Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Maria Hinfelaar (Prifysgol Glyndŵr), Yana Williams (Coleg Cambria), Askar Sheibani (Bwrdd Cyflenwi Busnes), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Colin Everett (Cyngor Sir y Fflint) ac Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 227 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn fel rhai cywir:-

 

·         30 Gorffennaf, 2021

·         26 Awst, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf a 26 Awst, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

ADOLYGIAD ASESIAD RHAGLEN 2021 pdf eicon PDF 349 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)         Bod y Bwrdd yn nodi canfyddiadau Adolygiad Asesiad Rhaglen 2021.

(2)         Bod y Bwrdd yn nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan o gyflwyniad dyfarniad cyllid blynyddol 2021-22.

(3)         Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn datblygu cynllun gweithredu i gyflawni yn erbyn yr argymhellion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

(1)       Bod y Bwrdd yn nodi canfyddiadau Adolygiad Asesiad Rhaglen 2021.

(2)       Bod y Bwrdd yn nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan o gyflwyniad dyfarniad cyllid blynyddol 2021-22.

(3)       Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn datblygu cynllun gweithredu i gyflawni yn erbyn yr argymhellion.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae'n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Cynllun Twf Gogledd Cymru yn destun adolygiad porth allanol blynyddol o'r portffolio a'r pum rhaglen.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at argymhelliad 3 o’r adolygiad, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Iddo gylchredeg nodyn briffio i aelodau’r Bwrdd sydd â phleidlais i’w hatgoffa o’r drefn ar gyfer penodi dirprwyon.

·         Ei bod yn debygol y byddai’r cysyniad o fecanwaith “allan o bwyllgor” ar gyfer cymeradwyo materion brys yn teilyngu adroddiad ar drefn ddirprwyo bellach gan y Bwrdd, ond bod darpariaeth o fewn GA2 i ehangu’r dirprwyo yn ôl yr angen, cyn belled â bod y Bwrdd yn fodlon gyda hynny.  

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd ei bod yn ofynnol hysbysu’r ddwy Lywodraeth o unrhyw newidiadau i’r cytundeb o safbwynt hyfywdra’r rhaglenni a’r prosiectau, gan hefyd ddod â’r penderfyniadau hynny yn ôl i’r Bwrdd i gytuno arnynt.  Eglurwyd bod yr Adolygiad Asesiad Rhaglen yn gofyn i’r Swyddfa Portffolio fod yn ymwybodol y gallai rhai prosiectau droi’n anhyfyw yn ystod y broses o ddod â’r achosion busnes terfynol at ei gilydd, ac felly y dylid sganio’r gorwel am brosiectau eraill a allai ddod yn eu blaenau petai hynny’n digwydd.  Fodd bynnag, byddai’n ofynnol i hynny ddigwydd gyda chymeradwyaeth y Bwrdd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd ei bod yn bwysig diffinio meini prawf ar gyfer pennu nad yw prosiect bellach yn hyfyw.  O ran sganio’r gorwel, byddai’n fuddiol cydweithio gyda’r Bwrdd Portffolio er mwyn deall sut mae hyn yn digwydd a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer prosiectau ar draws yr awdurdodau lleol a allai fod yn addas i’w hystyried pe na bai cynllun o fewn y portffolio Cynllun Twf yn parhau’n hyfyw.  Byddai’n rhaid i hyn oll gael ei gynnwys fel rhan o’r gwaith o ddod â’r meini prawf hyn at ei gilydd dros y ddau fis nesaf.

·         Nodwyd ei bod yn bwysig bod y gwaith o sganio’r gorwel yn digwydd yn unol â’r Weledigaeth Twf a’r 3 egwyddor sylfaenol, sef Gogledd Cymru Blaengar, Cysylltiedig a Gwydn, ac yn dod yn ôl i’r Bwrdd am drafodaeth wleidyddol.  Mewn ymateb, pwysleisiwyd bod ein holl waith yn seiliedig ar y 3 egwyddor, ac y byddai unrhyw brosiectau yn gorfod cael eu mesur yn erbyn yr egwyddorion hynny, ynghyd â’u cynaliadwyedd a’u cyfraniad at economi’r Gogledd.

 

6.

DIWEDDARIAD LOGO pdf eicon PDF 419 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r logo diwygiedig ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r logo diwygiedig ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Datblygwyd gwefan a brand cyfredol y Bwrdd Uchelgais yn ystod dyddiau cynnar sefydlu'r Bwrdd.  Gyda'r Cynllun Twf Terfynol wedi'i lofnodi, a'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn symud i wedd cyflawni prosiectau'r Cynllun Twf, roedd yn amserol diwygio ac ail-lansio'r brand a'r wefan.

 

Yng nghyfarfod y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar 30ain Gorffennaf 2021, cymeradwyodd y Bwrdd y Brand cyffredinol (arddull, lliwiau ayyb.) ond gofynnodd bod gwaith pellach yn cael ei wneud i adolygu’r logo, gan ystyried yr adborth a dderbyniwyd yn y cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd, ymhellach i baratoi’r adroddiad, bod y Bwrdd Cyflawni Busnes wedi ystyried a chymeradwyo’r logo diwygiedig ar y 14eg o Fedi. 

 

Mynegodd aelodau eu cefnogaeth i nifer a maint y cydrannau a gynhwyswyd yn y logo, a phwysleisiwyd pwysigrwydd y brand a’r angen i werthu ein hunain i weddill Cymru ac ymhellach.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).  Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

DIWEDDARIAD I ACHOS BUSNES Y PORTFFOLIO 2021

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio  (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

(1)       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo diweddariad 2021 Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

(2)       Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y pedwar prosiect sy’n rhagweld amrywiad ariannol posib’ ar hyn o bryd ers Achos Busnes 2020 yn destun adolygiad gan y Swyddfa Rheoli Portffolio a’r Bwrdd Portffolio, a darperir diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

(3)       Bod y Bwrdd yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen gais i newid i Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Trafodwyd yr adroddiad.