Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - er mwyn cael mynediad cysylltwch â AnnesSion@gwynedd.llyw.cymru
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint),
Cyng. Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies
(Prifysgol Bangor), Yana Williams (Coleg Cambria) a Jane Richardson. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan Dafydd Evans ar gyfer eitem 8 – gan ei fod yn gais sydd yn ymwneud â Grŵp Llandrillo Menai ac felly bu iddo ymatal o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr achos busnes. Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan yr Athro Paul Spencer ar gyfer eitem 9 – gan fod y cais yn ymwneud â Prifysgol Bangor, ac felly bu iddo ymatal o’r Cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr achos busnes. Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan Askar Sheibani ar gyfer eitem 9 gan ei fod yn rhan o’r cais ac felly bu iddo ymatal o’r cyfarfod ar y drafodaeth ar achos busnes. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 191 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2021 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CHWARTER 1 PDF 301 KB Hedd Vaughan-Evans,
Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad Chwarter 1 (Mawrth-Mehefin)
y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd
yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi
ei ddiweddaru. Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU,
ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan Evans, Rheolwr Gweithrediadau PENDERFYNWYD Nodwyd a derbyniwyd yr
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei
ddiweddaru. Cymeradwywyd cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ym mis Rhagfyr 2020 bu
i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar
gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod fformat yr adroddiad yn debyg i’r adroddiadau blaenorol
sydd wedi eu cyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd ar
raglenni a prosiectau’r Cynllun Twf. Eglurwyd mai Morlais oedd yr Achos Busnes
Amlinellol cyntaf i gael ei ystyried ai gymeradwyo gan y Bwrdd a nodwyd fod y
broses sicrwydd wedi ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod dau Achos
Busnes Amlinellol arall wedi cychwyn y broses gymeradwyo, ac yn cael eu
cyflwyno i’r Bwrdd yn hwyrach yn y cyfarfod. Nodwyd fod mwyafrif
o’r rhaglenni a prosiectau yn adrodd fel ‘Ambr’ yn yr adroddiad yn dilyn
adolygiad ar yr amserlenni datblygu achosion busnes. Tynnwyd sylw at y pedwar
sydd yn adrodd yn ‘goch’ sef Ffibr Llawn
mewn safleoedd allweddol, Campws Cysylltiedig, Safle Strategol Bodelwyddan a
Porth Caergybi. Eglurwyd eu bod yn adrodd fel ‘coch’ o ganlyniad i risgiau yn
sgôp y prosiectau neu oedi sylweddol yn yr amserlenni. Mynegwyd fod nifer o
weithgareddau Caffael bellach wedi ei cwblhau a oedd yn cynnwys Astudiaeth i
gefnogi prosiect Coridorau Cysylltiedig. O ran cofrestr risg y portffolio
nodwyd fod y proffil risg y Cynllun yn sefydlog. Amlygwyd fod risg ar fforddiadwyedd wedi cynyddu o ganlyniad i gynnydd sylweddol
mewn costau adeiladu dros y misoedd diwethaf. Eglurwyd fod hyn wedi effeithio
Cytundebau Twf a Threfi eraill ac yn cael ei fonitro. Amlygwyd yn ogystal fod
rhai risgiau sylweddol yn gysylltiedig a rhai prosiectau unigol ynghyd â
diogelu y buddsoddiad sector breifat yn y Cynllun. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd
o ran costau adeiladu yn codi yn y misoedd diwethaf amlygwyd yr angen i
amlygu’r problem i’r Llywodraethau cyn i gostau gael eu cadarnhau. Eglurwyd fod
y Llywodraethau yn ymwybodol ac fod y cynllun gyda rhywfaint o fantais gyda
digon o amser cynllunio sydd yn rhoi cyfle i’r farchnad setlo. ·
Holwyd
os ydi statws rhai cynlluniau yn goch, a ddim yn symud i ambr neu wyrdd os oes
angen holi os yw’r cynllun yn hyfyw. Eglurwyd fod y cynlluniau yn hyblyg ac eu
bod yn cael eu datblygu yn unol a parodrwydd ac nid blaenoriaethau. |
|
Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio i ddiweddaru'r Bwrdd Uchelgais ar y gwaith o ddatblygu'r
wefan a'r brand newydd Penderfyniad: Cadarnhawyd y brand
newydd arfaethedig ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun
Twf Gogledd Cymru yn amodol i addasiadau i’r logo yn dilyn ymgynghoriad gyda’r
aelodau yn y cyfarfod nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio). PENDERFYNWYD Cadarnhawyd y brand newydd arfaethedig ar
gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru yn
amodol i addasiadau i’r logo yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau yn y cyfarfod
nesaf. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Datblygwyd gwefan a brand cyfredol y Bwrdd
Uchelgais yn ystod dyddiau cynnar sefydlu'r Bwrdd. Gyda'r Cynllun Twf Terfynol
wedi'i lofnodi, a'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn symud i wedd cyflawni
prosiectau'r Cynllun Twf, mae'n amserol diwygio ac ail-lansio'r brand a'r
wefan. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwefan
a brand gyfredol y Bwrdd Uchelgais wedi ei ddatblygu yn ôl yn nyddiau cynnar
sefydlu’r Bwrdd. Nodwyd gyda’r Cynllun Twf Terfynol wedi’i lofnodi a’r Swyddfa
Rheoli Proffil yn symud i wedd cyflawni eglurwyd ei bod yn amserol diwygio ac
ail-lansio’r brand a’r wefan. Mynegwyd fod y logo wedi dyddio ac nad yw’n
adlewyrchu natur uchelgeisiol y Bwrdd yn nhermau trawsffurfio economi’r
Gogledd. Ategwyd fod y wefan ar hyn o bryd wedi ei letya gan Busnes Cymru ac ei
fod yn profi yn gymhleth i’w ddefnyddio. Comisiynwyd Tinint i ail-frandio a datblygu
gwefan newydd yn dilyn proses tendro lwyddiannus. Amlygwyd y briff a osodwyd
iddynt i amlygu brand ffres, arloesol, uchelgeisiol a proffesiynol ynghyd â
gwefan a fyddai’n lwyfan i hyrwyddo’r rhanbarth, gwaith y Bwrdd Uchelgais ac i
rannu cynnydd a gwybodaeth am y Cynllun Twf. Cyflwynwyd y brand mae Tinint wedi
gweithio i datblygu gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, eglurwyd fod yr enw brand
wedi addasu i “Uchelgais Gogledd Cymru / Ambition North Wales” a fydd yn enw
cyffredinol am y Weledigaeth Twf a beth mae’r bwrdd yn ceisio’i i gyflawni ar
gyfer y rhanbarth. Amlygwyd fod ymchwiliad marchnad wedi ei
gynnal am y logo a’r brand newydd a cafwyd sampl o 160 unigolyn a oedd yn cael
ei rannu i 3 grŵp – Sector Gyhoeddus, Pobl Ifanc a Busnesau. Pwysleisiwyd
mai Uchelgais Gogledd Cymru oedd y brand a ffafriwyd yn yr ymchwil i’r
farchnad. Cyflwynwyd y Brand, lliwiau a logo a ffafriwyd yn ogystal gan ofyn am
gefnogaeth y Bwrdd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Amlygwyd
cefnogaeth i’r brand ac yr enw ond tynnwyd sylw at broblem gyda’r logo. Nodwyd
er ei fod yn logo haniaethol fod 6 adran iddo fel siroedd y rhanbarth ac fod
Conwy i’w weld yn llai nac eraill. Eglurwyd nad oedd yn cynrychioli hynny ond
awgrymwyd yr angen i ail edrych ar y maint. ·
Dangoswyd
cefnogaeth i’r brand a’r wefan gan nodi ei fod yn amlygu fod y cynllun yn
llawer mwy na Cynllun Twf. ·
Derbyniwyd
mewn egwyddor i’r brand a’r lliwiau. Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio i
fynd yn ôl at Tinint ac efallai addasu’r logo rhyw fymryn ac yna ei ail
gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Medi. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan eu bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: Cytunwyd i gau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan eu bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. |
|
ACHOS AMLINELLOL PROSIECT CANOLBWYNT ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON Robyn
Lovelock, Rheolwr Rhaglen i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Canolbwynt Economi
Wledig Glynllifon i'w ystyried gan y Bwrdd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen. TRAFODAETH Derbyniwyd y cyflwyniadau ond ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ddiffyg cworwm. |
|
ACHOS BUSNES AMLINELLOL PROSIECT CANOLFAN PROSESU SIGNAL DIGIDOL Stuart
Whitfield, Rheolwr Rhaglen Digidol i gyflwyno
Achos Busnes Amlinellol Canolfan Prosesu Signal Digidol i'w ystyried gan
y Bwrdd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Digidol. TRAFODAETH Derbyniwyd y cyflwyniadau ond ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ddiffyg cworwm. |