skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych) a Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y canlynol fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter – Achos Busnes Amlinellol, am y rhesymau a nodir:-

·           Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, gan ei fod, ers y 4ydd o Fawrth, 2022, yn Gyfarwyddwr Glyndŵr Innovations Limited (GIL), sy’n gwmni ym mherchnogaeth Prifysgol Glyndŵr ar gyfer rheoli’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter.

·           Maria Hinfelaar gan ei bod yn Brif Weithredwr Prifysgol Glyndŵr, sef y corff noddi ar gyfer y Prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter. 

·           Askar Sheibani, Bwrdd Cyflenwi Busnes, gan ei fod yn Aelod Anweithredol o’r Bwrdd/ Llywodraethwr Prifysgol Glyndŵr. 

Roeddent o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, a gadawsant y cyfarfod yn dilyn y rhagarweiniad i’r eitem.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 396 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

5.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF Y BWRDD UCHELGAIS AR GYFER 2021-22 pdf eicon PDF 535 KB

Adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.       Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a'r Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cyfalaf fel ym Mawrth 2022 (Atodiad 3).

2.       Cymeradwyo agor dwy gronfa wrth gefn newydd ynghyd â'r trosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn fel y manylir yn Atodiad 2.

3.       Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei (h)absenoldeb, yr Is-gadeirydd, a’r Swyddog Cyllid Statudol, i gymeradwyo gwariant o'r gronfa Prosiectau wrth gefn yn 2022/23.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau).

PENDERFYNWYD

1.              Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a'r Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cyfalaf fel ym Mawrth 2022 (Atodiad 3).

2.              Cymeradwyo agor dwy gronfa wrth gefn newydd ynghyd â'r trosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn fel y manylir yn Atodiad 2.

3.              Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, a’r Swyddog Cyllid Statudol, i gymeradwyo gwariant o'r gronfa Prosiectau wrth gefn yn 2022/23.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Hysbysu’r Bwrdd Uchelgais am ei sefyllfa ariannol ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2021/22.

TRAFODAETH

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

Gan gyfeirio at ddiwedd paragraff 5.16 o’r adroddiad, eglurwyd bod 2022-23, yn hytrach na 2021-22, wedi’i nodi mewn camgymeriad.

Gan gyfeirio at y trydydd argymhelliad yn yr adroddiad, awgrymwyd y dylai’r hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio gymeradwyo gwariant o’r gronfa Prosiectau wrth gefn yn 2022/23 fod mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, er mwyn sicrhau mewnbwn gwleidyddol.

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro nad oedd hynny’n broblem o ran egwyddor, ond gan ein bod yn mynd i gyfnod etholiad, o bosib’ na fyddai gan y Bwrdd gadeirydd mewn lle tan fis Mehefin.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Portffolio nad oedd yn rhagweld y byddai angen cymeradwyo gwariant o’r gronfa rhwng hyn a mis Mehefin.

Diolchwyd i’r Swyddog Cyllid Statudol a’r Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau am eu gwaith a’u harweiniad clir.

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 4 pdf eicon PDF 354 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans  (Rheolwr Gweithrediadau)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.       Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.       Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd bod y Bwrdd yn bryderus ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny, yn trafod hyn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys trafodaethau ar lefel genedlaethol.

Cofnod:

Cyflwynodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:-

·         Digidol – Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol);

·         Ynni Carbon Isel - Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni);

·         Tir ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo);

·         Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

Yna cyflwynodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif risgiau.

PENDERFYNIAD

1.              Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.              Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd bod y Bwrdd yn bryderus ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny, yn trafod hyn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys trafodaethau ar lefel genedlaethol.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

TRAFODAETH

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

Croesawyd y ffaith y cafwyd rhywfaint o sicrwydd gan y Panel Adolygu Ffyrdd yng nghyswllt Warren Hall, Brychdyn, ond holwyd a geisiwyd yr un sicrwydd mewn perthynas â phrosiectau eraill sy’n cael eu hadolygu, megis Western Gateway, Wrecsam.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo y byddai hynny’n cael ei amlygu mewn sylwadau i’w cyflwyno gan Wrecsam i swyddfa’r Panel yr wythnos ganlynol yn tanlinellu’r effaith ar gyffyrdd yr A483, a’r effaith ar y dref, ac nid y safle Western Gateway yn unig, a hefyd ar y broses o gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mynegwyd pryder ynglŷn â ffosffadau, o safbwynt camau lliniaru / lleihau ardrawiad, a phwysleisiwyd yr angen i barhau i ddwyn pwysau a dylanwadu ar lefel ranbarthol a chenedlaethol oherwydd bod hyn yn creu risg sylweddol.  Pryderid yn arbennig eu bod yn edrych ar ddadansoddiad afon gyfan o ffosffadau, oherwydd, er y gallai rhan o afon fod wedi’i heffeithio lai, yn nhermau’r dalgylch, byddai, er hynny, yn cael ardrawiad sylweddol ar unrhyw brosiect ar hyd holl lwybr yr afon honno.  Hefyd, gallai’r system drwyddedu fod yn weithredol ar gyfer pob cynllun trin dŵr gwastraff ar afon, yn hytrach nag ar gyfer y rhai hynny sydd yn y rhannau gwaethaf o’r afon yn unig.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo yr ystyriwyd bod y strategaeth leihau ei hun yn gam i’r cyfeiriad cywir yn nhermau amlygu dull o gyflawni camau lliniaru ffosffadau, a’r ffaith ei fod yn awr yn cael ei ystyried fel rhan o’r darlun cyflawn yn nhermau cyflenwi safleoedd datblygu cymhleth.  Gan hynny, byddai ffocws cynyddol yn cael ei roi ar hyn gyda mwy o adnoddau yn cael eu neilltuo ar ei gyfer er mwyn canfod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD PROSIECT DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH (HYDROGEN) pdf eicon PDF 575 KB

Adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni)

Penderfyniad:

1.       Cymeradwyo'r ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer y prosiect.

2.       Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rhaglen, i baratoi a chyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn unol â'r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni).

PENDERFYNWYD

1.              Cymeradwyo'r ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer y prosiect.

2.              Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rhaglen, i baratoi a chyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn unol â'r adroddiad.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae'r Bwrdd Prosiect a'r Bwrdd Rhaglen wedi cytuno ar ffordd ymlaen a ffefrir sydd wedi'i gadarnhau gan y Bwrdd Portffolio, i'w ystyried gan y Bwrdd Uchelgais.  Mae'r adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Bwrdd i'r ffordd ymlaen a ffefrir ac i symud ymlaen gyda'r cam cyflawni cyntaf.

TRAFODAETH

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).  Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

9.

CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Adroddiad i’w gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig.

Penderfyniad:

1.    Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam (WGU) yn rhoi sylw i’r materion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd.

2.    Nodi y bydd cymeradwyo’r OBC yn gweithredu fel cymeradwyaeth i’r cais i newid mewn perthynas â chyllid cyfatebol gan Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam.  Yn sgil cymeradwyo argymhelliad 1, bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi’i gytuno.

3.    Derbyn argymhelliad y Swyddfa Rheoli Portffolio a'r Bwrdd Portffolio y dylai unrhyw gymeradwyaeth i'r Achos Busnes Llawn yn y dyfodol fod yn amodol ar i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam barhau i gyflawni cwmpas gwreiddiol y prosiect a buddsoddi'r un cyfanswm yn uniongyrchol yn y Gogledd ag y cytunwyd arno'n wreiddiol er na ellir ei gyfrif fel rhan o'r prosiect Cynllun Twf hwn

4.    Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb caffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

5.    Nodi bod y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol Prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter .

TRAFODAETH

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

Trafodwyd yr adroddiad.