Lleoliad: Ystafell Madog, Coleg Llandrillo, Ffordd Llandudno, Rhos on Sea LL28 4HZ
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a cyflwynwyd ymddiheuriadau gan Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych), David Jones (Coleg Cambria) Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Is Ganghellor, Yr Athro Graham Upton (Prifysgol Bangor), Dafydd Edwards (Swyddog Adran 151) a Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Gadawodd y Cyfarwyddwr Arweiniol ac yr Uwch
Swyddog Gweithredol y cyfarfod ar gyfer yr eitem frys oherwydd buddiant. |
|
MATERION BRYS Penderfyniad: Ail-hysbysebu’r swydd gyda chyflog wedi osod rhwng £86,000 ac uchafswm o £106,000 yn ddarostyngedig i adrodd ar y cyflog arfaethedig i Gyngor Llawn y Corff Atebol fydd yn lletya’r swydd. Cofnod: Nodwyd fod un mater brys i’w drafod – Penodi
Cyfarwyddwr Rhaglen. Penderfynwyd trafod yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod. |
|
DIWEDDARIAD AR RHAGLEN WAITH PDF 165 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Adolygwyd, diweddarwyd a chymeradwywyd statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor
Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNIAD Adolygwyd, diweddarwyd a chymeradwywyd
statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Mae angen diweddaru cynnydd y tasgau ar y
Rhaglen Waith TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Bwrdd
yn agosáu at Benawdau’r Telerau ar gyfer Cynllun Twf ac y bydd modd eu harwyddo
cyn diwedd Gorffennaf. Mynegwyd fod Sesiwn Herio gyda’r Sector Breifat a
Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru bellach wedi ei
gynnal a oedd wedi bod yn gadarnhaol gydag adborth positif. Tynnwyd sylw ar £7miliwn sydd wedi ei
gymeradwyo gan yr Adran Ddigidol,
Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth fel rhan o’r Rhaglen Rhwydwaith
Ffibr Llawn Leol. Ychwanegwyd fod y swydd Rheolwr Rhaglen Ddigidol wedi ei
hysbysebu. Mynegwyd fod llythyr diweddariad wedi ei anfon
at Ken Skates AC , Alun Cairns AS a Kevin Foster AS yn dilyn y cyfarfod
diwethaf, ac y bydd gohebiaeth debyg yn cael eu hanfon yn dilyn bob cyfarfod y
Bwrdd Uchelgais. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Trafodwyd y cyfarfodydd
herio gan nodi fod y sesiwn gyda’r Sector breifat yn gadarnhaol gydag
awgrymiadau adeiladol. ¾ Pwysleisiwyd
pwysigrwydd arwyddo Penawdau’r Termau cyn diwedd Gorffennaf. ¾ Mynegwyd fod angen
pwysleisio a chyfleu fod pawb a rôl i’w chwarae er mwyn sicrhau fod y Cynllun
Twf yn gweithio ac nid yr awdurdodau yn unig. ¾ Mynegwyd pryderon am
rhai o gynlluniau sydd i’w gweld yn yr ail don, gan fod rhai cwmnïau yn barod i
gyfrannu yn ariannol. Mynegwyd fod angen bod yn hyblyg gyda phrosiectau a
manteisio ar gyfleodd pan yn codi. Ychwanegwyd y bydd sesiynau herio ar gyfer y
cynlluniau’r ail don yn cael ei gynnal yn fuan. ¾ Mynegwyd fod angen
amserlen o ran penderfyniadau fydd angen ei wneud gan yr awdurdodau fel bod
modd eu rhaglennu yn eu trefniadau Cabinet a Chynghorau llawn. ¾ Tynnwyd sylw at y
cylchlythyr syml sydd wedi ei greu ond nodwyd fod angen gwybodaeth bellach mwy
manwl yn arbennig ar gyfer Craffu gan nodi'r 14 prosiect arno bob tro gyda
diweddariad ar bob prosiect. |
|
STRWYTHUR Y SWYDDFA RHAGLEN PDF 189 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr
Arweiniol (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo strwythur craidd y Swyddfa Rhaglen fel y nodwyd yn yr adroddiad
a symud at recriwtio ar yr amod nad yw’n ychwanegu ar gyfraniadau ariannol
craidd y Cynghorau a’r Partneriaid. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor
Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNIAD Cymeradwyo
strwythur craidd y Swyddfa Rhaglen fel y nodwyd yn yr adroddiad a symud at
recriwtio ar yr amod nad yw’n ychwanegu ar gyfraniadau ariannol craidd y
Cynghorau a’r Partneriaid. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Er mwyn bwrw ymlaen a datblygu a chyflawni’r
Weledigaeth Twf a’r Cynllun Twf, bydd angen sefydlu Swyddfa Raglen. Bydd y
swyddfa Raglen yn gyfrifol am gefnogi gweithgareddau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a fydd hefyd yn gyfrifol
am fwrw ymlaen ag elfennau allweddol o Gynllun Twf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod
egwyddor y Swyddfa Raglen wedi ei dderbyn gan y Cydbwyllgor ond fod angen symud
ymlaen. Ychwanegwyd fod amrywiol ffynonellau yn ariannu'r Swyddfa Raglen ond y
bydd angen anelu i fod yn hunan arianol mewn pum mlynedd. Mynegwyd fod angen
datblygu'r swyddfa raglen er mwyn bwrw ymlaen a datblygu a chyflawni’r
Weledigaeth Twf. Ymhelaethwyd at y ffrydiau ariannol a fydd
yn cael ei defnyddio ar gyfer ran-ariannu costau’r swyddfa raglen yn benodol
cais am arian ESF yn ogystal a elfen o gyfalafu prosiectau ar raddfa o tua
0.75% - 1%. Ychwanegwyd y bydd lefel isel y cyfalafu yn sicrhau y bydd arian
craidd y cynllun twf yn cael ei ddefnyddio yn benodol ar brosiectau. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Gan fod
llawer o brosiectau’r ffrwd gyntaf yn barod fod angen symud ymlaen i ddechrau
recriwtio. ¾ Tynnwyd sylw
at y ffaith nad oes elfen gweinyddiaeth wedi ei nodi yn strwythur staffio. ¾ Trafodwyd
ariannu’r swyddfa raglen gan nodi eu bod yn hapus i gyfalafu prosiectau ar
raddfa o tua 0.75% - 1% ar gyfer costau staffio. Mynegwyd eu bod yn cytuno i
symud ymlaen ond ar yr amod na fydd angen i Gynghorau na Phartneriaid wneud
cyfraniad ariannol pellach. |
|
Adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro (ynghlwm). Penderfyniad: Cadarnhawyd y pennir strwythur staffio’r Swyddfa Raglen yn ystod cyfnod
Cytundeb Llywodraethu 1 (“GA1”) gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cytunwyd i ddirprwyo’r cyfrifoldeb i benodi swyddi ar y strwythur staffio
cymeradwy dan lefel y Cyfarwyddwr Rhaglen i’r Cyfarwyddwr Rhaglen ac o fewn y
cyfnod interim, Prif Weithredwr Y Corff Atebol
yn unol â’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans,
Swyddog Monitro - Corff Atebol. PENDERFYNIAD Cadarnhawyd y pennir strwythur staffio’r Swyddfa Raglen
yn ystod cyfnod Cytundeb Llywodraethu 1 (“GA1”) gan Fwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru. Cytunwyd i ddirprwyo’r cyfrifoldeb i benodi swyddi ar y
strwythur staffio cymeradwy dan lefel y Cyfarwyddwr Rhaglen i’r Cyfarwyddwr
Rhaglen ac o fewn y cyfnod interim, Prif Weithredwr Y Corff Atebol yn unol â’r adroddiad. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Dan GA1 mae gan y Bwrdd Uchelgais rym i
ddirprwyo ei swyddogaethau i Is-bwyllgorau a/neu Swyddogion. Un o elfennau
allweddol y prosiect yw sefydlu a rheoli Swyddfa Raglen. Er bydd y staff yn
gyflogeion i’r Corff Atebol yn gyfreithiol, maent gyfystyr ag adnodd
rhanbarthol i’r Bwrdd Uchelgais a chant eu sefydlu a’u hariannu drwy gyllideb y
Cydbwyllgor. Felly, mae ar y Bwrdd Uchelgais angen gosod egwyddorion clir yng
nghyswllt y trefniadau hyn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r
penderfyniad gan nodi fod angen dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen benodi
staff. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd mai mater gweithredol yw’r penderfyniad
hwn gan mai penderfyniad ar pwy sydd yn pendoi swyddi yw’r penderfyniad ac nid
strwythur staffio. Ychwanegwyd y bydd y swyddi yn cael ei pendoi drwy’r Corff
Atebol. |
|
DIWEDDARIAD TRAFNIDIAETH A CHYNNYDD GYDA SEFYDLU IS-GRWP TRAFNIDIAETH PDF 210 KB Adroddiad gan Iwan Prys Jones – Rheolwr Rhaglen (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd
David Bithell. PENDERFYNWYD 1. Nodi’r
adroddiad a’r cynnydd sydd wedi’i wneud i sefydlu’r Is-fwrdd Cyflawni
Trafnidiaeth 2. Cadarnhau
derbyn y gefnogaeth gyllid a gynigir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodi
llofnodi’r llythyr cynnig grant gan yr Awdurdod Lletya. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Mae’r Bwrdd Uchelgais wedi penderfynu
sefydlu Is Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth ac adroddwyd ar y cynnydd ar weithredu’r
penderfyniad ynghyd a gwaith y Grŵp Trafnidiaeth bresennol wrth drosi i’r strwythur ffurfiol. Adroddwyd ar y materion mwyaf brys yng nghyswllt
y rhwydwaith bysiau rhanbarthol a’r dilyniant i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn
ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus. Ymateb i gynnig o grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
gwaith ymchwil ynglŷn â datblygu cynigion y Papur Gwyn ar Wella
Trafnidiaeth Gyhoeddus. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adoddiad gan dderbyn cefndir y
Is-Grŵp Trafnidiaeth gan nodi pan ddiddymwyd Consortia Trafnidaieth
Rhanbarthol yn 2014, fod yr aelodau Cabinet wedi parahu i gyfarfod yn
anffurfiol. Ychwanegwyd eu bod bellach yn awyddus i drefniadau llywodraethu
ffufiol i gyfarod nesaf y grŵp. Amlinellwyd gwaith diweddariad yr
Is-grŵp gan bwysleisio Rhwydwaith Bysus rhanbarthol, datgarboneiddio
trafnidiaeth a phrosiectau peilot ynghyd a gweithredu parthau 20 milltir yr
awr. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Pwysleisiwyd fod y
cyd-weithio sydd i’w weld yn gadarnhaol. ¾ Holwyd am eglurdeb o
ran cynlluniau’r Weledigaeth Twf gan
fod rhai o’r cynlluniau yn rhai y dylid cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru ac
Awdurdodau Lleol. Mynegwyd fod llawer o ddatblygiadau mawr a bach yn cael ei wneud
er mwyn gweld intergreddio ar draws y rhanbarth fel datblygu Strategaeth
Trafnidiaeth Gyhoeddus. ¾ Trafodwyd rhai o’r
cynlluniau gan bwysleisio fod trafnidiaeth yn rhan ganolog o ddatblygu’r
economi |
|
RHAGLEN SGILIAU A CHYFLOGAETH, GWELDIGAETH GOGLEDD CYMRU PDF 275 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones – Cyfarwyddwr
Arweiniol a Sioned Williams – Is Gadeirydd Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (ynghlwm). Penderfyniad: Gohirio'r penderfyniad i ariannu un swydd gyfwerth a llawn amser (£50,000 am
12 mis) a fuasai’n gweithio ar brosiectau Porth Gwybodaeth a Chyngor a Llwybrau
Cyflogadwyedd i gael cyfle i ystyried y prosiectau yn wyneb y Strategaeth
Sgiliau fydd yn dod ger bron y Bwrdd yn fuan,
ymchwilio a chael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Prydain am y
maes. Gohirio cadarnhau'r dull cydlynu’r rhaglen sgiliau a chyflogadwyedd, gan
ofyn am wybodaeth bellach ac eglurdeb pellach ar y rhaglen Sgiliau a
Chyflogaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor
Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD Gohirio'r
penderfyniad i ariannu un swydd gyfwerth a llawn amser (£50,000 am 12 mis) a
fuasai’n gweithio ar brosiectau Porth Gwybodaeth a Chyngor a Llwybrau
Cyflogadwyedd i gael cyfle i ystyried y prosiectau yn wyneb y Strategaeth
Sgiliau fydd yn dod ger bron y Bwrdd yn fuan,
ymchwilio a chael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Prydain am y
maes. Gohirio
cadarnhau'r dull cydlynu’r rhaglen sgiliau a chyflogadwyedd, gan ofyn am
wybodaeth bellach ac eglurdeb pellach ar y rhaglen Sgiliau a Chyflogaeth. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Gofynnodd y
Cydbwyllgor am fwy o wybodaeth ac eglurdeb
ar y rhaglen Sgiliau a Chyflogaeth cyn gwneud wneud penderfyniad ar y
mater. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r 5
prosiect allweddol, gan nodi fod rhaglen waith glir i symud ymlaen a’r
cynlluniau. Ychwanegwyd y bydd y rhaglen yn bwrw ymlaen a’r prosiectau Porth
Gwyboaeth a Chyngor a Llwybr Cyflogadwyedd, ond bod angen adnodd ychwanegol i
alluogi’r gwaith symud ymlaen. Nodwyd fod gwaith sylweddol wedi ei wneud sydd
yn dangos ymarfer da yn y maesydd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Codwyd
pryderon am yr angen i gael adnodd i symud ymlaen y ddau brosiect: Porth
Gwybodaeth a Chyngor; a’r Llwybr Cyflogadwyedd. Ychwanegwyd fod pryderon y
byddai’n dyblygu gwaith gyda Llywodraeth Cymru. ¾ Mynegwyd ei
bod yn gyn amserol i wneud y penderfyniad a bod angen mwy eglurdeb ar y 2
brosiect, ynghyd a chynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ei rôl o fewn
y prosiectau ynghyd a’r berthynas rhwng y Bwrdd Uchelgais a’r Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol. |
|
SEFYDLU IS-GRWP YNNI A DIWEDDARIAD AR GYNLLUNIO YNNI RHANBARTHOL PDF 187 KB Adroddiad gan Rhys Horan – Arweinydd Strategol
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (ynglwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Sefydlu Is-grŵp Ynni gyda’r Rôl a Chylch Gorchwyl yn Atodiad 1yr adroddiad. 2.Penodi
Cyng. Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn fel aelod o’r Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru a fydd yn gweithredu fel aelod cyswllt ar gyfer yr
Is-grŵp Ynni. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rhys Horan,
Arweinydd Strategol – Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD 1. Sefydlu Is-grŵp Ynni gyda’r Rôl a Chylch Gorchwyl yn Atodiad 1 yr adroddiad. 2. Penodi Cyng. Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn fel aelod o’r
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fydd yn gweithredu fel aelod cyswllt
ar gyfer yr Is-grŵp Ynni. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Er mwyn gwella’r gwaith o gydlynu prosiectau
sy’n ymwneud ag ynni o fewn y rhanbarth a chyflawni’r targed ynni carbon Isel
sydd wedi’i adnabod yn y Cynllun Twf. Bod statws Is-grŵp yn cael ei ddatblygu
fel rhan o’r adolygiad o’r trefniadau llywodraethu i’w sefydlu yng Nghytundeb
Llywodraethu 2. TRAFODAETH Nodwyd fod datganiadau diweddar yn nodi fod
argyfwng hinsawdd gan bwysleisio fod angen i Ogledd Cymru fod ar flaen y gad o
ran ynni. Ychwanegwyd fod angen gweithio ar gynllunio ynni rhanbarthol a
datblygu’r weledigaeth ac i’r Bwrdd Uchelgais i berchnogi’r cynlluniau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Pwysleisiwyd
sut mae’r Is-grŵp yn ffitio i mewn i fframwaith y Bwrdd Uchelgais gan nodi
y byddai’n Fwrdd Ymgynghorol. ¾ Trafodwyd
aelodaeth y bwrdd yn benodol Cyfoeth Naturiol Cymru gan nodi o bosib y buasai’n
her gan eu bod yn rheoleiddwyr. ¾ Pwysleisiwyd
fod angen sicrhau budd lleol gydag unrhyw ynni carbon isel. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD Cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.
O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN Cofnod: PENDERFYNIAD Ail-hysbysebu’r swydd gyda chyflog wedi osod rhwng £86,000 ac uchafswm o £106,000 yn
ddarostyngedig i adrodd ar y cyflog arfaethedig
i Gyngor Llawn y Corff Atebol
fydd yn lletya’r swydd. RHESWMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Nododd aelodau
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn dilyn methu penodi Cyfarwyddwr
Raglen, mae angen ail-hysbysebu er gwneud penodiad allweddol o benodi
Cyfarwyddwr Rhaglen mor fuan a bod modd, gan sicrhau fod y broses recriwtio a’r
trefniadau yn rhai effeithiol a gwydn. Er cyfarch yr
arweiniad statudol “Atebolrwydd Tal o fewn Lywodraeth Leol yng Nghymru –
Arweiniad dan Adran 40 Deddf Lleoliaeth 2011. TRAFODAETH Adroddwyd ar y sefyllfa yn dilyn cyfweliadau diweddar nad oedd penodiad i’r swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, ac o ganlyniad fod angen
penderfynu ar y ffordd ymlaen. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod angen
hysbysebu mor fuan â phosib er mwyn sicyrhau cyn-lleied o gyfnod heb
Gyfarwyddwr Rhaglen ac sydd yn bosib. ¾ Penderfynwyd ar yr
uchafswm cyflog gan nodi y buasai’r Bwrdd yn derbyn secondiad i’r swydd yn ogystal
er mwyn annog diddordeb. |