Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Yana Williams (Coleg Cambria), yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) a Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Askar Sheibani fuddiant personol yn eitem 7 – Adroddiad ar Uchafbwyntiau’r Portffolio – oherwydd ei fod yn aelod o gonsortiwm y prosiect DSP (Y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol).

 

Nid oedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

 

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 207 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2020 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB 2020/21: ADOLYGIAD 3ydd CHWARTER pdf eicon PDF 1 MB

Dafydd Edwards i ddarparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer

trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2020/21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Trydydd Chwarter Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2020/21.

 

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2020/21 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Trydydd Chwarter Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2020/21.

 

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2020/21 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Rhagwelwyd y bydd tanwariant o £156,255 yn 2020/21. Nodwyd fod modd trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i’r gronfa wrth gefn sydd wedi’i glustnodi.

 

Er mwyn gweithredu yn effeithiol, mae angen i’r Cydbwyllgor (y Bwrdd Uchelgais) fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant hyd yma a’r rhagamcanion gwariant eleni yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn darparu manylion y gwariant a’r incwm gwirioneddol ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2020/21, ynghyd â’r rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, nodwyd:-

 

·         Nad oedd y tanwariant wedi cael unrhyw effaith ar yr hyn y dylem fod wedi’i gyflawni erbyn hyn.

·         Y byddai’r balans ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021/21 yn fwy na’r rhagolygon, a hynny yn bennaf oherwydd Covid-19 a’r oedi o ran recriwtio i swyddi.  Bwriedid cyflwyno cyllideb 2021/22 i’r Bwrdd ym mis Mawrth, yn dilyn trafodaeth gyda’r Cyfarwyddwr Portffolio a’r Rheolwr Gweithrediadau i weld oes angen ymrwymo rhywfaint o danwariant eleni yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.  Byddai’n hanfodol sicrhau bod gennym rwyd diogelwch yn y tymor hwy, wrth i symiau mwy o arian gael eu gwario.

·         Nad oedd yna ateb cywir o ran faint o reserfau y dylid eu cael i’r dyfodol, a bod angen ystyried hyn yng nghyd-destun risgiau eraill y byddwn yn ymrwymo iddynt wrth symud ymlaen, a faint sy’n cael ei roi i mewn ar gyfer darpariaethau megis chwyddiant, ayb.  Rhoddid ystyriaeth i hynny wrth ddod â’r gyllideb gerbron.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r tîm am eu gwaith.

 

 

6.

CYTUNDEB TWF TERFYNOL pdf eicon PDF 425 KB

Alwen Williams i gyflwyno fersiwn derfynol o’r Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru a baratowyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd fod y Cytundeb Terfynol wedi’i gwblhau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd fod y Cytundeb Terfynol wedi’i gwblhau.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Tachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth i Benawdau’r Telerau, gyda Chytundeb Terfynol i’w gwblhau yn 2020. Amlygwyd fod y Cytundeb Terfynol yn ddatganiad o gytundeb rhwng y Partneriaid, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Ym mis Hydref 2020, bu i’r Bwrdd Uchelgais argymell y Cytundeb Terfynol drafft a chyflwynwyd y Cytundeb Terfynol drwy brosesau ddemocrataidd a phenderfynu y partneriaid. Bu i’r ddogfen derfynol gael ei ddatblygu ar y cyd drwy gytundeb gyda’r Llywodraethau. Cynhaliwyd seremoni arwyddo’r Cytundeb Terfynol yn ystod Rhagfyr 2020. Amlygwyd i’r Bwrdd fod y Cytundeb Terfynol wedi ei gwblhau. Cyflwynwyd yr gytundeb i’r Bwrdd i adrodd ar gwblhau y broses yma.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn cyflwyno y fersiwn olaf o’r Cytundeb Terfynol. Amlygwyd fod drafft wedi ei gyflwyno yn ôl ym mis Hydref drwy ac fod seremoni arwyddo’r Cytundeb wedi ei gynnal ym mis Rhagfyr. Nodwyd fod yr adroddiad yn cyflwyno y cytundeb  ac  adrodd ar gwblhau’r broses.

 

7.

ADRODDIAD AR UCHAFBWYNTIAU'R PORTFFOLIO pdf eicon PDF 431 KB

Hedd Vaughan-Evans i ddiweddaru’r Bwrdd Uchelgais ar y cynnydd a wnaed ers cwblhau’r Cytundeb Terfynol yn Rhagfyr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd yr Adroddiad ar Uchafbwyntiau’r Portffolio ar gyfer Chwefror 2021 a’r cynnydd ers cwblhau’r Cytundeb Twf yn Rhagfyr 2020.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Rheolwr Gweithrediadau mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd i ddiweddaru’r adroddiad fel a nodwyd ar lafar yn ystod cyfarfod y Bwrdd cyn cyflwyno’r Adroddiad ar Uchafbwyntiau’r Portffolio ar gyfer Chwefror 2021 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd yr Adroddiad ar Uchafbwyntiau’r Portffolio ar gyfer Chwefror 2021 a’r cynnydd ers cwblhau’r Cytundeb Twf yn Rhagfyr 2020.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Rheolwr Gweithrediadau mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd i ddiweddaru’r adroddiad fel a nodwyd ar lafar yn ystod cyfarfod y Bwrdd cyn cyflwyno’r Adroddiad ar Uchafbwyntiau’r Portffolio ar gyfer Chwefror 2021 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn ystod Rhagfyr 2020, cytunodd y Bwrdd Uchelgais i Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.

 

Amlygwyd fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd ers arwyddo’r cytundeb, a throsolwg o’r sefyllfa bresennol gyda phob rhaglen a phrosiect o fewn y cynllun gydag amserlen wedi ei diweddaru ar gyfer cyflawni. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn canolbwyntio yn benodol ar yr amserlen i’r Bwrdd Uchelgais ystyried yr Achosion Busnes Amlinellol. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn diweddaru’r Bwrdd Uchelgais ar y cynnydd a waed ers cwblhau’r Cytundeb Terfynol. Ychwanegwyd ei fod yn canolbwyntio yn benodol ar amserlen i’r Bwrdd Uchelgais gan ystyried yr Achosion Busnes Amlinellol. Pwysleisiwyd fod ystyried a chyflwyno’r adroddiad i’r ddwy Lywodraeth yn un o’r gofynion ar gyfer tynnu lawr y cyfran gyntaf o’r cyllid.

 

Nodwyd y prif ddatblygiadau ac amlygwyd fod tri prosiect wedi trefnu adolygiadau porth, a oedd yn cynnwys Morlais, Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter a Chanolfan Economi Gwledig Glynllifon. Pwysleisiwyd o ran Tendr Gwefan a Brand, yn dilyn ymarferiad caffael fod Tinint wedi’i dewis i ddatblygu’r wefan a brand newydd. Ychwanegwyd fod cyfarfod cyntaf gyda’r Cwmni wedi ei gynnal ac fod amserlen o 12 wythnos yn ei le, ac felly fod y gwaith yn amserol ac y bydd modd ei gyflawni.

 

Mynegwyd fod Rheolwr Prosiect Cysylltedd Digidol a Rheolwr Prosiect Cyllid Ewropeaidd bellach wedi eu penodi, ynghyd a strwythur staffio diwygiedig ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio wedi’i gytuno gyda WEFO. Nodwyd y bydd y swyddi terfynol yn cael ei hysbysebu ym mis  Chwefror a Mawrth.

 

Tynnwyd sylw at Argymhellion AOR, gan nodi fod y tîm yn gweithio drwy’r naw argymhelliad. Mynegwyd y bydd adroddiad pellach ar yr argymhellion y cyfarfod nesaf.

 

Tywyswyd drwy’r rhaglenni gwaith gan amlinellu’r amserlenni ar gyfer yr holl gynlluniau. Amlygwyd fod rhai cynlluniau yn cael eu harafu neu yn ddilynol ar achosion tu hwnt i’r Bwrdd Uchelgais. Ychwanegwyd bydd n  nn ifer o’r cynlluniau busnes yn cael eu cymeradwyo yn 2022-23.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Diolchwyd am y trosolwg gan amlygu fod cynlluniau yn symud yn eu blaenau yn gyson. Nodwyd yr angen i ychwanegu diweddariadau i’r adroddiaad cyn ei anfon at y ddwy Lywodraeth.

·         Amlygwyd y bydd llawer o gynlluniau busnes yn cael eu amserlennu ym mis Mehefin, nodwyd fod angen sicrhau nad yw popeth yn cael eu cyflwyno yr un pryd. Nodwyd fod nifer yr achosion busnes yn uchel a gobeithir y bydd modd eu cyflwyno fesul dau i’r  Bwrdd Uchelgais gan eu bod yn achosion technegol.

 

8.

PROSESAU CYLLID AC ACHOSION BUSNES pdf eicon PDF 376 KB

Hedd Vaughan-Evans i d diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y prosesau perthnasol ar gyfer cymeradwyo achosion busnes y prosiectau a sicrhau bod y cyllid yn cael ei dynnu i lawr yn flynyddol.

Penderfyniad:

Nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr, bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraeth Cymru a’r DU gytuno ar y Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Bu i’r adroddiad ddarparu trosolwg o’r prosesau y cytunwyd arnynt gan y ddwy Lywodraeth ar gyfer cymeradwyo’r cyllid blynyddol a chymeradwyo’r achosion busnes unigol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlygu y prosesau perthnasol ar gyfer cymeradwyo achosion busnes y prosiectau er mwyn sicrhau fod y cyllid yn cael ei dynnu i lawr yn flynyddol. Ychwanegwyd o ran y broses cymeradwyo Cyllid Blynyddol y bydd angen cyflwyno cyfres o ddogfennau allweddol i’r ddwy Lywodraeth. Nodwyd yn dilyn eu cyflwyno, bydd y ddwy Lywodraeth yn llywio’r dogfennau drwy eu prosesau cymeradwyo mewnol. Amlygwyd y posibilrwydd y bydd angen cyflwyno gwybodaeth ychwanegol fel rhan o’r broses, ac yn dilyn cymeradwyaeth bydd Llythyr Dyfarnu Grant yn cael ei gyhoeddi.

 

Tynnwyd sylw at y broses cymeradwyo ar gyfer Achosion Busnes y Prosiectau gan nodi y byd angen i’r achosion busnes gael eu datblygu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EM. Esboniwyd y byddant yn cael ei datblygu mewn tri cham – Achos Amlinellol Strategol, Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn. Ychwanegwyd y bydd nifer o gynllunio yn mynd yn syth i’r ail gam ac i greu Achos Busnes Amlinellol. Amlygwyd y pwrpasau penodol i’r pump achos o fewn y model.

 

Nodwyd er mai’r Bwrdd Uchelgais yw’r corff sydd yn gwneud penderfyniadau ar gyfer y Cynllun Twf, esboniwyd y bydd y ddwy Lywodraeth yn adolygu a cymeradwyo’r broses sicrwydd gyda pob prosiect. Esboniwyd fod yr Adolygiadau Porth yn rhan allweddol o’r broses sicrwydd ac eu bod yn adolygiadau annibynnol a fydd yn cael eu trefnu gan y ddwy Lywodraeth. O ganlyniad i aeddfedrwydd a bodolaeth Achosion Busnes a Rhaglen a’r Portffolio, nodwyd y bydd mwyafrif o’r prosiectau yn symud ymlaen gam Porth 2 – Achos Busnes Amlinellol. Mynegwyd wrth gymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol, bydd y Bwrdd Uchelgais yn galluogi’r prosiect fwrw ymlaen â’r gweithgareddau caffael angenrheidiol, ac yn caniatáu i’r Achos Busnes Llawn gael ei ddatblygu cyn gellir ei gymeradwyo ac yna cychwyn ar y cyflawni.

 

9.

YMGYSYLLTU GYDA'R SECTOR BREIFAT pdf eicon PDF 367 KB

Alwen Williams i gyflwyno Cylch Gorchwyl drafft arfaethedig ar gyfer y Bwrdd Cyflawni Busnes, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Grŵp Cyflawni Busnes a'r Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cadarnhawyd y Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd gwblhau y Cylch Gorchwyl ac i gytuno ar enw cyhoeddus y Bwrdd .

 

Cadarnhawyd y gall aelodau cyfredol y Bwrdd Cyflawni Busnes, ar y cyd â Chadeirydd y Bwrdd Uchelgais a’r Cyfarwyddwr Portffolio, weithio gyda’i gilydd i benodi Cadeirydd parhaol i’r grŵp.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Gan Alwen Williams.

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd y Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd gwblhau y Cylch Gorchwyl ac i gytuno ar enw cyhoeddus y Bwrdd .

 

Cadarnhawyd y gall aelodau cyfredol y Bwrdd Cyflawni Busnes, ar y cyd â Chadeirydd y Bwrdd Uchelgais a’r Cyfarwyddwr Portffolio, weithio gyda’i gilydd i benodi Cadeirydd parhaol i’r grŵp.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2021, bu i aelodau y Grŵp Cyflawni Busnes a’r Swyddfa Rheoli Portffolio cytuno ei bod hi’n amserol ac yn briodol edrych ar gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes.

 

Mae'r Grŵp Cyflawni Busnes wedi'i sefydlu fel Is-grŵp o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae cymeradwyo Cylch Gorchwyl drafft y Bwrdd Cyflawni Busnes ynghyd ag aelodaeth y Bwrdd yn fater i'r Cyd-bwyllgor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwaith wedi ei wneud i adeiladu’r berthynas a’r Sector Breifat dros y 12 mis diwethaf. Ychwanegwyd fod y Grŵp Cyflawni Busnes a’r Swyddfa Rheoli Prosiect wedi cytuno ei bod yn amserol ac yn briodoli i edrych ar gylch gwaith y Grŵp Cyflawni Busnes.

 

Nodwyd fod y Cylch Gorchwyl drafft wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng y Bwrdd Uchelgais, Y Swyddfa Rheoli Portffolio a chynrychiolwyr y sector breifat. Ychwanegwyd y bydd yr aelodaeth gyfredol, dan arweiniad y Cadeirydd dros dro yn recriwtio ac yn penodi aelodau newydd i gynrychioli’r holl sector fydd yn cael sylw gan y Cynllun Twf. Unwaith y bydd aelodaeth wedi’i gytuno, nodwyd y bydd Cadeirydd yn cael enwebu a nodwyd y byddant yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd. Pwysleisiwyd y bydd mwy o gydweithio rhwng y Grŵp a’r Bwrdd ond y bydd yn parhau i fod yn gorff ymgynghorol.

 

Sylwadau’n doi o’r drafodaeth

·         Mynegwyd fod sefydlu’r Cylch Gorchwyl yn rhan o GA2, ac ei fod yn cyd-fynd a’r disgwyliadau sydd gan y ddwy Lywodraeth.

·         Cytunwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd gwblhau y Cylch Gorchwyl ac i gytuno ar enw cyhoeddus y Bwrdd.

 

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghorau Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

Cofnod:

Cytunwyd y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Nodwyd fod budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghorau Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

11.

ADOLYGIAD GWAELODLIN PROSIECTAU

Penderfyniad:

Nodwyd yr adroddiad gwaelodlin ar gyfer pob rhaglen

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd yr adroddiad gwaelodlin ar gyfer pob rhaglen.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd fod angen diweddaru’r Bwrdd Uchelgais ar sefyllfa pob rhaglen a phrosiect o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad