Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol yn Zoom - i gael mynediad i'r cyfarfod cysylltwch â ni
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2022/23. Cofnod: Bu i
Cyng. Dyfrig Siencyn gael ei ethol yn gadeirydd ar gyfer 2022/23. |
|||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn
Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23. Cofnod: Bu i’r
Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. |
|||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Charlie McCoubrey
ond nodwyd fod y Cyng. Emily Owen yno yn dirprwyo ar ei ran, y Cyng. Ian
Roberts, Yr Athro Iwan Davies ond nodwyd fod Paul Spencer yno yn dirprwyo ar ei
ran, Yana Williams, Coleg Cambria, Neal Cockerton, Ian Bancroft a Dafydd Gibbard a nodwyd fod
swyddogion yn dirprwyo ar eu rhan. |
|||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: None
to note |
|||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 322 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
29 Ebrill, 2022 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-22 PDF 333 KB Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar
gyfer 2021-22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriwyd a nodwyd yr Adroddiad
Blynyddol ar gyfer 2021-22. Cymeradwywyd cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio. PENDERFYNWYD Ystyriwyd a nodwyd yr Adroddiad
Blynyddol ar gyfer 2021-22. Cymeradwywyd cyflwyno’r
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU,
ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn
un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda
Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan longyfarch y Cynghorwyr ar gael eu hethol yn dilyn yr
etholiad. Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlygu llwyddiannau Cynllun Twf dros y
flwyddyn aeth heibio. Tynnwyd sylw at y traciwr
cyflawni a oedd yn nodi ble mae pob cynllun wedi ei gyrraedd erbyn y 31 o
Fawrth 2022. Amlygwyd fod rhai isafbwyntiau a sialensiau wedi bod yn ystod y
flwyddyn megis Cynllun y Morlais sydd bellach yn weithredol, ond nodwyd ei fod
yn cael ei ariannu drwy arian WEFO ac nid drwy’r Cynllun Twf. Tynnwyd sylw yn
ogystal fod rhai cynlluniau yn rhedeg tu ôl i’w hamserlen cychwynnol. Amlygwyd
uchafbwyntiau’r flwyddyn a oedd yn cynnwys derbyn grant o £200,000 i ddatblygu
technolegau carbon isel ar gyfer cartrefi, grant o £500,000 i arloesi i
gynorthwyo ffermwyr i ddatgarboneiddio, a £387.000 i gynnal astudiaethau
dichonoldeb ar gyfer Systemau Ynni Lleol Blaengar. Nodwyd fod ymweliadau wedi
ei cynnal gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac eglurwyd y
bydd mwy o ymweliadau yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf er mwyn amlygu’r
cynlluniau a’r buddion sydd i’w gweld ar draws yr ardal. Mynegwyd fod
Strategaeth Ynni wedi ei gyhoeddi gyda Llywodraeth Cymru, ac eglurwyd fod mwy o
waith angen ei wneud drwy weithredu’r Cynlluniau Gweithredu Ynni Lleol. Eglurwyd
ym mis Rhagfyr fod Achos Busnes Llawn cyntaf wedi ei gymeradwyo sef Canolfan
Brosesu Signalau Digidol ym Mhrifysgol Bangor. Tywyswyd dros rhai prosiectau
penodol. Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud dros y ddeuddeg mis, ac fod
creu’r adroddiad wedi bod yn gyfle i adlewyrchu ar y gwaith sydd wedi ei wneud.
Mynegwyd wrth symud ymlaen fod cyfle i fod yn fwy gweledol dros y sir ac i
adeiladu ar y perthnasau sydd wedi eu datblygu dros y ddwy flynedd diwethaf. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Diolchwyd am yr adroddiad a holwyd pwy fydd yn cyflwyno’r
adroddiad blynyddol i’r pwyllgorau craffu perthnasol yn yr awdurdodau. Mynegwyd
y gall yr adroddiad gan ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Portffolio a’r Rheolwr
Gweithrediadau. ¾
Mynegwyd yr angen i werthu’r cynlluniau ac i ledaenu’r gwaith da
sy’n cael ei wneud. |
|||||||||||||||||||||||||||||
ROLAU AELODAU ARWEINIOL PDF 322 KB Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth
Gweithrediadau, i gyflwyno adroddiad yn cadarnhau rolau'r Aelodau Arweiniol ar gyfer Uchelgais
Gogledd Cymru a'r Cynllun Twf. Penderfyniad: Cadarnhawyd y Rolau Arweiniol ar gyfer y Bwrdd
Uchelgais fel a ganlyn:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNIAD Cadarnhawyd y Rolau Arweiniol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais fel a ganlyn:
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Ym mis Mehefin 2020, bu i’r Bwrdd fabwysiadu strwythur llywodraethu
rheoli prosiect, rhaglen a portffolio er mwyn cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru, gan gynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio’r cyflawni gweithredol.
Roedd y strwythur llywodraethu yn cynnwys penodi Aelod Arweiniol i bob un
o’r pum Bwrdd rhaglen yn ogystal â’r rôl Aelod Arweiniol ar gyfer Trafnidiaeth.
Yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, mae angen ail-gadarnhau’r rolau
hyn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Bwrdd wedi mabwysiadu strwythur
llywodraethu rheoli prosiect, rhaglen a portffolio er mwyn cyflawni’r Cynllun
Twf. Eglurwyd fod y strwythur llywodraethu yn cynnwys penodi Aelod Arweiniol i
bob un o’r pum Bwrdd Rhaglen yn ogystal â’r rôl Aelod Arweiniol bresennol ar
gyfer trafnidiaeth. Er mwyn sicrhau dilyniant i’r rhaglenni amlygwyd mai dim ond un newid i’r
rolau fyddai canlyniad y penderfyniad a geisid, sef cadarnhau Y Cyng. Jason McLellan yn Aelod Arweiniol ar Dir ac Eiddo, gan gymryd rôl
cyn-arweinydd Cyngor Sir Ddinbych. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Dangoswyd cefnogaeth i gadw at y meysydd, a nodwyd
pwysigrwydd o rolau Arweiniol i wthio cynlluniau yn y blaenau ac i gynorthwyo a
unrhyw broblemau gwleidyddol sydd yn codi. |