Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai), Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Sarah Ecob yn dirprwyo iddo, Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Richard Weigh yn dirprwyo iddo, a Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych).

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 352 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro dau gyfeiriad at ‘Common Prosperity Fund yn y fersiwn Saesneg o eitem 8 (Adnoddau i’r Swyddfa Rheoli Portffolio) i ddarllen ‘Shared Prosperity Fund.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 337 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Nodi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23.

2.    Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol.

 

Cofnod:

Gosododd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, y cyd-destun, gan nodi:-

 

·         Mai bwriad yr Adroddiad Blynyddol oedd hysbysu’r rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â sefyllfa bresennol Cynllun Twf Gogledd Cymru, a’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hynny mewn ffordd fwy hygyrch ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, o gymharu â’r dull mwy rhaglennol o ddarparu diweddariadau chwarterol.

·         Y bu’n flwyddyn eithaf heriol, gyda llawer o newidiadau i rai o’r prosiectau a’r Portffolio yn ei gyfanrwydd, ond bod hynny wedi ein harwain at gyfleoedd pellach yn ystod y flwyddyn bresennol, ac ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

Yna cyflwynodd Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) gyfres o sleidiau yn amlygu uchafbwyntiau’r flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Nodi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23.

2.         Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, a’r Tîm, sy’n gweithio’n galed iawn yn y cefndir.  Nodwyd nad oedd wedi bod yn flwyddyn hawdd, ond mynegwyd bodlonrwydd gyda chyflymdra’r gwaith, ynghyd â gobaith y bydd y prosiectau yn dechrau dwyn ffrwyth yn fuan iawn.

 

Canmolwyd yr adroddiad, a nodwyd ei bod yn amhosib’ mynegi mewn geiriau yr heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o safbwynt aeddfedu’r cynlluniau.  Er hynny, awgrymwyd mai hon oedd un o’r blynyddoedd gorau o ran cynnydd, er nad yw pawb, efallai, yn gweld hynny, a phwysleisiwyd bod rhaid cyflwyno’r adroddiad mewn ffordd bositif, ac egluro’r her go iawn.  Diolchwyd i Dîm Uchelgais Gogledd Cymru a’r sefydliadau allanol a phawb oedd wedi cyfrannu at lwyddiant eleni.

 

Nodwyd mai un o’r heriau mwyaf a wynebir yw biwrocratiaeth, sy’n dal cynlluniau yn ôl, ac awgrymwyd, petai yna fwy o awtonomi o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio, y byddai’n bosib’ gwneud rhai penderfyniadau yn gynt, mewn cydweithrediad agos â’r Bwrdd Cyflawni Busnes.  Nodwyd ymhellach bod yna gynlluniau gwych a llawer ehangach na’r Cynllun Twf yn digwydd yng Ngogledd Cymru, sydd â’r potensial i drawsnewid y rhanbarth pe gellid cael gwared â’r fiwrocratiaeth sy’n dod o du Llywodraeth Cymru yn rhannol, Llywodraeth y DG, a hefyd awdurdodau lleol, o bosib’.

 

Nododd y Cadeirydd fod hon yn neges bwysig i’r sector breifat anfon at y Llywodraethau a llywodraeth leol, a diolchodd i Askar Sheibani ac aelodau’r Bwrdd Cyflawni Busnes am eu dyfalbarhad wrth iddynt wynebu’r fiwrocratiaeth y mae’r Bwrdd yma hefyd yn wynebu, ac am eu gwaith yn cefnogi gwaith y Bwrdd Uchelgais.