skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Ian B.Roberts a Colin Everett (Cyngor Sir y Fflint), Yana Williams (Coleg Cambria), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych) a Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 243 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2021/22 pdf eicon PDF 604 KB

Adroddiad gan Dafydd L. Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.   Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth gefn a glustnodir.

2.  Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd 2025/26 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

3.  Cyllido'r Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd Uchelgais ac Arianwyr y Prosiectau.

4.  Gofyn yn ffurfiol i bob un o'r chwe awdurdod lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid refeniw i'r Bwrdd Uchelgais. Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi'i ddynodi i'r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni cyfalaf a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i'r Cynllun Twf i ariannu eu heitemau math refeniw.

5.  Gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau'r prosiectau yn ystod y flwyddyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i'r costau nas ragwelwyd sydd bellach wedi'u hadnabod yn y gyllideb refeniw. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o'r gwariant hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L.Edwards (Swyddog Statudol Statudol – Awdurdod Lletya) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.  Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i’w hariannu o’r gronfa wrth gefn a glustnodir.

(2)     Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd 2025/26 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 2.

(3)     Cyllido’r Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd Uchelgais ac Arianwyr y Prosiectau.

(4)     Gofyn yn ffurfiol i bob un o’r chwe awdurdod lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid refeniw i’r Bwrdd Uchelgais.  Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi’i ddynodi i’r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni cyfalaf a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i’r Cynllun Twf i ariannu eu heitemau math refeniw.

(5)     Gofyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau’r prosiectau yn ystod y flwyddyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i’r costau nas ragwelwyd sydd bellach wedi’u hadnabod yn y gyllideb refeniw.  Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o’r gwariant hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

(1)     Gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn.

(2)     Gosod y gyllideb arfaethedig fesul prosiect a’r ariannu cyfalaf cyfatebol ar gyfer 2021/22 hyd 2025/26.

(3)     Er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

(4)     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i wario arian yn unol â’r gyllideb gymeradwy.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2021/22 ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Manylodd Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya ar y newidiadau a’r sefyllfaoedd annisgwyl oedd wedi codi ers i’r Bwrdd drafod y gyllideb ddiwethaf, ac oedd wedi gyrru cyfran helaeth o’r defnydd o gronfeydd wrth gefn, sef:-

 

·         Y costau sylweddol annisgwyl untro ynghlwm â datblygu achosion busnes.

·         Costau’r gefnogaeth gyfreithiol i’r achosion busnes hynny.

 

Eglurodd:-

 

·         Bod arian digonol yn y cronfeydd wrth gefn i weithredu hyn, ond y ceisid adeiladu’r gronfa wrth gefn, yn hytrach na’i defnyddio ar y dechrau. 

·         Bod y Cyfarwyddwr Portffolio, y Rheolwr Gweithrediadau a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya wedi’u herio ar y ffigyrau, a bod yr amcangyfrifon o’r costau untro ychwanegol yn rhai bras ar hyn o bryd.

 

Nododd ymhellach:-

 

·         Gan i’r rhandaliad cyntaf o £16m o’r grant Cynllun Twf gael ei dderbyn ar 12 Mawrth, 2021, bod cyfraniadau’r partneriaid ar ochr isaf yr amrediad a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Hydref 2020.

·         Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yng Nghyllideb y Canghellor yng nghyswllt cwtogi’r cyfraniad ariannu o 15 mlynedd i 10 mlynedd, byddai’n rhaid ymweld â’r holl sefyllfa ariannol.  Daeth newyddion y Canghellor yn annisgwyl i Lywodraeth Cymru hefyd, ac nid oedd yn glir  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DATGANIAD SEFYLLFA AR NEWID HINSAWDD AC ECOLEGOL pdf eicon PDF 763 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.  Mabwysiadu'r datganiad sefyllfa arfaethedig yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau'r Cynllun Twf yn cyflawni yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:-

·         Diwygio’r ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”.

·         Diwygio’r trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”.

·         Dileu’r frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”.

2.  Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau'r Cynllun Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo'r achos busnes.

3.  Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio bennu'r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Mabwysiadu’r datganiad sefyllfa arfaethedig yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau’r Cynllun Twf yn cyflawni yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:-

·         Diwygio’r ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”.

·         Diwygio’r trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”.

·         Dileu’r frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”.

(2)     Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau’r Cynllun Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo’r achos busnes.

(3)     Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio bennu’r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi’r Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Heb ddatganiad sefyllfa clir gan y Bwrdd ar newid hinsawdd ac ecolegol, gellid colli cyfleoedd i siapio achosion busnes y prosiectau.  Gallai hyn arwain yn anfwriadol at brosiectau’r Cynllun Twf yn cynyddu allyriadau carbon rhanbarthol a cholli bioamrywiaeth.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno datganiad sefyllfa arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ymwneud â newid hinsawdd ac ecolegol.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mynegwyd pryder gan rai aelodau nad oedd y datganiad sefyllfa arfaethedig yn mynd yn ddigon pell, a bod angen tynhau ar y geiriad, e.e. dylid nodi ‘bydd holl brosiectau’r Cynllun Twf yn ...’, yn hytrach na ‘bydd holl brosiectau’r Cynllun Twf yn anelu i ...’, ayb.

·         Pwysleisiwyd y dylai’r Bwrdd Uchelgais arwain ar draws y Gogledd ar leihau ôl troed carbon, ac awgrymwyd y dylai holl brosiectau’r Cynllun Twf gyflawni 50% yn llai o garbon corfforedig (yn hytrach na 40%, fel y nodwyd yn y datganiad sefyllfa arfaethedig) a chyflawni budd net o 20% ar gyfer bioamrywiaeth (yn hytrach na’r 10% a nodwyd yn y datganiad).  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd Cymru wedi sefydlu targed budd net ar gyfer bioamrywiaeth, ond roedd yn cydnabod nad oedd y sefyllfa bresennol yn gefnogol i iechyd ecosystemau, a bod angen bod yn fwy uchelgeisiol.  Yn absenoldeb targed ar gyfer Cymru, dilynwyd arweiniad DEFRA, oedd wedi ymgynghori’n helaeth dros gyfnod o fisoedd lawer yn Lloegr cyn sefydlu’r budd net o 10%.  Nodwyd ymhellach bod y targed ar gyfer carbon corfforedig yn uchelgeisiol, ac y byddai’n bosib’ tynhau’r geiriad, mae’n debyg.  Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod y datganiad yn nodi y byddai prosiectau’n cael eu hannog i gyflawni’n uwch na’r dyheadau hyn, ond roedd yn rhaid i’r geiriad hefyd gydnabod yr amrediad aeddfedrwydd o fewn y portffolio, a darparu asesiad realistig o hynny.

·         Mewn ymateb i gwestiwn,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH YNNI GOGLEDD CYMRU DDRAFFT pdf eicon PDF 577 KB

Adroddiad gan Henry Aron, Rheolwr Rhaglen Ynni a Rhys Horan, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.  Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol ar gyfer y cynllun gweithredu.

2.  Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y cynllun gweithredu drafft.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Rhys Horan (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol ar gyfer y cynllun gweithredu.

(2)     Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y cynllun gweithredu drafft.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r strategaeth bresennol yn darparu gweledigaeth lefel-uchel, meysydd blaenoriaeth, gwaith modelu ynni ynghyd â dadansoddiad economaidd fydd yn cyfrannu at ddatblygu'r cynllun gweithredu arfaethedig.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar ffurf drafft i’w chadarnhau, ennyn cefnogaeth ar gyfer y camau nesaf arfaethedig, ac arddangos bod y Strategaeth yn cyd-fynd â’r ymrwymiad rhanbarthol i her newid hinsawdd.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd y byddai Bwrdd Rhaglen Ynni Carbon Isel y Bwrdd Uchelgais yn rhan o hyn, a bod pob un o’r partneriaid wedi cyfrannu at y siwrne hyd yma.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau nad oedd hyn yn tynnu oddi ar waith y Bwrdd Uchelgais, oherwydd yr angen i gyflawni ar gynlluniau’r Bid Twf.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £15bn o wariant oedd ei angen i gyflawni’r weledigaeth ynni yn gyfuniad o fuddsoddiad sector breifat a chyhoeddus.  Nid oedd yn glir eto beth fyddai’r rhaniad, ond roedd hefyd yn cynnwys gwariant gan unigolion, e.e. ar gerbydau trydan, pympiau gwresogi, ac ati.

·         Croesawyd y ddogfen, a nodwyd ei bod yn gosod allan yn glir rai o’r materion cyfredol, a’r opsiynau ar gyfer y dyfodol hefyd. 

·         Croesawyd y cyfeiriad at y cyfraniad y gall morlyn llanw ei wneud, a holwyd a roddid sylw i fanteision ehangach na’r manteision cynhyrchu ynni yn unig.  Mewn ymateb, eglurwyd na roddwyd sylw llawn i’r holl fanteision yn y ciplun a roddwyd, ond roedd y manteision economaidd, yn nhermau creu swyddi, ayb, wedi’u hadnabod, ac wedi’u rhannu.  Wrth fynd ymlaen, byddai hyn yn bwysig, ond nid oedd y manylder ar gael eto.

 

8.

EGWYDDORION MASNACHOL AR GYFER CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 390 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Penderfyniad:

1.  Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran 5 yr adroddiad.

2.  Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi'i nodi'n glir law yn llaw ag achosion busnes y prosiectau er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran 5 o’r adroddiad.

(2)     Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi’i nodi’n glir law yn llaw ag achosion busnes y prosiectau er mwyn i’r Bwrdd eu hystyried.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Darparu llwyfan negodi clir ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o Egwyddorion Masnachol a fyddai, o’u mabwysiadu, yn cael eu defnyddio gan y Swyddfa Rheoli Portffolio i negodi cyfleoedd masnachol sy’n ymwneud â phrosiectau’r Cynllun Twf.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £100,000 ar gyfer cefnogaeth gyfreithiol allanol y cyfeiriwyd ato yn eitem 5 uchod yn adlewyrchu’r ffaith y byddai yna waith cytundebol cymhleth, a manwl ar adegau, o gwmpas y cytundebau ariannu’n gyffredinol, a bod y gefnogaeth gyfreithiol allanol y cyfeirir ati ym mharagraff 6.1 o’r adroddiad yn un elfen o hyn.  Eglurwyd ymhellach nad oedd y Bwrdd Uchelgais yn ymrwymo i wariant uniongyrchol drwy gymeradwyo’r adroddiad hwn.  Er hynny, roedd yna oblygiadau ariannol i hyn, ond yn debygol o fod yn bositif i’r Bwrdd yn nhermau’r gallu i fanteisio ar brosiectau masnachol er mwyn cael rhyw fath o ddychweliad.  Fel roedd Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya wedi nodi yn ei sylwadau ar yr adroddiad, nid oedd hynny’n eglur eto, ac roedd angen gwneud mwy o waith er mwyn adnabod y ffordd ymlaen o ran hynny.

·         Nodwyd ei bod yn anodd deall hyn i gyd yn iawn nes gweld gwir enghreifftiau, ond bod yr egwyddorion yn ymddangos yn rhai teg.

·         Awgrymwyd y gallai Egwyddor Fasnachol 1 fod yn anodd ei diffinio o safbwynt gwahaniaethu rhwng adenillion masnachol o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn ac adenillion masnachol o ganlyniad i rywbeth y byddai corff yn ei wneud beth bynnag.  Derbynnid, fodd bynnag,  nad oedd y manylder ar gael ar hyn o bryd.

 

9.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - EGWYDDORION CAFFAEL pdf eicon PDF 469 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.  Mabwysiadu'r egwyddorion caffael arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

2.  Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos busnes y prosiectau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Mabwysiadu’r egwyddorion caffael arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

(2)     Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos busnes y prosiectau.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Darparu fframwaith clir i brosiectau gyflawni yn erbyn dyheadau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o egwyddorion caffael ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd y cefnogid yr egwyddorion, ond wrth eu rhoi ar waith, y dymunid gweld ychydig mwy o amlygrwydd yn cael ei roi i’r egwyddorion hynny sy’n dod â budd i Ogledd Cymru, megis newid hinsawdd ac ecolegol, cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol, gwerth cymdeithasol, sgiliau, swyddi a chyfleoedd, ac ati.

·         Mynegwyd gobaith y byddai’r egwyddorion yn cael eu gweithredu’n egnïol, ac yn cael eu hyrwyddo hefyd.