skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21 Mehefin, 2019.

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21 Mehefin, 2019.

 

Nodwyd gan y Cadeirydd mai hwn, o bosib’, fyddai’r cyfarfod diwethaf o’r Bwrdd i Sasha Davies ei fynychu yn ei rôl bresennol.  Dymunwyd yn dda iddi yn ei swydd newydd a diolchwyd iddi am ei holl waith.

 

Nodwyd gan y Cadeirydd fod Prifysgol Bangor wedi penodi Dr Iwan Davies o Brifysgol Abertawe yn Is-ganghellor parhaol o 1 Medi, ac mai ef fyddai ymgynghorydd y Brifysgol ar y Bwrdd o hynny allan.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21 Mehefin, 2019.

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Wrecsam) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21 Mehefin, 2019.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

David Jones (Coleg Cambria).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Gadawodd y Cyfarwyddwr Arweiniol, yr Uwch Swyddog Gweithredol a’r Swyddog Cefnogi Aelodau y cyfarfod ar gyfer eitem 15 oherwydd buddiant.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 82 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2019 fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS AC AR GYNNYDD PROSIECTAU pdf eicon PDF 172 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a nodi’r diweddariadau ar gynnydd prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a nodi’r diweddariadau ar gynnydd prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith.

Diweddaru ar gynnydd prosiectau unigol.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd, oherwydd yr angen i neilltuo cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 21 Mehefin ar gyfer cyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, y cynhelid cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd ar 28 Mehefin i drafod materion eraill o bwys sy’n rhan o’r rhaglen waith.

 

Nodwyd, yn sgil cyflwyno’r achosion busnes amlinellol ar gyfer y prosiectau unigol, y cafwyd adborth cychwynnol positif gan y ddwy lywodraeth ac na ragwelid unrhyw rwystrau ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriwyd at gyfarfodydd penodol gydag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Kevin Foster, yr Is-weinidog, a nodwyd bod y cyfarfodydd hynny wedi bod yn adeiladol ac yn bositif, gyda’r dyhead i gyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn mis Gorffennaf wedi’i amlygu’n gryf.  Nodwyd bod y berthynas gyda gweision sifil y ddwy lywodraeth yn gryf iawn hefyd, gyda chydweithio agos yn digwydd ar lefel swyddogion.

 

Nodwyd y cynhelid cyfarfod gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos ganlynol.  Yn y cyfarfod hwnnw, byddai’r Cadeirydd yn cyfleu’r dymuniad i’r ddeialog wleidyddol fod yn un fwy cyson er sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd ar goll yn y trafodaethau.

 

Rhoddwyd sicrwydd y byddai Penawdau’r Telerau yn ymgorffori’r 14 prosiect yn y Cynllun Twf.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad blaenorol y Bwrdd i gyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion adrodd a chraffu'r cyrff unigol, a gofynnwyd am gynnwys cyfeiriad at hynny yn y categori ‘Llywodraethu’ o’r rhaglen waith.

 

Nodwyd bod angen cynnwys bloc ychwanegol yn y tabl ynglŷn â GA2, yn nodi’r amserlennu o ran y sefydliadau, ayb.  Mewn ymateb, eglurwyd bod hynny wedi’i gynnwys o dan y categori ‘Cyfreithiol a Chaffael’, ond efallai bod angen amlygu’r risgiau yn gliriach.  Nodwyd hefyd bod GA2 yn rhan o’r cytundeb ehangach, a’i fod, felly, i lawr ar y cynllun.

 

Gan gyfeirio at y Prosiect Morlais, awgrymwyd bod angen nodi yn y golofn ‘sylwadau eraill’ bod y rhanbarth yn colli’r £21m a gadarnhawyd o Ewrop gan fod yr arian hwnnw yn gorfod cael ei ddychwelyd.  Mewn ymateb, eglurwyd y byddai cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn Gorffennaf yn rhoi digon o sicrwydd i Ewrop bod modd tynnu’r arian i lawr er mwyn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.

 

Nodwyd bod y llywodraethau wedi gofyn am achos busnes mwy manwl mewn perthynas â’r £40m ychwanegol a geisiwyd, ac y bwriedid cyflwyno’r wybodaeth honno iddynt erbyn diwedd yr wythnos ganlynol.

 

Eglurwyd bod y ddwy lywodraeth yn gweithio ar Benawdau’r Telerau ar hyn o bryd ac y gobeithid y byddai drafft o’r ddogfen ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf fel y gellid ei chylchredeg i aelodau’r Bwrdd a’i thrafod yn y cyfarfod nesaf.

 

Pwysleisiwyd bod rhaid cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn cychwyn gwyliau’r haf.  Mewn ymateb, nodwyd mai dyma’r neges sydd wedi, ac sy’n dal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGLEN WAITH CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 pdf eicon PDF 169 KB

Adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer paratoi a chwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, gan ofyn i’r Swyddog Monitro gyplysu’r gweithredoedd yn hanner isaf yr amserlen arfaethedig i gamau perthnasol yn y rhaglen waith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer paratoi a chwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, gan ofyn i’r Swyddog Monitro gyplysu’r gweithredoedd yn hanner isaf yr amserlen arfaethedig i gamau perthnasol yn y rhaglen waith.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r Partneriaid wedi cytuno y byddai trefn lywodraethu a phartneriaeth gefnogol y Cais Twf a’r Weledigaeth yn cael eu datblygu mewn dau gam cychwynnol.  Mae’r Partneriaid wedi cwblhau Cytundeb Llywodraethu 1 (“GA1”) a wnaed er mwyn symud y prosiect ymlaen i gynnig ariannu ffurfiol.  Y bwriad oedd cytuno ar Gytundeb Llywodraethu 2 (“GA2”) dilynol er mwyn symud y bartneriaeth ymlaen i’r cyfnod gweithredu.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd bod sefydlu dyddiadau cyflawni ar gyfer elfennau o’r gwaith yn hanner isaf yr amserlen yn ddarostyngedig i allbynnau Rhaglen Waith y Prosiect Twf.  Awgrymwyd y dylid ceisio pennu dyddiadau targed ar gyfer y gweithredoedd yn hanner isaf yr amserlen arfaethedig fel bod yna rywbeth penodol i anelu tuag ato.

 

9.

BWRDD CYFLAWNI BUSNES pdf eicon PDF 179 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd Cyflawni Busnes, yn ddarostyngedig i addasu paragraff 2.1, Rôl a Chylch Gwaith, drwy gyfuno geiriad paragraff 2.2 yn y trydydd pwynt bwled.

2.    Cymeradwyo’r broses recriwtio ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes fel yr amlinellir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i ymgymryd â’r broses recriwtio.

3.    Cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer dewis a recriwtio Aelodau’r Bwrdd fel yr amlinellir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i ymgymryd â’r broses recriwtio unwaith y bydd y Cadeirydd wedi’i benodi.

4.    Cadarnhau’r defnydd o hyd at £20,000 y flwyddyn o gyllideb ‘Datblygu a Chefnogi Prosiectau’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gefnogi’r Bwrdd Cyflawni Busnes.

5.    Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i sefydlu'r pecyn cydnabyddiaeth ar gyfer y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

  1. Cymeradwyo rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd Cyflawni Busnes yn ddarostyngedig i addasu paragraff 2.1, Rôl a Chylch Gwaith drwy gyfuno geiriad paragraff 2.2 yn y trydydd pwynt bwled.
  2. Cymeradwyo’r broses recriwtio ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes fel yr amlinellir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i ymgymryd â’r broses recriwtio.
  3. Cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer dewis a recriwtio Aelodau’r Bwrdd fel yr amlinellir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i ymgymryd â’r broses recriwtio unwaith y bydd y Cadeirydd wedi’i benodi.
  4. Cadarnhau’r defnydd o hyd at £20,000 y flwyddyn o gyllideb ‘Datblygu a Chefnogi Prosiectau’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gefnogi’r Bwrdd Cyflawni Busnes.
  5. Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i sefydlu'r pecyn cydnabyddiaeth ar gyfer y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn unol â’r adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn ffurfioli’r trefniadau a sefydlu’r Bwrdd Cyflawni Busnes yn gadarn fel rhan allweddol o’r fframwaith llywodraethu i gyflawni’r Weledigaeth Twf ar gyfer Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Nododd Sasha Davies ei bod yn llwyr gytuno gyda rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd Cyflawni Busnes a’i bod ar gael i gynorthwyo gyda’r broses er sicrhau cysondeb.

 

Nodwyd y sylwadau a ganlyn yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Pwysigrwydd dilyn proses gadarn o ran penodi Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.

·         Pwysigrwydd cadw’r ffocws er mwyn cael y maen i’r wal.

·         Bod angen cryfhau geiriad paragraff 2.1 er mwyn pwysleisio bod rôl bwysig gan y Bwrdd Cyflawni Busnes i dynnu arian i lawr gan y sector breifat.

·         Ei bod yn bwysig bod aelodaeth y Bwrdd Cyflawni Busnes yn adlewyrchu, ac yn cynrychioli, holl ardal ddaearyddol y Gogledd, ei sectorau a’i chymunedau busnes.

·         Bod angen i’r Bwrdd Cyflawni Busnes ddeall beth yw mewnbwn y grwpiau o gyflogwyr sy’n noddi ac yn cefnogi prosiectau eisoes.

·         Er y cydnabyddir bod y Weledigaeth Twf a’r Cais Twf yn allweddol, mae yna weledigaeth arall ehangach na ddylid ei diystyru, a dylid anfon llythyr at y Gweinidog yn dwyn sylw at hyn, yn ogystal â’r potensial o anfantais economaidd datblygiadau, megis HS2, i Ogledd Cymru.

·         Pwysigrwydd sicrhau bod trawsdoriad o sectorau gwahanol yn rhan o’r Bwrdd Cyflawni Busnes.

 

10.

IS-GRWP TWRISTIAETH pdf eicon PDF 183 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol a Jane Richardson, Cyfarwyddwr Strategol yr Economi a Lle, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

 

1.    Bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cefnogi’r egwyddor bod y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol yn ffurfio perthynas ffurfiol gyda’r Bwrdd.

2.    Bod statws a swyddogaeth y Fforwm yn cael eu datblygu fel rhan o’r adolygiad o’r trefniadau llywodraethu i’w sefydlu yng Nghytundeb Llywodraethu 2.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

  1. Bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cefnogi’r egwyddor bod y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol yn ffurfio perthynas ffurfiol gyda’r Bwrdd.
  2. Bod statws a swyddogaeth y Fforwm yn cael eu datblygu fel rhan o’r adolygiad o’r trefniadau llywodraethu i’w sefydlu yng Nghytundeb Llywodraethu 2.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae dogfennau cynnig a gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn nodi’n glir y dymuniad i ‘ddatblygu a lledaenu enw da’r Gogledd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer y diwydiannau seiliedig ar y tir a thwristiaeth ac yn sefydlu’n hunain yn gadarn fel prif leoliad twristiaeth antur y DU’.  Ar gyfer sectorau a themâu allweddol eraill o fewn y Cynllun Twf, megis digidol, trafnidiaeth a sgiliau, mae’r Bwrdd yn cael ei gefnogi naill ai gan is-bwyllgorau ffurfiol neu is-grwpiau llai ffurfiol.  Gall y grwpiau a’r pwyllgorau hyn ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i’r Bwrdd.  Ar hyn o bryd, mae bwlch yn nhermau darparu’r cyngor arbenigol hwn ar brosiectau a chynlluniau twristiaeth.

 

Er bod bwlch yn nhermau cyswllt twristiaeth uniongyrchol i’r Bwrdd, mae grŵp rhanbarthol yn bodoli er mwyn: cyfuno ac adrodd am anghenion o fewn y sector, blaenoriaethu strategaethau a gweithgareddau rhanbarthol, a darparu safbwynt twristiaeth rhanbarthol i Lywodraeth Cymru.  Y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol yw hwn.  Cynigir, felly, y dylid sefydlu cyswllt rhwng y Fforwm hwn a’r Bwrdd Uchelgais er mwyn cryfhau a thanategu penderfyniadau rhanbarthol a wneir ynghylch buddsoddiadau a datblygiadau twristiaeth o fewn cyd-destun y Weledigaeth Twf economaidd.

 

TRAFODAETH

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau aliniad rhwng materion lleol a materion rhanbarthol.

 

Awgrymwyd bod y cyswllt rhwng y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol a’r Bwrdd Uchelgais yn mynd ymhellach na’r Cynllun Twf.

 

11.

ADRODDIAD ALLDRO 2018-19 A'R FFURFLEN FLYNYDDOL pdf eicon PDF 829 KB

Adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol  (ynghlwm).

 

 

Penderfyniad:

1.    Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19 (Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad).

2.    Nodi ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi Ffurflen Swyddogol (Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19 (Amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol o 15 Mehefin 2019, oedd wedi’i chwblhau a’i hardystio gan y Swyddog Cyllid Statudol (Atodiad 3 i’r adroddiad).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Adran 151.

 

PENDERFYNWYD

  1. Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19 (Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad).
  2. Nodi ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi Ffurflen Swyddogol (Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19 (Amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol o 15 Mehefin 2019, oedd wedi’i chwblhau a’i hardystio gan y Swyddog Cyllid Statudol (Atodiad 3 i’r adroddiad).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I hysbysu’r Cyd-bwyllgor o’u sefyllfa ariannol ar gyfer 2018/19, ac i gydymffurfio â gofynion statudol mewn perthynas â chwblhau’r Ffurflen (Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan Bennaeth a swyddogion Adran Gyllid Cyngor Gwynedd.

 

Llofnodwyd y Ffurflen Swyddogol (Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol gan y Cadeirydd.

 

12.

CYNLLUN CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU pdf eicon PDF 172 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae ymgysylltu cadarn wedi bod yn thema allweddol drwy gydol y broses o ddatblygu Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru a bydd y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn nodi cynllun clir ar gyfer sicrhau bod y weledigaeth honno yn cael ei hyrwyddo’n gyson ac yn gyd-gysylltiedig.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd y bwriedid rhyddhau cylchlythyr chwarterol yn hyrwyddo’r Weledigaeth Twf fyddai ar gael i’r sefydliadau i’w raeadru, gyda’r cyntaf i’w ryddhau ar ddiwedd y chwarter yn ystod mis Mehefin.

 

Nodwyd y sylwadau a ganlyn yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Ei bod yn bwysig sicrhau cysondeb o ran y negeseuon sy’n cael eu lledaenu ynglŷn â’r Weledigaeth Twf.

·         Y byddai’n fanteisiol llunio calendr mwy strwythuredig o weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu.

·         Bod gan Brifysgol Glyndwr nifer o straeon i’r wasg, a bod angen i Martin Williams sy’n gyfrifol am gysylltiadau cyhoeddus y Bwrdd Uchelgais eu rhyddhau.  Cytunwyd i Martin Williams weithio gyda Phrifysgol Glyndwr ar ran y Bwrdd Uchelgais ar hyn.

 

13.

YMCHWILIAD I EFFEITHIOLRWYDD CYNLLUNIAU TWF A BARGEINION DINESIG I GYMRU pdf eicon PDF 164 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r ymateb i “Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cynlluniau Twf a Bargeinion Dinesig i Gymru” gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r ymateb i “Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cynlluniau Twf a Bargeinion Dinesig i Gymru” gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Gan fod y Bwrdd Uchelgais yn gefnogol i’r ymateb sydd wedi’i gyflwyno i’r “Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cynlluniau Twf a Bargeinion Dinesig i Gymru”.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd y byddai yna gyfle i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol i gyflwyno gwybodaeth ar lafar.  Byddai hyn yn gyfle i amlygu’r uchelgais yn y Gogledd a’r hyn y ceisir ei gyflawni.

 

Nodwyd ei bod yn bwysig pwysleisio nad ydym ond megis yn cychwyn ar y siwrne yn y Gogledd.

 

14.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

15.

CYFARWYDDWR RHAGLEN - TYNNU RHESTR FER

Tynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Gosod pedwar ymgeisydd ar restr fer i fynd ymlaen i gyfweliad ar yr 21ain o Fehefin.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Corff Atebol.

 

PENDERFYNWYD gosod pedwar ymgeisydd ar restr fer i fynd ymlaen i gyfweliad ar yr 21ain o Fehefin.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae tynnu rhestr fer o ymgeiswyr yn un o’r cerrig milltir allweddol yn y broses o recriwtio a phenodi unigolyn i’r swydd allweddol hon.  Cytunwyd mewn cyfarfod blaenorol y byddai’r Bwrdd yn defnyddio un o’r cyfarfodydd rhaglenedig i dynnu rhestr fer ar gyfer y swydd.