Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2023/24. |
|
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar
gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai), Rhun ap Gareth
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Sarah Ecob yn dirprwyo iddo, Ian Bancroft
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Richard Weigh yn dirprwyo iddo, a
Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych). Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 352 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5
Mai, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro
dau gyfeiriad at ‘Common Prosperity Fund’ yn y fersiwn
Saesneg o eitem 8 (Adnoddau i’r Swyddfa Rheoli Portffolio) i ddarllen ‘Shared Prosperity Fund’. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 PDF 337 KB Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio,
i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi’r
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23. 2.
Cymeradwyo
cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol. Cofnod: Gosododd Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, y cyd-destun, gan nodi:- ·
Mai
bwriad yr Adroddiad Blynyddol oedd hysbysu’r rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â sefyllfa bresennol Cynllun Twf Gogledd Cymru, a’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hynny mewn ffordd fwy
hygyrch ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, o gymharu â’r dull mwy rhaglennol o ddarparu diweddariadau chwarterol. ·
Y
bu’n flwyddyn eithaf heriol, gyda llawer o newidiadau
i rai o’r prosiectau a’r Portffolio yn ei gyfanrwydd, ond bod hynny wedi ein
harwain at gyfleoedd pellach yn ystod y flwyddyn bresennol, ac ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Yna cyflwynodd
Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) gyfres o sleidiau yn amlygu
uchafbwyntiau’r flwyddyn. PENDERFYNWYD 1.
Nodi’r
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23. 2.
Cymeradwyo
cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd
yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun
Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda
Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. TRAFODAETH Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, a’r Tîm, sy’n gweithio’n galed iawn yn y cefndir. Nodwyd nad oedd wedi bod yn flwyddyn hawdd,
ond mynegwyd bodlonrwydd gyda chyflymdra’r gwaith, ynghyd â gobaith y bydd y
prosiectau yn dechrau dwyn ffrwyth yn fuan iawn. Canmolwyd yr
adroddiad, a nodwyd ei bod yn amhosib’ mynegi mewn geiriau yr heriau a wynebwyd
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o safbwynt aeddfedu’r cynlluniau. Er hynny, awgrymwyd mai hon oedd un o’r
blynyddoedd gorau o ran cynnydd, er nad yw pawb, efallai, yn gweld hynny, a
phwysleisiwyd bod rhaid cyflwyno’r adroddiad mewn ffordd bositif, ac egluro’r
her go iawn. Diolchwyd i Dîm Uchelgais
Gogledd Cymru a’r sefydliadau allanol a phawb oedd wedi cyfrannu at lwyddiant
eleni. Nodwyd mai un o’r
heriau mwyaf a wynebir yw biwrocratiaeth, sy’n dal cynlluniau yn ôl, ac
awgrymwyd, petai yna fwy o awtonomi o fewn y Swyddfa
Rheoli Portffolio, y byddai’n bosib’ gwneud rhai penderfyniadau yn gynt, mewn
cydweithrediad agos â’r Bwrdd Cyflawni Busnes.
Nodwyd ymhellach bod yna gynlluniau gwych a llawer ehangach na’r Cynllun
Twf yn digwydd yng Ngogledd Cymru, sydd â’r potensial i drawsnewid y rhanbarth
pe gellid cael gwared â’r fiwrocratiaeth sy’n dod o du Llywodraeth Cymru yn
rhannol, Llywodraeth y DG, a hefyd awdurdodau lleol, o bosib’. Nododd y Cadeirydd
fod hon yn neges bwysig i’r sector breifat anfon at y Llywodraethau a
llywodraeth leol, a diolchodd i Askar Sheibani ac aelodau’r Bwrdd Cyflawni Busnes am eu
dyfalbarhad wrth iddynt wynebu’r fiwrocratiaeth y mae’r Bwrdd yma hefyd yn
wynebu, ac am eu gwaith yn cefnogi gwaith y Bwrdd Uchelgais. |