Lleoliad: Suite 4, Conwy Business Centre, Llandudno Junction, Conwy LL31 9XX
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Nodwyd
ymddiheuriadau gan Cyng. David Bithell. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 90 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 23 Medi 2019 fel rhai
cywir (ynghlwm). Cofnod: Derbyniwyd y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 23 Medi 2019 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL PDF 88 KB Emlyn Jones i ddiweddaru aelodau ar y sefyllfa bresennol o ran
Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSVAR) ac adnewyddu
teithio rhatach am ddim. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd ar ôl ystyried y
sefyllfa bresennol i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ac i Adran Drafnidiaeth
Llywodraeth Prydain ar ran yr Is-Fwrdd i nodi'r problemau y gall godi o
ganlyniad i’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Peter Daniels. PENDERFYNIAD Penderfynwyd
ar ôl ystyried y sefyllfa bresennol i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ac i Adran
Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain ar ran yr Is Fwrdd i nodi'r problemau y gall
godi o ganlyniad i’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod dau brif agwedd i’w drafod. Trafodwyr
Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus gan nodi fod llythyr wedi
ei dderbyn gan awdurdodau lleol yn ddiweddar yn egluro’r broses o wneud cais am
estyniad i’r broses o ddwy flynedd os yn cyrraedd meini prawf penodol. Nodwyd
mai mynediad ar gyfer y bobl anabl yw’r prif reswm dros yr eithriad. Tynnwyd
sylw at bryder fod yr eithriad ond yn
berthnasol os na werthir mwy nag 20% o’r seddi ar fysiau. Mynegwyd fod angen
lobi Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r canran hwn. Nodwyd fod pryderon yn
codi am y cyfnod saib a'r buddsoddiad fydd ei angen ei wneud i sicrhau bysus
sydd yn cyrraedd y safon a holwyd beth fydd goblygiadau hyn ar fusnesau. O ran yr
ail agwedd, Adnewyddu Tocynnau Teithio Mantais am ddim, nodwyd fod niferoedd yn
parhau yn isel ar draws Cymru. Mynegwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn codi
ymwybyddiaeth o’r mater ac efallai y bydd yn codi’r niferoedd. Ychwanegwyd y
bydd Ionawr yn fis ble fydd modd defnyddio’r ddau docyn ond y bydd o ganlyniad
yn golygu llawer o waith i’r cwmnïau bysus. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd er ei fod yn
bositif y bydd estyniad yn cael ei roi am ddwy flynedd y buasai yn well pe bai
rheoliadau yn dod i rym i ysgolion ar ddechrau blwyddyn ysgol yn hytrach ‘na
fis Ionawr. ¾ Nodwyd y buasai’r
rheoliadau bysus yn gorfodi cwmnïau i dynnu allan o gytundebau gan fod eu model
busnes wedi ei seilio ar y cytundebau yma. ¾ O ran rheoliadau
cerbydau i ysgolion mynegwyd fod pob awdurdod yn wahanol oherwydd yn rhai
awdurdodau megis Wrecsam fod yr ysgolion yn cytundebu yn uniongyrchol a
chwmnïau. Pwysleisiwyd fod angen bod yn ymwybodol o'r effaith ar ysgolion a
tynnwyd sylw yn benodol at fysiau i weithgareddau megis gwersi nofio. ¾ O ran adnewyddu
tocynnau teithio mantais am ddim nodwyd fod angen sicrhau fod y rhai sydd yn
defnyddio’r tocynnau fod yn ymwybodol o’r newidiadau. |
|
Huw Percy a
Stephen Jones i ddiweddaru’r Is-Fwrdd ar ddatblygiadau. Penderfyniad: Penderfynwyd fod
angen i’r Is-Fwrdd fynd ag adroddiad i drafod yr effaith economaidd ar
gyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer ardaloedd i’r Bwrdd Uchelgais. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Huw Percy PENDERFYNIAD Penderfynwyd fod angen i’r Is-Fwrdd fynd ag
adroddiad i drafod yr effaith economaidd ar gyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr
awr ar gyfer ardaloedd i’r Bwrdd Uchelgais. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod cyhoeddiad wedi ei wneud gan y Prif Weinidog y dylai Llywodraeth
Cymru geisio mabwysiadu 20mya fel cyfyngiad cyflymder rhagosoded ar gyfer
ardaloedd preswyl ledled Cymru. Esboniwyd mai annog newid y dull o deithio yw’r
rheswm dros y newidiadau arfaethedig. Mynegwyd fod Grŵp Tasg a Gorffen
wedi ei sefydlu o rhan ddeiliaid ac y bydd swyddogion o Sir Fflint a Môn yn
mynychu o’r Gogledd. Mynegwyd
fod y Grŵp wedi ei rannu yn bedwar Grŵp Prosiect er mwyn edrych ar
bedwar prif ffrwd gwaith. Nodwyd o ran gorfodaeth ar hyn o bryd fod hunan
orfodaeth yn cael ei amlygu gan nad oes gan yr Heddlu adnoddau ar ei gyfer.
Ychwanegwyd y bydd trafodaeth ag awdurdodau i drafod hawliau gorfodaeth.
Tynnwyd sylw at yr amserlen gan nodi y gobeithir y bydd deddfwriaeth cyn Hydref
2020 gyda’r nod o gychwyn gweithredu’r cynllun yn 2023. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd y bydd
oblygiadau ariannol o fod yn rhan o’r cynllun hwn. ¾ Mynegwyd nad oes
ystadegau yn rhan o’r adroddiad gan y Llywodraeth o ble mae goryrru yn broblem,
gan ychwanegu y buasai pobl o bosib yn fwy parod i ymateb os yn ymateb i
ffigyrau cadarn. Pwysleisiwyd mai anodd newid dull o deithio oddi wrth geir ac
i gerdded a beicio yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth. ¾ Holwyd os oes
cynlluniau peilot am gael eu cynnal yn rhai siroedd er mwyn mesur yr effaith. ¾ Trafodwyd lonydd
cyswllt gan nodi y gallai fod a phroblemau, ac ychwanegwyd y bydd angen gwybod
ble yn union y bydd eithriadau ac os byddant yn gyson ar draws y wlad. ¾ O ran gorfodaeth holwyd
pwy fydd yn gwneud hyn gan y bydd oblygiadau ariannol i’r cynllun i awdurdodau
ac esboniwyd y bydd gwaith penodol yn edrych ar hyn ymhellach. ¾ Tynnwyd sylw at yr
effaith economaidd gan nodi fod angen codi ymwybyddiaeth y Bwrdd Uchelgais. |
|
DIWEDDARIAD PARCIO AR BALMENTYDD PDF 86 KB Huw Percy i
ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau. Penderfyniad: Cefnogwyd fod y
swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y Grŵp Tasg Parcio
Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi ei wneud a bod angen
nodi’r canlynol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Huw Percy. PENDERFYNWYD Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y
Grŵp Tasg Parcio Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi
ei wneud a bod angen nodi’r canlynol: ·
Nad oes
deddfwriaeth flanced ar gyfer pob ardal ·
Fod
angen meddwl am leoliadau penodol ac am lif traffig ·
Cefnogaeth
i waharddiadau parcio yn lleol ond fod angen canllawiau clir ac arian ar gyfer
codi ymwybyddiaeth ac amser staff. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr eitem hon yn dilyn trywydd yr eitem flaenorol o ran
cyfeiriad y Llywodraeth i annog cerddedwyr. Ychwanegwyd fod parcio ar
balmentydd yn berygl ac yn gosod rhwystrau i gerddwyr ynghyd â difrodi’r
palmentydd. Mynegwyd fod Deddfwriaeth Rheoli Traffig Ffordd yn galluogi
awdurdodau i gyflwyno gwaharddiadau a bod grŵp penodol gan Lywodraeth
Cymru wedi ei sefydlu i edrych ymhellach ar y mater. Mynegwyd
mai consensws y grŵp yw na fydd cyflwyno gwaharddiad cenedlaethol yn
benodol ar hyn o bryd oherwydd bod llawer o heriau. Nodwyd y buasai yn fwy
ymarferol i awdurdodau i osod gwaharddiadau ar leoliadau addas. Esboniwyd y
bydd camau penodol fydd yn cynnwys
ymgynghori, canllawiau safon ar rybuddion a gwybodaeth bellach. Ychwanegwyd y
bydd modd i Weinyddwyr Parcio gallu cadw golwg ar leoliadau sydd yn achosi
problemau. Ategwyd
y bydd argymhelliad yn cael ei wneud i’r Gweinidog i drafod y mater a’r awdurdodau a’r heddlu. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod lleoliadau
yn bryder gan fod rhai lonydd yn gul ac nad oes opsiwn ond am barcio ar
balmentydd a gall greu problemau o ran llif traffig. O ganlyniad bydd angen
sicrhau fod y lleoliadau yn rhai synhwyrol. ¾ Pwysleisiwyd fod angen
sicrhau fod y palmentydd yn saff gan fod arian wedi ei wario i sicrhau fod modd
i bobl mwn cadeiriau olwyn eu defnyddio. Ychwanegwyd fod angen sicrhau ar rhai
strydoedd fod modd i’r Gwasanaethau Brys basio heb geir yn rhwystr. ¾ Nodwyd os bydd angen
sicrhau mannau parcio y bydd angen arian ychwanegol i greu meysydd parcio. ¾ Mynegwyd fod angen
pwysleisio’r pwyntiau penodol yn y Grŵp Tasg. |
|
PAPUR DIWEDDARU AR DDATBLYGIAD MABWYSIADU 'FFYRDD HEB EU MABWYSIADU' LEDLED CYMRU PDF 82 KB Huw Percy i
ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau. Penderfyniad: Cefnogwyd fod y
swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu
Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth Cofnod: Cyflwynwyd
gan Huw Percy. PENDERFYNIAD Cefnogwyd
fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb
eu Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cam cyntaf
o waith y Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu bellach wedi ei gwblhau.
Ychwanegwyd fod ‘Canllaw Model Mabwysiadu Ffyrdd’ wedi ei greu a bod gwaith
bellach yn symud ymlaen gyda’r ail ran. Ategwyd mai’r ail gam fydd i sefydlu
cronfa ddata i ddarparu cofnod cynhwysfawr o’r holl ffyrdd sydd heb eu
mabwysiadu ac i ddatblygu safonau cyffredin ar gyfer dylunio ac adeiladau
priffyrdd i’w ddefnyddio gan Awdurdodau Lleol a datblygwyr tai ar gyfer ffyrdd
y gellir eu mabwysiadu Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Pwysleisiwyd fod angen
safonau cyffredin gan eu bod yn amrywio o fewn ardaloedd ac felly fod angen
cysondeb ar gyfer datblygwyr tai. ¾ Nodwyd na fydd y
ddeddfwriaeth yn edrych ar achosion hanesyddol ond yn sicrhau na fydd problemau
newydd yn digwydd. |
|
TRAFNIDIAETH CARBON ISEL PDF 196 KB Cyflwyniad
ar Bwyntiau Gwefru Cerbyndau Trydan gan Rhys Horan, Llywodraeth Cymru, a Geoff
Murphy a Sarah Buckley, SPEN. Papurau ychwanegol
er gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
cyflwyniadau ar Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan gan Geoff
Murphy o SPEN, Rhys Horan o Lywodraeth Cymru ac Iwan
Prys Jones o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Sylwadau’n codi
o’r cyflwyniadau ¾ Mynegwyd pwysigrwydd
cael cysondeb dros Gymru ac y bydd angen cylchreded y lleoliadau posib ar
awdurdodau. ¾ Nodwyd fod angen i’r
Is-fwrdd drafod lleoliadau dros y rhanbarth er mwyn ymgeisio am grant OLEV. ¾ Esboniwyd fod angen
sicrhau cydweithio rhwng awdurdodau a Thrafnidiaeth yng Nghymru fel bod yn
lleoliadau yn rhai cywir rhag ofn y bydd angen lleoliadau ychwanegol. ¾ Pwysleisiwyd fod angen
holi Llywodraeth Cymru os bydd system genedlaethol fel sydd i’w gweld yn yr
Alban yn cael ei greu a beth fydd yr
amserlen. ¾ Mynegwyd fod gangen
trafodaethau a chynllun digidol y Bwrdd Uchelgais gan fod y ddau gynllun yn
cydgysylltu. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD 2020 Cynnig fod
y dyddiadau isod yn cael ei dynodi ar gyfer cyfarfodydd 2020 ·
17.02.20 ·
18.05.20 ·
14.09.20 ·
07.12.20 Penderfyniad: Derbyniwyd y
dyddiadau a gyniwyd ar gyfer cyfarfodydd yr Is-Fwrdd Trafnidiaeth ar gyfer
2020. Cofnod: Cytunwyd ar y
dyddiadau'r Is-Fwrdd ar gyfer 2020. |