Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Askar Sheibani (Bwrdd Cyflawni Busnes);

·         Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo;

·         Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo;

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Dr Maria Hinfelaar fuddiant personol yn eitem 6 gan fod Prifysgol Wrecsam yn noddwr y Prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem yn ei chyfanrwydd.

 

Er hynny, nododd Dr Maria Hinfelaar yr hoffai gael eglurhad ar ddau fater penodol ar ryw bwynt, sef:-

 

·         Strwythur yr Achosion Cyfiawnhad Busnes pellach sydd i ddilyn.

·         Y proffil gwariant, h.y. faint o arian sy’n cael ei ddyrannu ar y cychwyn a faint sy’n ddibynnol ar yr Achosion Cyfiawnhad Busnes hyn?

 

Nododd y Cadeirydd y byddai’r esboniad yn cael ei roi dan eitem 6 ac y byddai Dr Maria Hinfelaar yn derbyn esboniad ar wahân gan y swyddogion yn dilyn y cyfarfod.

 

Datganodd Graham Boase fuddiant personol yn eitem 6 oherwydd ei fod yn Gyfarwyddwr Glyndŵr Innovations Ltd. sy’n eistedd o dan Brifysgol Wrecsam.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem yn ei chyfanrwydd.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 157 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

6.

ACHOS BUSNES LLAWN Y PROSIECT CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER

Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig).

 

Penderfyniad:

 

1.         Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad.

2.         Bod y Bwrdd yn nodi y bydd camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.

3.         Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.

 

PENDERFYNWYD

 

1.       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad.

2.       Bod y Bwrdd yn nodi y bydd camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.

3.       Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol y Prosiect Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter.

 

Cymeradwyodd y Bwrdd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect ar 29 Ebrill 2022 ynghyd â chais am newid yn ymwneud â gostyngiad mewn arian cyfatebol ar gyfer y prosiect.  Wedi hynny derbyniodd y prosiect gymeradwyaeth y broses sicrwydd gan Lywodraeth Cymru.  Galluogodd hyn i Brifysgol Wrecsam fwrw ymlaen â'r wedd caffael a datblygu Achos Busnes Llawn.

 

Mae Prifysgol Wrecsam bellach wedi cwblhau'r caffael ar gyfer gwedd 1 y prosiect a bellach yn cyflwyno Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd am benderfyniad buddsoddi terfynol.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr eitem.