skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2020 fel rhai cywir.

 

5.

CYTUNDEB TERFYNOL - DOGFENNAU ATODOL pdf eicon PDF 498 KB

Alwen Williams i ddiweddaru ar broses y Cynllun Twf Terfynol a chyflwyno'r dogfennau atodol sydd eu hangen i gyrraedd Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu'r dogfennau atodol i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd, sef y Gofrestr Risg, y Cynllun Monitro a Gwerthuso, y Strategaeth Gwireddu Buddion a'r Strategaeth Rheoli Newid ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r dogfennau atodol i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd, sef y Gofrestr Risg, y Cynllun Monitro a Gwerthuso, y Strategaeth Gwireddu Buddion a'r Strategaeth Rheoli Newid ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae'r Bwrdd Uchelgais yn ymrwymedig i gyflawni Cytundeb Terfynol gyda'r ddwy Lywodraeth cyn diwedd mis Rhagfyr 2020.

 

Mae'r Swyddfa Rheoli Portffolio wedi datblygu'r dogfennau sydd angen eu cyflwyno i'r ddwy Lywodraeth er mwyn cyrraedd Cytundeb Terfynol.

 

Mae angen i'r Swyddfa Rheoli Portffolio gael trefniadau rheoli effeithiol yn eu lle er mwyn sicrhau y gellir cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn llwyddiannus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn diweddaru’r Bwrdd ar broses y Cynllun Twf Terfynol ac yn cyflwyno’r dogfennau atodol oedd eu hangen i gyrraedd Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Nodwyd bod bwriad i barhau i ddatblygu a mireinio’r dogfennau hyn dros y 6-12 mis nesaf.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nododd y Cadeirydd fod yr holl bartneriaid bellach wedi cymeradwyo’r dogfennau allweddol oedd eu hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Diolchodd i bawb am eu gwaith ardderchog gan nodi fod yr hyn roedd y 6 awdurdod, yn gweithio ar y cyd ar draws y Gogledd gyda’u partneriaid a’r prif weithredwyr, wedi llwyddo i’w gyflawni yn anhygoel.

 

Nodwyd ymhellach bod Bwrdd Gweithredu Cynlluniau Twf a Dinesig Cymru wedi cymeradwyo’r achos busnes portffolio.  Roedd cyngor yn cael ei baratoi i’r gweinidogion a threfniadau ar y gweill ar gyfer cynnal seremoni arwyddo’r Cytundeb Terfynol yn rhithiol ar 17 Rhagfyr.  Anogwyd pawb i roi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad hwn fel bod mwy o’n partneriaid a thrigolion Gogledd Cymru yn gallu ymuno yn y dathliad.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod y fframwaith yn gadarn ac ansawdd yr adroddiadau yn wych, a llongyfarchwyd y Tîm ar eu holl waith.

·         O ystyried y sefyllfa o ran Brexit, a’r risgiau o gwmpas newidiadau economaidd, ei bod yn dda gweld pwyslais ar fodelu rhesymeg a rhagdybiaethau, fel ei bod yn glir i ni petai’r amgylchedd yn newid, neu fod rhywbeth yn effeithio ar y prosiectau rydym yn gweithio arnynt.  Roedd yn dda cael dogfennau mewn amser real i’n galluogi i ddadansoddi a yw’r buddion yn cael eu gwireddu, neu a oes angen i ni weithredu’n wahanol o ganlyniad i newidiadau posib’ yn yr amgylchedd, megis Brexit.