Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2020 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 23
Hydref, 2020 fel rhai cywir. |
|
CYTUNDEB TERFYNOL - DOGFENNAU ATODOL Alwen
Williams i ddiweddaru ar broses y Cynllun Twf Terfynol a chyflwyno'r
dogfennau atodol sydd eu hangen i gyrraedd Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun
Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu'r
dogfennau atodol i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd, sef y Gofrestr Risg, y
Cynllun Monitro a Gwerthuso, y Strategaeth Gwireddu Buddion a'r Strategaeth
Rheoli Newid ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans
(Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD mabwysiadu'r dogfennau atodol i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd, sef
y Gofrestr Risg, y Cynllun Monitro a Gwerthuso, y Strategaeth Gwireddu Buddion
a'r Strategaeth Rheoli Newid ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae'r Bwrdd Uchelgais yn ymrwymedig i gyflawni Cytundeb Terfynol gyda'r
ddwy Lywodraeth cyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Mae'r Swyddfa Rheoli Portffolio wedi datblygu'r dogfennau sydd angen eu
cyflwyno i'r ddwy Lywodraeth er mwyn cyrraedd Cytundeb Terfynol. Mae angen i'r Swyddfa Rheoli Portffolio gael trefniadau rheoli
effeithiol yn eu lle er mwyn sicrhau y gellir cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru yn llwyddiannus. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn diweddaru’r Bwrdd ar broses y Cynllun Twf Terfynol ac yn
cyflwyno’r dogfennau atodol oedd eu hangen i gyrraedd Cytundeb Terfynol ar
gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod bwriad i barhau i ddatblygu a
mireinio’r dogfennau hyn dros y 6-12 mis nesaf. Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Nododd y Cadeirydd
fod yr holl bartneriaid bellach wedi cymeradwyo’r dogfennau allweddol oedd eu
hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Diolchodd i bawb am eu gwaith ardderchog gan nodi fod yr hyn roedd y 6
awdurdod, yn gweithio ar y cyd ar draws y Gogledd gyda’u partneriaid a’r prif
weithredwyr, wedi llwyddo i’w gyflawni yn anhygoel. Nodwyd ymhellach
bod Bwrdd Gweithredu Cynlluniau Twf a Dinesig Cymru wedi cymeradwyo’r achos
busnes portffolio. Roedd cyngor yn cael
ei baratoi i’r gweinidogion a threfniadau ar y gweill ar gyfer cynnal seremoni
arwyddo’r Cytundeb Terfynol yn rhithiol ar 17 Rhagfyr. Anogwyd pawb i roi cyhoeddusrwydd i’r
digwyddiad hwn fel bod mwy o’n partneriaid a thrigolion Gogledd Cymru yn gallu
ymuno yn y dathliad. Yn ystod y
drafodaeth, nodwyd:- ·
Bod y fframwaith yn gadarn ac ansawdd yr adroddiadau
yn wych, a llongyfarchwyd y Tîm ar eu holl waith. ·
O ystyried y sefyllfa o ran Brexit, a’r risgiau o gwmpas
newidiadau economaidd, ei bod yn dda gweld pwyslais ar fodelu rhesymeg a
rhagdybiaethau, fel ei bod yn glir i ni petai’r amgylchedd yn newid, neu fod
rhywbeth yn effeithio ar y prosiectau rydym yn gweithio arnynt. Roedd yn dda cael dogfennau mewn amser real
i’n galluogi i ddadansoddi a yw’r buddion yn cael eu gwireddu, neu a oes angen
i ni weithredu’n wahanol o ganlyniad i newidiadau posib’ yn yr amgylchedd,
megis Brexit. |