skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn), yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd), Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Jane Richardson (Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Dafydd Evans a Maria Hinfelaar fuddiant personol yn eitem 5 oherwydd bod yr adroddiad yn crybwyll dyrannu adnoddau penodol i brosiectau Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Glyndŵr, ac oherwydd natur ariannu uniongyrchol yr eitem.

 

Roedd y cynrychiolwyr o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 244 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2022 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CRONFA CYFLAWNI'R PORTFFOLIO pdf eicon PDF 425 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Bod y Bwrdd yn cytuno i sefydlu Cronfa Cyflawni Portffolio ar gyfer 2023-24 a chlustnodi hyd at £7m o’r £20m o gyllid y Cynllun Twf nad yw wedi’i glustnodi a ryddhawyd i’r gronfa hon yn sgil y ffaith bod prosiectau Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan a Fferm Sero Net Llysfasi wedi’u tynnu’n ôl.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD bod y Bwrdd yn cytuno i sefydlu Cronfa Cyflawni Portffolio ar gyfer 2023-24 a chlustnodi hyd at £7m o’r £20m o gyllid y Cynllun Twf nad yw wedi’i glustnodi a ryddhawyd i’r gronfa hon yn sgil y ffaith bod prosiectau Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan a Fferm Sero Net Llysfasi wedi’u tynnu’n ôl.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd.

 

Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas â phrosiectau amgen posib:

 

"Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes portffolio. Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch."

 

Ym mis Medi 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno ar gyfres o egwyddorion er mwyn adnabod prosiectau newydd yn cynnwys y bydd y Bwrdd yn ystyried, i ddechrau ac ar sail achos wrth achos, geisiadau gan brosiectau presennol ar gyfer cyllid ychwanegol sy'n bodloni cyfres o feini prawf.

 

Gan adeiladu ar yr egwyddor a fabwysiadwyd gan y Bwrdd ym mis Medi, gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried clustnodi cyfran o'r cyllid a gaiff ei ryddhau o brosiectau Bodelwyddan a Llysfasi i Gronfa Cyflawni’r Portffolio i gefnogi prosiectau aeddfed o fewn y portffolio sy'n gorfod ymdopi â chynnydd mewn costau neu faterion hyfywedd er mwyn gallu symud i gyflawni yn ystod 2023-24 (yn amodol ar benderfyniadau ar wahân gan y Bwrdd).

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Pennaeth Gweithrediadau y credai fod neilltuo £7m o’r £20m o gyllid y Cynllun Twf nad oedd wedi’i glustnodi i Gronfa Cyflawni’r Portffolio yn gymesur ac yn ddigonol i sicrhau bod tri o’r prosiectau a restrwyd ym mharagraff 4.8 o’r adroddiad yn symud ymlaen, a hynny o fewn yr amserlen a nodwyd. 

 

Nodwyd ymhellach y byddai’r Bwrdd yn gweld manylion y ceisiadau ffurfiol gan yr amrywiol brosiectau yn ei gyfarfod nesaf, ac awgrymwyd hefyd y byddai’n fuddiol cyflwyno adroddiad manwl ar hyn i gyfarfod mis Ionawr o’r Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

6.

PROSES NEWID PROSIECT pdf eicon PDF 610 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriad ‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’ (Atodiad A – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllen ‘Dylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.

2.       Cytuno i'r amserlen a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys lansio'n ffurfiol ym mis Ionawr 2023.

3.       Dirprwyo’r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ategodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) y sylw mai’r dyhead oedd adnabod pecyn uchelgeisiol iawn o brosiectau y gellir eu cyflawni, yn hytrach na phrosiectau sy’n cyfarfod â’r lleiafswm gofynnol yn unig.

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriadRhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig (Atodiad A – Gofynion SylfaenolFfit StrategolRhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllenDylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.
  2. Cytuno i'r amserlen a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys lansio'n ffurfiol ym mis Ionawr 2023.
  3. Dirprwyo’r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd.

 

Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas â phrosiectau amgen posib:

 

"Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes portffolio. Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch."

 

Ym mis Medi 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno ar gyfres o egwyddorion er mwyn adnabod prosiectau newydd a phroses tri cham, sef Cam 1: Sganio’r Gorwel, Cam 2: Creu Rhestr Hir a Rhestr Fer a Cham 3: Cymeradwyo a Datblygu’r Achosion Busnes. 

 

Gofynnwyd i’r Bwrdd gytuno ar y sgôp a’r lleiafswm gofynnol ar gyfer y cam sganio’r gorwel.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd yr adroddwyd yng nghyfarfod diweddar Cyngor Busnes Gogledd Cymru bod yr £13m o gyllid y Cynllun Twf nad oedd wedi’i glustnodi ar gael, ond na rannwyd unrhyw fanylion ynglŷn â’r meini prawf a’r angen am gyllid cyfatebol, ac ati.  Yn wyneb hynny, awgrymwyd y dylid cyfleu’r negeseuon hynny cyn gynted â phosib’ er mwyn rheoli disgwyliadau.  Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Gweithrediadau, yn ddarostyngedig i benderfyniad y Bwrdd ar yr eitem hon, y byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu rhag blaen gyda rhai o’n rhanddeiliad allweddol, megis y Cyngor Busnes, ac na fwriedid aros am y lansiad swyddogol ym mis Ionawr

 

Gan gyfeirio at Atodiad A i’r adroddiad – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, mynegwyd pryder y gallai’r datganiad ‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’ eithrio prosiectau da yng nghanol trefi.  Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau:-

 

·         Bod y Bwrdd Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth o’r farn bod y rhaglen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.