skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·         Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Paul Johnson yn dirprwyo;

·         Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai) gyda Paul Bevan yn dirprwyo;

·         Yana Williams (Coleg Cambria);

·         Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo;

·         Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo;

·         Iwan Evans (Swyddog Monitro) gyda Sion Huws (Dirprwy Swyddog Monitro) yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 - Cyllid y Cynllun Twf: Proses Newid Prosiectau - Argymhellion Terfynol, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Mark Pritchard – Prosiect Porth Wrecsam - oherwydd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd yr ymgeisydd.

·         Y Cynghorydd Charlie McCoubrey – Prosiect Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty – oherwydd bod y tir ym mherchnogaeth Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy.

·         Y Cynghorydd Gary Pritchard – Prosiect Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty – oherwydd ei fod, hyd at 30 Mehefin eleni, yn gyflogedig gyda chwmni Rondo Media yng Nghaernarfon, a bod Rondo yn rhannol berchen Stiwdio Aria yn Llangefni.

 

Nid oeddent yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, a chynghorwyd yr aelodau bod modd iddynt gymryd rhan lawn yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater.  Er hynny, nododd y Cynghorydd Mark Pritchard y byddai’n well ganddo beidio cymryd rhan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 282 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 1 pdf eicon PDF 368 KB

Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i ddiweddaru.

2.       Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ymhelaethodd y rheolwyr rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i ddiweddaru.

2.         Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Llongyfarchwyd Elgan Roberts ar ei benodiad i olynu Henry Aron fel Rheolwr Rhaglen Ynni a dymunwyd yn dda iddo yn y swydd.  Eglurwyd, fel dyrchafiad mewnol, bod hyn yn lleihau rhywfaint ar y capasiti o fewn y rhaglen am gyfnod, ond y byddai hynny’n cael ei reoli dros y misoedd nesaf.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am baratoi’r adroddiad, a nodwyd ei bod yn ddiddorol gweld cynnydd mewn rhai meysydd.

 

Holodd y Cynghorydd Mark Pritchard a oedd ganddo’r hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater gan fod cyfeiriad yn yr adroddiad at Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mewn ymateb, eglurwyd, er bod yna fuddiant, bod eithriad yn y Cod sy’n caniatáu i’r arweinyddion gymryd rhan lawn yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd nad oedd yna benderfyniadau i’w gwneud ar brosiectau unigol yn yr achos hwn beth bynnag, gan mai adroddiad cynnydd oedd gerbron y Bwrdd.

 

Nodwyd na chredid bod modd i Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam fynd yn ei flaen gan fod arian y Llywodraeth wedi’i dynnu nôl, ac awgrymwyd y dylai’r prosiect gael ei ddiddymu cyn gynted â phosib’, fel nad yw swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru yn gwastraffu eu hamser.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Yn dilyn y pryder a fynegwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd ynglŷn â’r prosiect hwn, y cyfarfu swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru â swyddogion o Gyngor Wrecsam, ac y deellid bod Cyngor Wrecsam yn gweithio ar gynllun sy’n edrych ar sut y gellir symud y prosiect yn ei flaen.

·         Unwaith y bydd y cynllun ar gael, bydd yn cael ei adolygu gan swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru, a phe byddent o’r farn nad oes ffordd hyfyw ymlaen, yna byddai’n rhaid cyflwyno adroddiad i’r Bwrdd gydag argymhelliad ar y ffordd ymlaen, fel gydag unrhyw brosiect arall mewn sefyllfa gyffelyb.

·         Y gallai noddwr y prosiect benderfynu tynnu nôl neu gyflwyno cais i newid, ac eto byddai hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid i’r Bwrdd ei ystyried.

·         Na chredid ein bod yn y sefyllfa honno ar y funud, gan fod swyddogion Cyngor Wrecsam yn gweithio ar gynllun ar hyn o bryd.

 

Pwysleisiodd aelod arall na ddylid rhoi’r gorau i Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam, ac y dylai Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog fod yn ymwybodol y gallai eu penderfyniad i dynnu’r arian yn ôl beryglu prosiect pwysig iawn o fewn y Cynllun Twf.  Holwyd a oedd Llywodraeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DATGANIAD O GYFRIFON Y BUEGC AM 2022-23 pdf eicon PDF 506 KB

Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y BUEGC (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol).  Nodwyd:-

 

·         Bod y Bwrdd, am yr ail flwyddyn, wedi paratoi set gyflawn o ddatganiadau cyfrifon, yn hytrach na’r ffurflen swyddogol a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gan fod Uchelgais Gogledd Cymru yn “gorff perthnasol mwy” yn unol â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) gan fod ei incwm neu wariant blynyddol dros £2.5m.

·         Bod y Datganiad Cyfrifon blynyddol wedi’i baratoi yn unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu mewn Awdurdodau Lleol.

·         Bod y Bwrdd Uchelgais wedi derbyn y wybodaeth mewn ffordd llawer mwy defnyddiol pan gyflwynwyd Sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022/23 ar y 5ed o Fai, a nodwyd y penderfyniad a wnaethpwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw.

·         Bod y ffigurau sy’n ymddangos yn nhabl 1 ar dudalen 3 o’r adroddiad yn gyson gyda’r hyn oedd yn yr adroddiad alldro refeniw, a bod yr hyn a welir yn llawer o’r ddogfen yn faterion technegol yn ymwneud â chonfensiynau cyfrifo.  Hefyd, yn yr un modd, roedd ffigurau yn ymddangos sy’n adlewyrchu’r gwariant cyfalaf.

·         Bod y ffigurau pensiynau yn wahanol eleni.  Nodwyd bod gan y Bwrdd Uchelgais ymrwymiad pensiwn o £942,000 ar 31 Mawrth 2022, ond ar 31 Mawrth 2023, bod gwerth yr asedau yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau gyda sefyllfa ased net o £572,000.   Eglurwyd mai’r rheswm am hyn oedd bod prisiad yr actiwari yn defnyddio bondiau corfforaethol y DG, a gan fod cynnyrch rhain wedi bod yn uchel, roedd wedi arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel, sy’n rhoi gwerth sylweddol is ar yr ymrwymiadau pensiwn.  Eglurwyd ymhellach nad oedd y safon cyfrifo pensiynau yn caniatáu dangos ased ar gyfer cynllun pensiwn buddiannau diffiniedig, felly addaswyd gwerth yr ased ar y fantolen i £0.  Disgwylid cyfarwyddiadau pellach gan Archwilio Cymru a CIPFA ar hyn, a phetai angen unrhyw newid i’r driniaeth yn dilyn y cyfarwyddiadau yma, byddent yn cael eu haddasu erbyn y Datganiad Cyfrifon terfynol.

·         Bod y Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r cofnodion ar 7 Gorffennaf ac wedi tystio ei fod o’r farn bod y Datganiad o'r Cyfrifon wedi ei baratoi yn unol â'r ymarfer priodol fel a osodir yn y Cod Ymarfer CIPFA/LASAAC ar Gyfrifo ar gyfer Awdurdodau Lleol.  Nodwyd bod y Swyddog Cyllid Statudol yn credu bod y Datganiad yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2023 ac incwm a gwariant y Cyd Bwyllgor am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny.

·         Y bydd y datganiadau yn mynd ymlaen i gael eu hadolygu gan Archwilio Cymru, sef archwilwyr allanol y Bwrdd Uchelgais, ac y bydd y cyfrifon terfynol, ynghyd ag adroddiad yr archwilwyr, yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn ystod yr hydref.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y BUEGC (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nid oes gofyn statudol i’r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Ddatganiad o Gyfrifon y Cyd-bwyllgor, ond ystyrir bod cyflwyno’r datganiad drafft er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn.

 

Bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiad ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.  Am y rhesymau yma, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Cofnod:

PENDERFYNWYD y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiad ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.  Am y rhesymau yma, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

8.

CYLLID Y CYNLLUN TWF: PROSES NEWID PROSIECTAU- ARGYMHELLION TERFYNOL

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig).

 

Penderfyniad:

 

1.     Cefnogi'r argymhelliad i'r prosiectau a ganlyn gael gwahoddiad i ymuno â phortffolio'r Cynllun Twf, yn ddarostyngedig i gytundeb ariannwr y prosiect i'r amodau a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad:

 

·           Prosiect Antur Cyfrifol gan Zip World - dyraniad amodol o £6.2m 

·           Prosiect Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty - dyraniad amodol o £6.8m 

·           Prosiect Hwb Hydrogen Caergybi gan Menter Môn - dyraniad amodol o £3.8m 

·           Prosiect Gwastraff i Danwydd Glannau Dyfrdwy gan The Circular Economy Ltd - dyraniad amodol o £6.4m 

·           Prosiect Porth Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - dyraniad amodol o £4.79m.

 

2.         Dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio a'r Swyddog Monitro i gadarnhau amodau gydag arianwyr y prosiectau ac ymrwymo i Femorandwm o Ddealltwriaeth (MOU) gydag ariannwr pob prosiect yn cadarnhau'r gofynion a'r disgwyliadau yn ymwneud â Chyllid y Cynllun Twf.

 

3.         Nodi nad yw gwahodd prosiect i ymuno â'r Cynllun Twf yn benderfyniad i fuddsoddi yn y prosiect. Yn unol â'r broses arferol i gael mynediad at gyllid, bydd gofyn i'r holl brosiectau gynhyrchu achos busnes i'w ystyried gan y Bwrdd.

 

4.         Dyrannu £350,000 ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio, drwy gynyddu cyfraniad cyffredinol y Cynllun Twf o 2% i 2.15%.

 

5.         Nodi argymhellion y rhestr wrth gefn cychwynnol fel y nodir yn Atodiad D i’r adroddiad a gwneud cais i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn cadarnhau'r argymhellion.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

1.       Cefnogi'r argymhelliad i'r prosiectau a ganlyn gael gwahoddiad i ymuno â phortffolio'r Cynllun Twf, yn ddarostyngedig i gytundeb ariannwr y prosiect i'r amodau a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad:

 

·                Prosiect Antur Cyfrifol gan Zip World - dyraniad amodol o £6.2m 

·                Prosiect Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty - dyraniad amodol o £6.8m 

·                Prosiect Hwb Hydrogen Caergybi gan Menter Môn - dyraniad amodol o £3.8m 

·                Prosiect Gwastraff i Danwydd Glannau Dyfrdwy gan The Circular Economy Ltd - dyraniad amodol o £6.4m 

·                Prosiect Porth Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - dyraniad amodol o £4.79m.

 

2.       Dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio a'r Swyddog Monitro i gadarnhau amodau gydag arianwyr y prosiectau ac ymrwymo i Femorandwm o Ddealltwriaeth (MOU) gydag ariannwr pob prosiect yn cadarnhau'r gofynion a'r disgwyliadau yn ymwneud â Chyllid y Cynllun Twf.

 

3.       Nodi nad yw gwahodd prosiect i ymuno â'r Cynllun Twf yn benderfyniad i fuddsoddi yn y prosiect. Yn unol â'r broses arferol i gael mynediad at gyllid, bydd gofyn i'r holl brosiectau gynhyrchu achos busnes i'w ystyried gan y Bwrdd.

 

4.       Dyrannu £350,000 ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio, drwy gynyddu cyfraniad cyffredinol y Cynllun Twf o 2% i 2.15%.

 

5.       Nodi argymhellion y rhestr wrth gefn cychwynnol fel y nodir yn Atodiad D i’r adroddiad a gwneud cais i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn cadarnhau'r argymhellion.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen gwneud penderfyniad ar ôl cwblhau'r broses prosiectau newydd.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.