Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint);

·         Y Cynghorydd Jason McLellan (Cyngor Sir Ddinbych) gyda’r Cynghorydd Barry Mellor yn dirprwyo;

·         Yana Williams (Coleg Cambria);

·         Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo;

·         Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo;

·         Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo

·         Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 326 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2023-24 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2023 pdf eicon PDF 531 KB

Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1)    Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1 i’r adroddiad).

(2)    Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

(3)    Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol).

 

PENDERFYNWYD

(1)           Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1 i’r adroddiad).

(2)           Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

(3)           Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

(1)           Nodi tanwariant a ragwelir o £266,683 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2023/24 sydd yn bennaf oherwydd llwyddiant y Swyddfa Rheoli Portffolio gyda'u cais Cronfa Ffyniant Gyffredin rhanbarthol.  Bydd y tanwariant terfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei ddefnyddio i leihau'r swm a hawlir o grant y fargen dwf a'r gronfa a glustnodir.

(2)           Nodi llithriad pellach ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £7.13m yn 2023/24 o'i gymharu â chyllideb gymeradwy o £11.25m ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd yr angen i gydnabod a gwerthfawrogi gwaith y tîm yn tynnu arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) i lawr.

 

Nodwyd, er bod y sefyllfa bresennol yn sefydlog, bod y Bwrdd yn nodi’r heriau ariannol sy’n ei wynebu i’r dyfodol, ac y bydd rhaid cynnal trafodaethau hynod o anodd dros y misoedd nesaf.

 

Holwyd a oedd y llog gwell na’r disgwyl ar y balansau eleni yn ffactor sylweddol wrth symud ymlaen.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y llog yn debygol o fod dros £2m eleni, ond y golygai hynny y byddai ein costau benthyca yn uwch yn y dyfodol, ac y byddai’r llog yn cyfrannu tuag at hynny.

 

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 396 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Cofnod:

Oherwydd bod y Cadeirydd yn cael problemau technegol, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Mark Pritchard, yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol.

 

Gofyniad Rhan 5 yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol.  Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Gan gyfeirio at y tabl ar dudalen 13 o’r fersiwn Saesneg o’r Datganiad Llywodraethu, nodwyd bod yna ddwy seren wrth ochr yr Asesiad Hyder Cyflawni Ambr ar gyfer Porth Caergybi, ond dim esboniad pellach ynglŷn â hynny.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y ddwy seren yn cyfeirio at y ffaith ein bod, ar y pryd, yn aros i Lywodraeth Cymru arwyddo’r Gorchymyn Adolygu Harbwr, oedd yn cael ei weld gan y tîm fel risg sylweddol y tu allan i reolaeth y prosiect ei hun.

·         Bod Llywodraeth Cymru bellach wedi arwyddo’r Gorchymyn, ac felly bod y risg honno wedi’i dileu.

·         Mai unig bwrpas yr un seren wrth ochr y cyfeiriad at Adolygiad Porth 2 AAP ar gyfer y Prosiect yr Ychydig % Olaf oedd i egluro ystyr AAP, ond nad oedd yr esboniad hwnnw wedi’i gynnwys yn y ddogfen chwaith.

·         Y byddai’r sêr hyn yn cael eu hychwanegu i’r fersiwn derfynol o’r Datganiad.

 

Nodwyd nad oedd yna unrhyw sêr gyferbyn â’r prosiectau yn y fersiwn Gymraeg o’r Datganiad, ac eglurwyd y byddai’r tîm yn diwygio’r fersiwn honno yn ogystal, ac yn sicrhau cysondeb rhwng y ddwy iaith.