Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol- Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams ar gyfer eitem 7 – Secondiad Rhan-Amser Cyfarwyddwr Portffolio’r Bwrdd Uchelgais fel Prif Weithredwr Dros Dro y CBC. Roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddi adael y cyfarfod yn ystod yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 326 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2022, fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 329 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol.

 

Gofyniad Rhan 5 yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol. Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (diwygio) 2018 yn gosod gofynion ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Nodwyd fod gofyn i’r Bwrdd adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol sydd yn amlygu trefniadau cadarn, tryloyw a sy’n seiliedig ar arfer gorau. Eglurwyd fod hyn wedi ei gadarnhau gan Archwiliad Mewnol gan Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol.

 

6.

ADOLYGIAD REFENIW A CYFALAF 2022/23 - AWST 2022 pdf eicon PDF 532 KB

Dewi A. Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y gwariant a'r incwm refeniw gwirioneddol hyd at ddiwedd Awst 2022, i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb

flynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys hawlio swm llai o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

 

Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

 

Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd

Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Awdurdod Lletya).

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys hawlio swm llai o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

 

Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

 

Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd Uchelgais.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd eu bod yn rhagweld tanwariant o £189,048 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2022/23. Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau'r swm a hawlir o Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd llithriad ar y rhaglen gyfalaf ar draws yr holl bortffolio, gyda nifer is o achosion busnes wedi'u cymeradwyo nag a ragwelwyd yn wreiddiol ar y pwynt hwn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai adolygiad diwedd Awst 2022 a oedd yn cael ei gyflwyno. Eglurwyd fod yr adroddiad yn nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at ddiwedd Awst 2022 ac yn amcanu’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod yr adran gyllid yn amcanu tanwariant o £38 o filoedd ar y Swyddfa Raglen, gan amlygu fod hyn yn bennaf yn sgil tanwariant o  £11mil ar wariant gweithwyr, tanwariant o £18mil ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a thanwariant o £10mil ar y pennawd adroddiad arfarniad ESF. Tynnwyd sylw at gorwariant o dan y pennawd Gwasanaethau Cefnogol o £5mil a eglurwyd fod hyn yn sgil gorwariant ar y  gyllideb cyfreithiol.

 

Amcangyfrifwyd tanwariant net o £10 mil ar y pennawd Cyd-bwyllgor, a oedd cynnwys tanwariant o £18mil ar Gefnogaeth Gyfreithiol Allanol, tanwariant o £5 mil ar Ffioedd Cyllidol Allanol a gorwariant o £13 mil ar y Ffioedd Archwilio Allanol.  Nodwyd fod y  ffioedd archwilio yn seiliedig ar y Cynllun Archwilio Cymru a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf, ond roedd yn cynnwys ffi ar gyfer y gwaith archwilio perfformiad nad oedd wedi'i chynnwys yn y gyllideb.   Mynegwyd fod y pennawd prosiectau yn dangos tanwariant o £161 o filoedd, gan amlygu fod hyn yn sgil llithriad yn y rhaglen gyfalaf.

 

O ran y ffynonellau incwm ar gyfer 2022/23 nodwyd eu bod yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru a grantiau penodol eraill. Eglurwyd y bydd hyn wedyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23, yn danwariant o £189 o filoedd. O ganlyniad i hyn nodwyd yn hytrach na hawlio y swm llawn o £750mil o’r Grant Cynllun Twf, awgrymir fod swm is o £561mil yn cael ei hawlio a fydd yn gadael sefyllfa niwtral i’r Bwrdd eleni.

 

Mynegwyd fod amcan balans y gronfa wrth gefn gyffredinol ar 31 Mawrth 2023 yw £552 o filoedd ac ychwanegwyd fod y Bwrdd eisoes wedi cymeradwyo defnyddio’r gronfa wrth gefn i ariannu staff y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd Mawrth 2024. Disgwylir defnyddio £100mil o’r gronfa prosiectau yn 2022/23 a fydd yn rhoi amcan balans diwedd blwyddyn o £95mil. Nodwyd y bydd cyfraniadau llog partneriaid o £265 o filoedd ar gyfer 2022/23 yn cael eu hychwanegu i’r gronfa  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD (CBC) - SECONDIAD RHAN-AMSER CYFARWYDDWR PORTFFOLIO'R BWRDD UCHELGAIS FEL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CBC pdf eicon PDF 323 KB

Dylan J Williams, Prif Weithredol Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais i gyflwyno cais gan Gyd-Bwyllgor Corfforaethol y Gogledd (CBC), i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC, yn y lle cyntaf dros dro tan 31 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r  Bwrdd Uchelgais

·         gefnogi cais y CBC i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth 2023 ar sail secondiad rhan amser i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr dros dro.

·         Bod yr holl gyflogaeth gysylltiedig a'r costau cysylltiedig yn cael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd

·         Dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar ail-ddyrannu cyfrifoldebau sydd o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) er mwyn sicrhau fod y trefniadau dros dro yn cefnogi blaenoriaethau’r PMO a’r cyfrifoldeb i holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Neal Cockerton (Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint).

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Bwrdd Uchelgais

·         gefnogi cais y CBC i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth 2023 ar sail secondiad rhan amser i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr dros dro.

·         Bod yr holl gyflogaeth gysylltiedig a'r costau cysylltiedig yn cael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd

·         Dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar ail-ddyrannu cyfrifoldebau sydd o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) er mwyn sicrhau fod y trefniadau dros dro yn cefnogi blaenoriaethau’r PMO a’r cyfrifoldeb i holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd cais gan Gyd-Bwyllgor Corfforaethol y Gogledd i’r Bwrdd Uchelgais ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC, yn y lle cyntaf dros dro tan 31 Mawrth 2023.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn cyflwyno cais i ryddhau rhan o amser y Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC dros dro tan 31 Mawrth 2023. Eglurwyd fod llawer o faterion angen ymateb iddynt ac angen unigolyn i  arwain y gwaith tan ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Eglurwyd fod posibilrwydd y bydd y Bwrdd yn rhan o’r CBC yn y dyfodol, a bydd angen i’r Prif Weithredwr fod yn cynorthwyo i roi ffocws i’r CBC ac i sicrhau nad oes dyblygu gwaith rhwng y CBC a’r Bwrdd Uchelgais. Mynegwyd y bydd y Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn talu costau cyflogaeth a costau cysylltiedig o secondiad y Cyfarwyddwr Portffolio a fydd hefyd o bosib yn rhoi cyfle datblygol i rai o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd dealltwriaeth pam yr angen i fynd i’r cyfeiriad yma ond pwysleisiwyd mai dim ond cefnogaeth tan Mawrth 2023 fydd gan rai Aelodau o’r Bwrdd. Holwyd beth yw’r cynllun ar gyfer cyflogi Prif Weithredwr i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar ôl y cyfnod yma. Mynegwyd bydd angen i’r Prif Weithredwr dros dro fod yn datblygu y rôl, ynghyd a disgwyliadau a trefniadau dros y cyfnod yma.

¾     Holwyd beth yw’r cynllun o fis Mawrth 2023 ymlaen. Nodwyd ei fod eto yn rhan o rôl y Prif Weithredwr dros dro i ddeall y rôl a rhoi trefn hysbysebu swydd yn ei le.

¾     Nodwyd llawer o cwestiynau heb atebion ar hyn o bryd a fod hwn yn rhoi ateb pragmataidd i’r sefyllfa, ac amlygwyd fod y cyfnod o 6 mis am hedfan heibio. 

¾     Pwysleisiwyd ei bod yn amlwg fod apwyntio Prif Weithredwr i’r tymor hir am gymryd amser ac felly bydd adroddiadau yn cael ei cyflwyno yn gyson i roi diweddariad i’r Bwrdd.

 

8.

STRATEGAETH YNNI RHANBARTHOL - CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 437 KB

Henry Aron, Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru a Rhys Horan, Arweinydd Strategol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i geisio cymeradwyaeth y Bwrdd i'r Cynllun Gweithredu drafft i Strategaeth Ynni Gogledd Cymru a'u hargymhellion ynghylch cymeradwyaeth awdurdod lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu drafft.

 

Cymeradwywyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol.

 

Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried gan bob Awdurdod Lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rhys Horan, Arweinydd Strategol (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru)

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu drafft.

 

Cymeradwywyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol.

 

Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried gan bob Awdurdod Lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd Strategaeth Ynni Gogledd Cymru gan y Bwrdd Uchelgais a Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021. Mynegwyd mai datblygu’r Cynllun Gweithredu yw’r cam nesaf yn y broses cynllunio ynni rhanbarthol a’i nod o drosi blaenoriaethau yn gamau ac ymrwymiadau strategol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran Ynni Rhanbarthol. Eglurwyd fod y Strategaeth Ynni Rhanbarthol wedi ei dderbyn gan y Bwrdd llynedd ac eu bod heddiw yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft. Pwysleisiwyd fod Gogledd Cymru yn arwain y ffordd o ran gwaith yn y maes hwn. 

 

Nodwyd fod y strategaeth a dderbyniwyd llynedd yn amlygu’r prif flaenoriaethau fel mae’r Cynllun Gweithredu. Esboniwyd fod trafodaethau a gynhaliwyd wedi amlygu’r angen i ystyried y sector diwydiannol ac felly maent wedi eu cynnwys. Mynegwyd fod y Cynllun Gweithredu yn amlygu sut mae modd symud y blaenoriaethau o fewn y strategaeth i gamau penodol.

 

Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu yn rhan o’r llun cyfan, gan bwysleisio ei fod yn cyfleu targedau ynni sydd yn cyd-fynd a pholisïau cenedlaethol. Pwysleisiwyd yn dilyn hyn bydd cynlluniau lleol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf cyn eu cyflwyno i’r awdurdodau lleol. Nodwyd fod y gwaith o greu’r ddogfen wedi cael ei oruchwylio gan grŵp tasg a gorffen ble gwelwyd cefnogaeth amlwg gan ran ddeiliad.

 

Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn amlygu pwy sydd yn gymwys i symud y cynllun yn ei flaen ynghyd a’r amserlen a’r elfen gyllidol. Esboniwyd fod nifer o’r camau wedi eu hariannu yn barod neu ddim yn rhagweld yr angen am arian ychwanegol. O ran Llywodraethant mynegwyd fod y grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi cyflawni eu tasg a bydd yn cael ei addasu i fod yn Grŵp Prosiect i oruchwylio’r gwaith ac i gytuno ar drefniadau i adrodd ar gynnydd. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu tair swydd  newydd i gefnogi gyda’r gwaith ac i gynorthwyo gyda adrodd ar gynnydd.

 

Amlygwyd mai taith yw datblygu’r system ynni, ac fod y cynllun hwn yn rhan o’r daith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd o ran y dair swydd newydd os y bydd gofynion ariannol ar y Bwrdd. Nodwyd fod y dair swydd newydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a pwysleisiwyd ar hyn o bryd nad oes dim ymrwymiad ariannol i’r Bwrdd.

¾     Cytunwyd y bydd yr adroddiad yma yn mynd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes. 

¾     Mynegwyd fod y Cynllun lefel uchel ar hyn o bryd sydd yn rhoi trefn yn ei le. Nodwyd y bydd cynlluniau mwy gweithredol yn cael ei rhannu nes ymlaen.

 

9.

CYNLLUN TŴF GOGLEDD CYMRU - SGANIO'R GORWELION pdf eicon PDF 415 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad yw gosod egwyddorion a phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd ymlaen a ffefrir pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Penderfyniad:

Cytunwyd â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd prosiectau’n cael u tynnu yn ôl o Fargen Twf Gogledd Cymru.

 

Cytunwyd fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r meini prawf sgorio ar gyfer yr ymarfer sganio’r gorwel fesul achos.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd prosiectau’n cael eu tynnu yn ôl o Fargen Twf Gogledd Cymru. Cytunwyd fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r meini prawf sgorio ar gyfer yr ymarfer sganio’r gorwel fesul achos.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan y Cynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, hasesu a lle bo hynny’n berthnasol eu hystyried gan y bwrdd. Amlygodd yr adroddiad hwn egwyddorion ynghyd â phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd ymlaen a ffrefir pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn nodi’r egwyddorion ar gyfer prosiectau amgen pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.  Nodwyd fel a ganlyn:

1.    Egwyddor 1: Cyn ystyried prosiectau newydd, i ddechrau, bydd y Bwrdd yn ystyried ceisiadau gan brosiectau presennol ar gyfer cyllid ychwanegol, ar sail achos wrth achos.

2.    Egwyddor 2: Fel rhan o’r ymarfer sganio’r gorwelion, dylai'r holl opsiynau gael eu hystyried fel rhan o'r broses i adnabod ffordd ymlaen a ffefrir

3.    Egwyddor 3: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn targedau achos busnes y portffolio a cheisio cyflawni lefel gymharol o fuddion i'r prosiect a dynnir yn ôl o'r Cynllun Twf

4.    Egwyddor 4: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn achos busnes perthnasol y rhaglen a'i dargedau a, gymaint â phosib, mynd i'r afael â'r bwlch a adewir wrth i'r prosiect gael ei dynnu'n ôl o'r Cynllun Twf.

5.    Egwyddor 5: Rhaid i unrhyw brosiectau newydd yn y ffordd ymlaen a ffefrir allu arddangos effaith ranbarthol yn yr un ffordd â phrosiectau presennol.

 

Mynegwyd fod yr egwyddorion yn cael ei gefnogi gan broses ac amlygwyd y broses o dri prif cam. O ran y cam cyntaf – Sganio’r Gorwel – nodwyd yr angen i gytuno ar feini prawf, sgorio a  phwysoliad gan amlygu’r angen i gynnwys targedau ar gyfer swyddi, buddsoddi a meini prawf cyflawni. Eglurwyd y buasai galwad cyhoeddus am brosiectau a buasai asesiad porth caled cychwynnol yn cael ei wneud gan y Cyfarwyddwr Portffolio i ddileu unrhyw gynigion nad ydyn yn bodloni lefel ofynnol o ddeilliannau.

 

Fel yr ail gam – Creu Rhestr Hir a Rhestr Fer – nodwyd y buasai asesiad o’r rhestr hir yn erbyn  meini prawf i gytuno a adnabod rhestr fer. Gofynnir am wybodaeth bellach gan y prosiectau er mwyn i asesiad rhestr fer gael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais i adnabod y ffordd ymlaen.

 

Y cam olaf fydd i gymeradwyo a datblygu achosion busnes. Nodwyd y buasai argymhelliad yn cael ei gynnig i’r Bwrdd Uchelgais cyn dechrau’r gwaith o greu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHEOLAETH NEWID: PROSIECT SAFLE STRATEGOL BODELWYDDAN pdf eicon PDF 337 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i gyflwyno adroddiad yn argymell tynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.

Penderfyniad:

Cytunwyd i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol ac yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y penderfyniad.

 

Cytunwyd bod y Bwrdd yn nodi bod cyllid sydd wedi'i glustnodi dros dro i'r prosiect yn cael ei gadw o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a bod y penderfyniad ar brosiect neu brosiectau amgen yn fater i'r Bwrdd Uchelgais ei benderfynu.

 

Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) a David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo).

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol ac yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y penderfyniad.

 

Cytunwyd bod y Bwrdd yn nodi bod cyllid sydd wedi'i glustnodi dros dro i'r prosiect yn cael ei gadw o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a bod y penderfyniad ar brosiect neu brosiectau amgen yn fater i'r Bwrdd Uchelgais ei benderfynu.

 

Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Daeth Caniatâd Cynllunio Amlinellol y prosiect fel y bwriadwyd yn wreiddiol o 1,700 a mwy o unedau preswyl, 26 hectar o dir cyflogaeth, canolfan leol, ysgol, canolfan feddygol, gwesty, cartref gofal ychwanegol, defnydd hamdden wedi dod i ben ym mis Mawrth 2021. Roedd y ddau ddatblygwr sector preifat wedi tynnu'n ôl o'r prosiect cyn i'r caniatâd ddod i ben.

 

Eglurwyd fod y prosiect yn un o chwech o fewn y rhaglen Tir ac Eiddo ac amcangyfrifwyd ei fod yn cyflawni 26 acer o dir cyflogaeth, 1,715 o dai newydd, ysgol gynradd, canolfan leol, cyfleusterau hamdden ac adloniant, 576 o swyddi, £20m y flwyddyn o GVA ac oddeutu £185m o fuddsoddiad cyfalaf.

 

O ganlyniad i hyn gofynnwyd i’r Bwrdd i dynnu’r prosiect allan o’r Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gais i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol. Mynegwyd fod y cynllun hwn yn un mawr ac amlygwyd fod nifer o newidiadau wedi bod yn dilyn Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol sir Ddinbych ar gyfer 2023.

 

Eglurwyd fod y wybodaeth aelwydydd wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod 2023-33 a'r Arolwg Tir Cyflogaeth 2021  ar gyfer yr un cyfnod yn amcangyfrif bod y galw am gartrefi newydd a thir cyflogaeth ar gyfer prosiect Bodelwyddan yn gostwng i 400 o gartref a 1715 yn ôl yn 2016. Ategwyd yn ogystal fod y caniatâd cynllunio wedi rhedeg allan ôl yn Mawrth 2021 ynghyd a’r datblygwr yn tynnu yn ôl. Mynegwyd fod  llinell amser ar gyfer mabwysiadu'r

Cynllun Cyflenwi Lleol a adolygwyd hefyd wedi'i ymestyn ac amcangyfrifir na fydd y Cynllun

newydd yn cael ei fabwysiadu tan ganol 2025. Eglurwyd o ganlyniad na fyddai’r gwaith yn cychwyn tan canol 2028 ar y cynharaf.

 

Esboniwyd fod trafodaeth wedi ei gynnal gan y Bwrdd Rhaglen ac eu bod yn argymell ei dynnu yn ôl ac i glustnodi’r arian o fewn y Cynllun Twf er mwyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno papur i gyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod angen derbyn fod rhai cynlluniau ddim am gael ei symud ymlaen ac fod angen dechrau’r broses o sganio’r gorwelion mor fuan a bo modd.

 

11.

RHEOLAETH NEWID: MORLAIS pdf eicon PDF 347 KB

Henry Aron (Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru) i geisio cymeradwyaeth y Bwrdd i argymhellion y PMO ynghylch Cais i Newid Morlais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y cais i newid.

 

Nodwyd gan y bydd y cais i newid bydd angen i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei ystyried.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y cais i newid.

 

Nodwyd gan y bydd y cais i newid bydd angen i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei ystyried.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Mai 2021, fe wnaeth y Bwrdd Uchelgais gymeradwyo achos busnes amlinellol (OBC) am gyllid o £9m tuag at ddatblygiad Morlais B. Yn sgil cyfuniad o gyfyngiadau ariannu, tynnodd Menter Môn yr OBC yn ôl yn Hydref 2021. Wedi tynnu'r OBC yn ôl, mae Menter Môn wedi paratoi cais i newid yn gofyn am gefnogaeth gan y Bwrdd i gadw'r £9m a glustnodwyd o Raglen Ynni Carbon Isel y Cynllun Twf. Byddai hyn yn galluogi i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol diwygiedig am brosiect diwygiedig o'r enw Prosiect Cydnerth. Yn unol â phroses rheoli newid Cynllun Twf Gogledd Cymru, mae angen cymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer y cynnig hwn

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais hwn yn gofyn am newid i brosiect. Eglurwyd mai dyma’r OBC cyntaf a gymeradwywyd gan y Bwrdd ond y bu iddo gael ei dynnu yn ôl yn sgil cyfuniad o gyfyngiadau cyllid WEFO a rheolau cymorth gwladwriaethol. Nodwyd y bu i Menter Mon dderbyn yr arian gan WEFO ar gyfer gallu darparu isadeiledd ar y tir, ond nad oedd arian wedi ei ddiogelu ar gyfer ehangu y cynllun ymhellach. Mynegwyd fod Menter Mon yn cyflwyno cais i’r Bwrdd am gefnogaeth i newid ac i’r £9m gael ei glustnodi gan y rhaglen er mwyn caniatáu i OBC diwygiedig gael ei gyflwyno ganddynt.

 

Nodwyd fod yr OBC gwreiddiol yn cynnwys £9m gan y Cynllun Twf a £25m gan WEFO i gydariannu’r Cynllun ond bellach fod y prosiect yn mynd rhagddi drwy arian WEFO yn unig.

Eglurwyd fod Menter Mon yn gofyn am gefnogaeth y Bwrdd Uchelgais i gadw y £9m sydd wedi ei glustnodi o’r Cynllun Twf er mwyn dileu y rhwystrau canlynol i’r cynllun sef i gysylltu a’r Grid Cenedlaethol a monitro effeithiau amgylcheddol tanforol. Mynegwyd mai enw’r  prosiect diwygied yw Prosiect Cydnerth.

 

Amlygwyd yr amserlen diwygiedig gan nodi eu  bod yn awyddus i gyflwyno yr OBC haf nesaf, ac yna adeiladu a gwariant i gychwyn yn ystod Haf 2024. O ran buddion a allbynnau eu bod yn aros yr un fath â’r prosiect gwreiddiol ond eu bod yn cael ei rhannu rhwng y prosiect a ariennir gan WEFO a Prosiect Cydnerth. Nodwyd fod  llythyr cefnogaeth wedi ei dderbyn mewn egwyddor gan WEFO ym mis Medi. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd ei fod yn gais rhesymol – i barhau i fuddsoddi o fewn y cynllun.

¾     Nodi prosiect wedi bod yn Bwrdd Cefnogi Busnes yn flaenorol a hapus i weld y newid.

¾     Pwysleisiwyd na fydd unrhyw ymrwymiad i arian heddiw tan y bydd Cynllun Busnes wedi ei dderbyn gan y Bwrdd yn y dyfodol.

 

 

 

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twfi rannu gwybodateh sensitive ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Cofnod:

Cytunwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Roedd budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau .

 

13.

PROSIECT TRAFNIDIAETH A DATGARBONEIDDIO (HYDROGEN) - CAMAU NESAF

Graham Williams, Rheolwr Prosiect  a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y camau nesaf ar gyfer y prosiect a'r egwyddorion caffael drafft. 

 

Bu i’r Bwrdd ddirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, awdurdod i gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn derfynol ac yna ymgymryd â'r ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd. 

 

Nodwyd yn dilyn cwblhau'r broses gaffael bydd argymhelliad yn cael ei gynnig i'r Bwrdd er cymeradwyaeth. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Graham Williams (Rheolwr Prosiect) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau)

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y camau nesaf ar gyfer y prosiect a'r egwyddorion caffael drafft.

 

Bu i’r Bwrdd ddirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, awdurdod i gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn derfynol ac yna ymgymryd â'r ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd.

 

Nodwyd yn dilyn cwblhau'r broses gaffael bydd argymhelliad yn cael ei gynnig i'r Bwrdd er cymeradwyaeth.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn rhedeg yn unol â'r ffordd ymlaen a ffafrir a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ym mis Ebrill 2022. Y cam nesaf yw ceisio cymeradwyaeth gan y Bwrdd Uchelgais i symud ymlaen i'r cam nesaf a chaffael noddwr i'r prosiect.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.