skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 218 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2020.

Cofnod:

Derbyniwyd y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 17 Chwefror 2020 fel rhai cywir yn ddarostyngedig:

·         Eitem 10: Hydrogen – Tanwydd i’r Dyfodol  -  edrych ar y dull o brynu cerbydau hydrogen ar y cyd fel rhan o wasanaethau fflyd Awdurdodau Lleol.

 

Nid oedd penderfyniad wedi ei wneud dros ddefnydd un technoleg dros un arall wrth ystyried prynu cerbydau.

 

·          i gywiro enw Peter Davies i Peter Daniels

 

Cadarnhawyd na fyddai ‘materion yn codi’ o’r cofnodion yn cael ei drafod yn y cyfarfod yn dilyn eglurhad am drefniadau mewn pwyllgorau. Os am ddiweddariad ar unrhyw fater rhaid sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys ar raglen y cyfarfod.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnwys materion yn codi o’r cofnodion ar raglen cyfarfodydd i’r dyfodol. Cylch Gorchwyl yr Is Fwrdd i’w gylchredeg i’r Aelodau Cabinet.

 

5.

DIWEDDARIAD AR GROWTH TRACK 360

Cyflwyniad gan Cyng. Louise Gritting a’r Cyng. Ian Roberts, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Growth Track 360

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan  Ian Roberts– Cyngor Sir y Fflint.

 

PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd diweddariad manwl ar y gwaith ar cynigion sydd i’w hystyried. O ganlyniad i’r gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr yn ystod y cyfnod clo, amlygwyd bod rhaid ystyried ffyrdd newydd o weithio gan sicrhau bod y cynlluniau yn addas i bwrpas. Pwysleisiwyd, os na ellid sicrhau mynediad at drenau cyflym, bydd hyn yn anfantais sylweddol i Ogledd Cymru.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd bod y wybodaeth yn drylwyr ac yn cynnwys nifer o faterion cadarnhaol

·         Bod angen gwell eglurhad a dealltwriaeth o’r mathau o drenau fydd yn cael eu defnyddio

·         Pryder nad yw Gogledd Cymru yn rhan o drafodaethau ar gyfyngiad mewn nifer  y teithiau i mewn i Fanceinion - o ganlyniad, Gogledd Cymru yn debygol o golli allan ar wasanaethau i’r Maes Awyr ac i Orsaf Piccadilly

·         Bod rhaid cael gwell adnoddau yng Nghaer os am gael mwy o drenau ar draws Gogledd Cymru

·         Bod angen ychwanegu gwydnwch i’r rhestr – llifogydd a thirlithriadau rheolaidd yn achosi problemau mewn rhai ardaloedd

                                               

 

6.

ADOLYGIAD BYSIAU RHANBARTHOL A DIWEDDARIAD BYSIAU pdf eicon PDF 565 KB

Diweddaru'r Aelodau ar y cynnydd gyda chynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r trefniadau llywodraethu bysiau a’r cynnydd â datblygu dull rhanbarthol gyda'r rhwydwaith bysiau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad manwl pellach i’r cyfarfod nesaf ar y  cysyniad o ffurfio cwmni bysiau rhabarth Gogledd Cymru yn nodi’r  opsiynau gan gynnwys y trefniadau llywodraethu posib.

 

Cofnod:

 

Cyflwyniad gan Dewi Rowlands - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Iwan Prys Jones - Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a mewnbwn gan Kemi Adenubi (Trafnidiaeth Cymru)

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad manwl pellach i’r cyfarfod nesaf ar y  cysyniad o ffurfio cwmni bysiau rhabarth Gogledd Cymru yn nodi’r  opsiynau gan gynnwys y trefniadau llywodraethu posib.

  

TRAFODAETH

 

Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau mewn perthynas â threfniadau llywodraethu a chyllido gwasanaethau bws ynghyd a’r gwaith pellach sydd wedi'i gynllunio ar wasanaethau bws Gogledd Cymru.

 

Tynnwyd sylw at y tri mater cysylltiedig i’w hystyried:

·         Diweddariad ar gynnydd yn sgil cyhoeddi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r trefniadau rheoli ar gyfer rhwydweithiau bws.

·         Diweddariad ar y cynnydd gyda'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Bysiau Rhanbarthol i'r Gogledd yn dilyn gwaith a gomisiynwyd gan y Bwrdd Uchelgais

·         Diweddariad ar y gwaith a wnaed gan Arup ar ran Trafnidiaeth Cymru ar ddatblygu gweledigaeth a strategaeth bysiau ar gyfer Metro Gogledd Cymru

 

Adroddwyd bod COVID-19 wedi amlygu heriau gyda'r drefn cludo bysiau presennol sydd wedi gweld gostyngiad sydyn a difrifol yn nifer y teithwyr bysiau (tua 90%) ar draws gwasanaethau ers y cyfnod clo. Mae'r niferoedd yn debygol o aros yn isel hyd y gellir rhagweld newidiadau i ganllawiau pellhau cymdeithasol sydd yn cyfyngu ar gapasiti yn ogystal ag awydd y cyhoedd i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Nodwyd bod yr argyfwng yn gyfle i newid y ddarpariaeth gyda’r pandemig wedi  tynnu sylw at wytnwch gwael a gwendidau cynhenid ​​yn y  system bresennol. Ategwyd bod y fframwaith ddeddfwriaethol bresennol yn gyfrifol am ddiffyg cyd-ddarpariaeth

 

Ystyriwyd newid y model ar gyfer y rhwydwaith bysiau yng Nghymru gan sicrhau deilliannau effeithiol fyddai’n ymateb i’r angen. Pwysleisiwyd bod cydweithio gyda’r Awdurdodau yn hanfodol i wella’r gwasanaeth. Nodwyd bod gwaith y cael ei wneud i addasu rhan 3 o’r Bil Bysiau (ffrwd ariannu i gyflawni safonau) fel bod ystod gwell o offer ar gael i Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yn eu hardaloedd.
 
Ategwyd y byddai’r Strategaeth Trafnidiaeth Cyhoeddus - ‘Gwasanaethau Lleol, Gweledigaeth Genedlaetholyn mynd allan am ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020 gyda bwriad o gyflwyno i’r Senedd ym mis Mawrth 2021. Y bwriad yw cyflwyno strategaeth ddrafft gan ymgysylltu gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod gwasanaeth addas ar gyfer unigolion a chymunedau yn cael ei ddatblygu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Croesawu'r wybodaeth a gyflwynwyd

·         O ystyried bod y rhwydwaith wedi ei rannu i ranbarthau gydag amryw o awdurdodau lleol yn rheoli  o fewn y rhanbarthau -  y sefyllfa yn un cymhleth ac anodd fyddai cael ‘un corff yn rheoli

·         Angen denu unigolion actif - bod y rhwydwaith yn cynnig cysylltiadau da i feicwyr a defnyddwyr beiciau trydan

·         Bod cyfathrebu ac ymgysylltu clir yn hanfodol

·         Bod yr adroddiad wedi ei lunio cyn dyfodiad covid - manylion a gwybodaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.