skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy. LL32 8DU

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), David Jones (Coleg Cambria), Colin Everett (Cyngor Sir y Fflint), Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych) ac Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 60 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 6ed a’r 20fed o Fedi, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 6 a 20 Medi, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS A LLEOLIAD I'R SWYDDFA RHAGLEN pdf eicon PDF 185 KB

Adroddiad gan Jane Richardson – Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Richardson, Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn yr adroddiad ar y Rhaglen Waith yn amodol fod statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru erbyn y cyfarfod nesaf, a gofyn i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol ail-edrych ar ffurf y tabl pan fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen mewn lle.

2.         Cadarnhau y bwriad i ail-hysbysebu swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.

3.         Cymeradwyo’r Cynllun Trosiannol.

4.         Awdurdodi’r Corff Atebol i ymrwymo i brydles ar swyddfa yng Nghanolfan Fusnes Conwy yn unol â’r adroddiad, a chytuno â thelerau eraill yn unol â chyngor Pennaeth Eiddo’r Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith a sicrhau bod cynnwys y tabl yn fwy eglur.

Adrodd ar y Cynllun Trosiannol fel dogfen gefnogol i’r Rhaglen Waith nes bydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn cychwyn y swydd.

Mae’r Bwrdd Uchelgais angen adnabod gofod swyddfa addas ar gyfer y Swyddfa Rhaglen.

 

TRAFODAETH

 

Ymhellach i baratoi’r adroddiad, nododd Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol fod Llywodraethau Prydain a Chymru bellach yn fodlon gyda Phenawdau’r Telerau a’u bod yn aros am gadarnhad o amgylch y trefniadau ar gyfer arwyddo Penawdau’r Telerau yn ffurfiol.  Roedd datganiad i’r wasg wedi ei ddrafftio ac roedd datganiad mewnol yn cael ei baratoi hefyd. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nododd Arweinydd Cyngor Sir Fflint na dderbyniodd wahoddiad i gyfarfod cyntaf yr is-grŵp Trafnidiaeth.

·         Nododd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd na dderbyniwyd pŵl digonol o ymgeiswyr ar gyfer swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.  Argymhellwyd ail-hysbysebu’r swydd, gan hysbysu’r sawl sydd wedi ymgeisio eisoes y bydd eu cais yn dal i gael ei ystyried.  Cytunwyd i ail-edrych ar yr hysbyseb a’r wybodaeth ynglŷn â’r rôl i sicrhau eu bod yn taro’r nodyn cywir.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd penodi person sy’n arweinydd ac yn adnabyddus yn yr ardal ac yn rhanbarthol ac awgrymwyd cynnal trafodaeth Chadeirydd y Bwrdd Cysgodol i weld sut mae denu ymgeiswyr.  Anogwyd y gymuned fusnes i hyrwyddo’r cyfle hwn hefyd. 

·         Nodwyd bod y swyddogion yn anelu at gyflwyno’r Cynllun Busnes am arian ESF i WEFO erbyn 31 Hydref, ond holwyd beth fyddai’n digwydd i’r arian petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y dyddiad hwnnw.  Gofynnwyd i Gadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol drafod hyn gyda’i chyd-swyddog yng Nghyngor Conwy sy’n arbenigo ar faterion Brexit.

·         Mynegwyd pryder nad oedd y sector breifat yn deall yr amserlen, ac er eu bod yn barod i gychwyn ar eu cynlluniau, nid oedd modd iddynt ddatblygu’r modelau busnes pum achos ar gyfer prosiectau’r Cynllun Twf hyd oni fo Penawdau’r Telerau wedi eu harwyddo’n ffurfiol.  Nodwyd bod yr oedi wedi’i greu gan y ddwy Lywodraeth a bod Cynllun Twf y Gogledd wedi wynebu mwy o rwystrau na chynlluniau tebyg mewn rhanbarthau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB REFENIW 2019-20 - ADRODDIAD AIL CHWARTER (MEDI 2019) pdf eicon PDF 528 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Derbyn Adolygiad Ail Chwarter o gyllideb y Cyd-bwyllgor (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru) ar gyfer 2019/20.

2.         Derbyn cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i’r trosglwyddiadau cyllideb a amlinellir yng ngholofn olaf Atodiad 1.

3.         Nodi a derbyn y sefyllfa bresennol ar Gyllideb 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn Adolygiad Ail Chwarter o gyllideb y Cyd-bwyllgor (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru) ar gyfer 2019/20.

2.         Derbyn cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i’r trosglwyddiadau cyllideb a amlinellir yng ngholofn olaf Atodiad 1.

3.         Nodi a derbyn y sefyllfa bresennol ar Gyllideb 2020/21.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Rhagamcanir llai o wariant ar gynllunio prosiectau (llai o waith wedi’i gymisiynu yn allanol a llai o gost cyflogi staff) na’r amcangyfrifon gwreiddiol, ond ymddengys bellach na fydd modd cyfalafu cyflogau yn 2019/20.  Mae gwarant net canlynol y Bwrdd Uchelgais yn fforddiadwy o fewn cyfraniadau cyfredol y partneriaid, ond mae’n ddibynnol ar dderbyn arian grant ESF gan WEFO.

 

7.

CEFNOGAETH FUSNES RANBARTHOL pdf eicon PDF 245 KB

Adroddiad gan Jane Richardson, Cyfarwyddwr Strategol yr Economi a Lle, CBS Conwy a Janet Owen Jones, Pennaeth Datblygu a Chyflawni Strategol (Busnes) LlC.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn bod y gwaith paratoi yn parhau fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, ond yn y cyfamser, anfon neges at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ddatgan nad yw’r model a gynigir yn ateb gofynion y sector breifat yng Ngogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniad Powerpoint, gan Jane Richardson, Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD derbyn bod y gwaith paratoi yn parhau fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, ond yn y cyfamser, anfon neges at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ddatgan nad yw’r model a gynigir yn ateb gofynion y sector breifat yng Ngogledd Cymru.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r gymuned fusnes yn dymuno gweld un corff cyflawni ar gyfer Gogledd Cymru ac nid yw’r model a gynigir yn cyd-fynd â dyheadau busnesau’r rhanbarth.

 

TRAFODAETH

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu gyda’r sector breifat a pheidio ag ail-adrodd camgymeriadau’r gorffennol.

·         Mynegwyd pryder gan sawl aelod nad oedd y model a gynigid yn cyd-fynd â dyheadau busnesau’r rhanbarth, oedd yn dymuno gweld un corff cyflawni ar gyfer Gogledd Cymru.  Nodwyd bod angen bod yn llawer mwy anturus ac uchelgeisiol a buddsoddi mewn model mwy addas.  Roedd yn ymddangos nad oedd gan y Gweinidog archwaeth am hynny, ond pwysleisiwyd y dylid ei herio ar hyn.  Cytunwyd i anfon neges at y Gweinidog yn datgan nad yw’r model a gynigir yn ateb gofynion y sector breifat yng Ngogledd Cymru.  Yn y cyfamser, derbyniwyd y dylai’r gwaith paratoi a amlinellwyd yn yr adroddiad barhau i fynd rhagddo.