Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol yn Zoom - i gael mynediad i'r cyfarfod cysylltwch â ni

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2022/23. 

Cofnod:

Bu i Cyng. Dyfrig Siencyn gael ei ethol yn gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Bu i’r Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Charlie McCoubrey ond nodwyd fod y Cyng. Emily Owen yno yn dirprwyo ar ei ran, y Cyng. Ian Roberts, Yr Athro Iwan Davies ond nodwyd fod Paul Spencer yno yn dirprwyo ar ei ran, Yana Williams, Coleg Cambria, Neal Cockerton, Ian Bancroft a Dafydd Gibbard a nodwyd fod swyddogion yn dirprwyo ar eu rhan.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

None to note

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 322 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2022 fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-22 pdf eicon PDF 333 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd a nodwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22.

 

Cymeradwywyd cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

Ystyriwyd a nodwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22.

 

Cymeradwywyd cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch y Cynghorwyr ar gael eu hethol yn dilyn yr etholiad. Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlygu llwyddiannau Cynllun Twf dros y flwyddyn aeth heibio. Tynnwyd sylw at y traciwr cyflawni a oedd yn nodi ble mae pob cynllun wedi ei gyrraedd erbyn y 31 o Fawrth 2022. Amlygwyd fod rhai isafbwyntiau a sialensiau wedi bod yn ystod y flwyddyn megis Cynllun y Morlais sydd bellach yn weithredol, ond nodwyd ei fod yn cael ei ariannu drwy arian WEFO ac nid drwy’r Cynllun Twf. Tynnwyd sylw yn ogystal fod rhai cynlluniau yn rhedeg tu ôl i’w hamserlen cychwynnol.

 

Amlygwyd uchafbwyntiau’r flwyddyn a oedd yn cynnwys derbyn grant o £200,000 i ddatblygu technolegau carbon isel ar gyfer cartrefi, grant o £500,000 i arloesi i gynorthwyo ffermwyr i ddatgarboneiddio, a £387.000 i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyfer Systemau Ynni Lleol Blaengar. Nodwyd fod ymweliadau wedi ei cynnal gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac eglurwyd y bydd mwy o ymweliadau yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf er mwyn amlygu’r cynlluniau a’r buddion sydd i’w gweld ar draws yr ardal. Mynegwyd fod Strategaeth Ynni wedi ei gyhoeddi gyda Llywodraeth Cymru, ac eglurwyd fod mwy o waith angen ei wneud drwy weithredu’r Cynlluniau Gweithredu Ynni Lleol.

 

Eglurwyd ym mis Rhagfyr fod Achos Busnes Llawn cyntaf wedi ei gymeradwyo sef Canolfan Brosesu Signalau Digidol ym Mhrifysgol Bangor. Tywyswyd dros rhai prosiectau penodol. Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud dros y ddeuddeg mis, ac fod creu’r adroddiad wedi bod yn gyfle i adlewyrchu ar y gwaith sydd wedi ei wneud. Mynegwyd wrth symud ymlaen fod cyfle i fod yn fwy gweledol dros y sir ac i adeiladu ar y perthnasau sydd wedi eu datblygu dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am yr adroddiad a holwyd pwy fydd yn cyflwyno’r adroddiad blynyddol i’r pwyllgorau craffu perthnasol yn yr awdurdodau. Mynegwyd y gall yr adroddiad gan ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Portffolio a’r Rheolwr Gweithrediadau.

¾     Mynegwyd yr angen i werthu’r cynlluniau ac i ledaenu’r gwaith da sy’n cael ei wneud.

 

8.

ROLAU AELODAU ARWEINIOL pdf eicon PDF 322 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno adroddiad yn cadarnhau rolau'r Aelodau Arweiniol ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru a'r Cynllun Twf.

 

Penderfyniad:

Cadarnhawyd y Rolau Arweiniol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais fel a ganlyn:

 

Rhaglen

Aelod Arweiniol

Digidol

Y Cynghorydd Mark Pritchard

Ynni

Y Cynghorydd Llinos Medi

Tir ac Eiddo

Y Cynghorydd Jason McLellan

Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

Bwyd – Amaeth a Thwristiaeth

Y Cynghorydd Charlie McCoubrey

Trafnidiaeth

Y Cynghorydd Ian Roberts

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd y Rolau Arweiniol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais fel a ganlyn:

 

Rhaglen

Aelod Arweiniol

Digidol

Y Cynghorydd Mark Pritchard

Ynni

Y Cynghorydd Llinos Medi

Tir ac Eiddo

Y Cynghorydd Jason McLellan

Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

BwydAmaeth a Thwristiaeth

Y Cynghorydd Charlie McCoubrey

Trafnidiaeth

Y Cynghorydd Ian Roberts

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Mehefin 2020, bu i’r Bwrdd fabwysiadu strwythur llywodraethu rheoli prosiect, rhaglen a portffolio er mwyn cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan gynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio’r cyflawni gweithredol.

 

Roedd y strwythur llywodraethu yn cynnwys penodi Aelod Arweiniol i bob un o’r pum Bwrdd rhaglen yn ogystal â’r rôl Aelod Arweiniol ar gyfer Trafnidiaeth. Yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, mae angen ail-gadarnhau’r rolau hyn.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Bwrdd wedi mabwysiadu strwythur llywodraethu rheoli prosiect, rhaglen a portffolio er mwyn cyflawni’r Cynllun Twf. Eglurwyd fod y strwythur llywodraethu yn cynnwys penodi Aelod Arweiniol i bob un o’r pum Bwrdd Rhaglen yn ogystal â’r rôl Aelod Arweiniol bresennol ar gyfer trafnidiaeth.

 

Er mwyn sicrhau dilyniant i’r rhaglenni amlygwyd mai dim ond un newid i’r rolau fyddai canlyniad y penderfyniad a geisid, sef cadarnhau Y Cyng. Jason McLellan yn Aelod Arweiniol ar Dir ac Eiddo, gan gymryd rôl cyn-arweinydd Cyngor Sir Ddinbych.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Dangoswyd cefnogaeth i gadw at y meysydd, a nodwyd pwysigrwydd o rolau Arweiniol i wthio cynlluniau yn y blaenau ac i gynorthwyo a unrhyw broblemau gwleidyddol sydd yn codi.