,  mae angen i’r Bwrdd Uchelgais  ddatblygu  y modelau  ariannu ar gyfer y Rhaglenni a Phrosiectau. Roedd angen tynnu sylw at  y math  o fodelau masnachol ac ariannu posib a’r ystyriaethau fydd yn berthnasol all hefyd  gyflwyno cyfle  ailgylchu arian yn ôl i’r Cynllun Twf ar gyfer buddsoddiad pellach yn y dyfodol.

 

            TRAFODAETH

           

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen i fwrw ymlaen a’r gwaith ar fodelau masnachol ac ariannu fel rhan o’r pecyn o waith sydd ei angen ar gyfer sicrhau'r Cynllun Terfynol gyda’r Llywodraethau. Amlygwyd tri model posib a oedd yn grant, benthyciad neu fuddsoddiad neu gyfuniad o’r tri.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Mynegwyd fod y syniadau am fodelau yn agored i hyblygrwydd ac na fydd angen i bob prosiect i weithio'r un ffordd.

·         Nodwyd fod angen edrych ar hyn i sicrhau arian ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau, ac y bydd adroddiad pellach i ddilyn.

·         Pwysleisiwyd mai edrych ar ffordd o ddefnyddio’r arian sydd gan y Bwrdd yw’r modelau rhain ac nid chwilio am fwy o fuddsoddiad.

 

9.

ADRODDIAD ALLDRO 2019/20 pdf eicon PDF 518 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod

Lletya.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.

 

Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol.

           

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.

           

Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen i’r Cyd-bwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa ariannol ar gyfer 2019/20 a chydymffurfio a’r gofynion statudol yn nhermau cwblhau’r adroddiad blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn nodi'r cyfrifon terfynol ac y bydd angen cymeradwyaeth i’r ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd bwyllgor. Ychwanegwyd y bydd y cyfrifon a’r adroddiad yn destun archwiliad gan Deloitte  a pe byddai angen unrhyw newidiadau, caiff fersiwn diwygiedig ei gyflwyno yn y cydbwyllgor nesaf.

 

Tynnwyd sylw at y tanwariant gan nodi’r rhesymau dros y tanwariant a oedd yn cynnwys gostyngiad i wasanaethau cefnogol y Corff Atebol. Ychwanegwyd nad oedd arian Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd wedi ei dderbyn tan fis Mai 2020 ac felly nid yw’n ymddangos yn y cyfrifon 2019/20. Felly, ychwanegwyd caiff ei ail hawlio’n ôl-weithredol yn ystod 2020/21 a’i ôl-ddyddio i 1 Gorffennaf 2018. Amlygwyd fod tanwariant o £161,316 a'i fod wedi ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn a’i glustnodi i roi gweddill o £497,529 a fydd ar gael i ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion a ganlyn:-

·         Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.

·         Mynegwyd fod llythyr cadarnhad am  arian Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd wedi ei dderbyn a bydd hyn yn galluogi’r Tîm Swyddfa Rhaglen i ddechau paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf i ddod.

 

10.

CYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 507 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod

Lletya.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cyllideb 2020/21 gydag Arian Grant ESF (Atodiad 1b) a rhoddwyd yr  hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd a’r Cadeirydd, i ymrwymo hyd at £100,000 ychwanegol o’r gronfa wrth gefn yn ystod y flwyddyn, ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau pe bai angen hynny, er mwyn cynnal a gwireddu amserlen y rhaglen waith ar gyfer y Cynllun Twf terfynol

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid yr Awdudod Lletyol.

 

PENDERFYIAD

 

Cymeradwywyd Cyllideb 2020/21 gydag Arian Grant ESF (Atodiad 1b) a rhoddwyd yr  hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd a’r Cadeirydd, i ymrwymo hyd at £100,000 ychwanegol o’r gronfa wrth gefn yn ystod y flwyddyn, ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau pe bai angen hynny, er mwyn cynnal a gwireddu amserlen y rhaglen waith ar gyfer y Cytundeb  terfynol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen  i’r Bwrdd Uchelgais osod y gyllideb arfaethedig fesul pennawd gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn. Drwy dderbyn cymeradwyaeth y Bwrdd, mae modd gweithredu'n effeithiol o fewn y gyllideb sydd ar gael

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod fod yr eitem hon wedi cael ei gytuno dros e-bost yn dilyn gohirio’r cyfarfod blaenorol o ganlyniad i argyfwng yr haint Covid-19 er mwyn i’r Bwrdd Uchelgais gael gweithredu dros y ddau fis diwethaf. Ychwanegwyd pan ysgrifennwyd yr adroddiad nad oedd cadarnhad ffurfiol wedi ei dderbyn ar gyfer y grant ESF ac felly fod angen i’r aelodau ganolbwyntio ar senario 2 yn y gyllideb.

 

Amlygwyd y prif newidiadau a fydd rhwng cyllideb 2019/20 a 2020/21 gan y bydd cynnydd yn y costau staffio a gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer cynllunio, datblygu a chefnogi prosiectau. Ychwanegwyd y bydd Incwm Grant y Cais Twf yn cael ei dderbyn yn ystod y flwyddyn ond os bydd yn cael ei dderbyn yn ystod y chwarter olaf, ategwyd y byddant yn ymdrin â hynny'r bryd hynny.

 

Tynnwyd sylw ar yr angen i wneud trosglwyddiadau unwaith ac am byth i’w hariannu o’r gronfa wrth gefn i ariannu gwawriant dan y penawdau canlynol “Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus” a “Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau”. Trafodwyd y Gyllideb gan nodi fod y gyllideb yn defnyddio £272,470 i ariannu gwariant unwaith ac am byth a fydd yn gadael gweddill o £358,000 yn y gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi i ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion a ganlyn:-

·         Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu gwaith a nodwyd fod angen ymrwymo £100,000 ychwanegol i’r pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau i sicrhau fod cynlluniau yn cael eu cwblhau. 

 

11.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol.

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i gau allan y wasg a’r cyhoedd ar gyfer y ddwy eitem ganlynol.

 

.

 

 

12.

ADOLYGIAD GWAELODLIN PROSIECTAU

I ystyried yr adroddiad (copi ar wahân i’r Aelodau yn unig).

 

Bydd y wasg a’r cyhoeddi wedi eu cau allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau .

 

 

Penderfyniad:

1.         Nodi cynnwys yr adroddiad adolygiad gwaelodlin a'r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod.

 

2.         Nodi y bydd y Cynllun Terfynol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn seiliedig ar Achosion Busnes y Rhaglen.

 

3.         Cytuno i brosiect Datgarboneiddio Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gyflawni fel rhan o'r   Rhaglen  Ynni Carbon Isel ac na fydd achos busnes Rhaglen Trafnidiaeth penodol  yn cael ei ddatblygu fel rhan o gytundeb y Cynllun Terfynol.

Cofnod:

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Nodi cynnwys yr adroddiad adolygiad gwaelodlin a'r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod.

 

  1.  Nodi y bydd y Cynllun Terfynol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn seiliedig ar Achosion Busnes y Rhaglen.

 

  1. Cytuno i brosiect Datgarboneiddio Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gyflawni fel rhan o'r   Rhaglen  Ynni Carbon Isel ac na fydd achos busnes Rhaglen Trafnidiaeth penodol  yn cael ei ddatblygu fel rhan o gytundeb y Cynllun Terfynol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Roedd  y Swyddfa Rhaglen wedi cynnal adolygiad gwaelodlin o’r 14 prosiect a chwe rhaglen sy’n ffurfio rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru. Yn dilyn yr adolygiad roedd angen diweddaru’r Bwrdd Uchelgais ar sefyllfa pob rhaglen a’r broses i gyflawni’r cynllun terfynol.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adoddiad.

 

13.

BWRDD CYFLAWNI BUSNES

Penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).

 

Bydd y wasg a’r cyhoeddi wedi eu cau allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

Penderfyniad:

Oherwydd y newid mewn cyd-destyn gohirio  symud ymlaen a’r  broses penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes er mwyn rhoi cyfle i’r Bwrdd Uchelgais ystyried oedd angen adolygu  rôl  y Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

Fod adroddiad pellach i’w gyflwyno yn dilyn ymgynhoriad a’r sector breifat a’r Bwrdd Cyflawni Busnes.

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Oherwydd y newid mewn cyd-destyn gohirio  symud ymlaen a’r  broses penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes er mwyn rhoi cyfle i’r Bwrdd Uchelgais ystyried oedd angen adolygu  rôl  y Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

Fod adroddiad pellach i’w gyflwyno yn dilyn ymgynhoriad a’r sector breifat a’r Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

O ystyried bod chwe mis wedi mynd heibio ers i’r rhestr fer o ymgeiswyr gael ei chreu, Covid-19 wedi newid y cyd-destun economaidd rhanbarthol yn sylweddol ynghyd a newidiadau safbwynt  o ran mewnbwn y 2 Lywodraeth i’r penodiad, roedd angen i’r  Bwrdd Uchelgais adlewyrchu ar y sefyllfa ac ystyried sut i symud ymlaen.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adorddiad.