Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Suite 4, Conwy Business Centre, Llandudno Junction, Conwy LL31 9XX

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Nodwyd ymddiheuriadau gan Cyng. David Bithell.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 90 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 23 Medi 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Derbyniwyd y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 23 Medi 2019 fel rhai cywir.

5.

DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL pdf eicon PDF 88 KB

Emlyn Jones i ddiweddaru aelodau ar y sefyllfa bresennol o ran Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSVAR) ac adnewyddu teithio rhatach am ddim.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd ar ôl ystyried y sefyllfa bresennol i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ac i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain ar ran yr Is-Fwrdd i nodi'r problemau y gall godi o ganlyniad i’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Peter Daniels.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd ar ôl ystyried y sefyllfa bresennol i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ac i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain ar ran yr Is Fwrdd i nodi'r problemau y gall godi o ganlyniad i’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod dau brif agwedd i’w drafod.

 

Trafodwyr Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus gan nodi fod llythyr wedi ei dderbyn gan awdurdodau lleol yn ddiweddar yn egluro’r broses o wneud cais am estyniad i’r broses o ddwy flynedd os yn cyrraedd meini prawf penodol. Nodwyd mai mynediad ar gyfer y bobl anabl yw’r prif reswm dros yr eithriad. Tynnwyd sylw at  bryder fod yr eithriad ond yn berthnasol os na werthir mwy nag 20% o’r seddi ar fysiau. Mynegwyd fod angen lobi Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r canran hwn. Nodwyd fod pryderon yn codi am y cyfnod saib a'r buddsoddiad fydd ei angen ei wneud i sicrhau bysus sydd yn cyrraedd y safon a holwyd beth fydd goblygiadau hyn ar fusnesau.

 

O ran yr ail agwedd, Adnewyddu Tocynnau Teithio Mantais am ddim, nodwyd fod niferoedd yn parhau yn isel ar draws Cymru. Mynegwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r mater ac efallai y bydd yn codi’r niferoedd. Ychwanegwyd y bydd Ionawr yn fis ble fydd modd defnyddio’r ddau docyn ond y bydd o ganlyniad yn golygu llawer o waith i’r cwmnïau bysus.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd er ei fod yn bositif y bydd estyniad yn cael ei roi am ddwy flynedd y buasai yn well pe bai rheoliadau yn dod i rym i ysgolion ar ddechrau blwyddyn ysgol yn hytrach ‘na fis Ionawr.

¾     Nodwyd y buasai’r rheoliadau bysus yn gorfodi cwmnïau i dynnu allan o gytundebau gan fod eu model busnes wedi ei seilio ar y cytundebau yma.

¾     O ran rheoliadau cerbydau i ysgolion mynegwyd fod pob awdurdod yn wahanol oherwydd yn rhai awdurdodau megis Wrecsam fod yr ysgolion yn cytundebu yn uniongyrchol a chwmnïau. Pwysleisiwyd fod angen bod yn ymwybodol o'r effaith ar ysgolion a tynnwyd sylw yn benodol at fysiau i weithgareddau megis gwersi nofio.

¾     O ran adnewyddu tocynnau teithio mantais am ddim nodwyd fod angen sicrhau fod y rhai sydd yn defnyddio’r tocynnau fod yn ymwybodol o’r newidiadau.

 

6.

DIWEDDARIAD AR Y CYNNYDD MEWN PERTHYNAS Â CHYFYNGIADAU CYFLYMDER 20 MYA AR GYFER ARDALOEDD PRESWYL LEDLED CYMRU pdf eicon PDF 95 KB

Huw Percy a Stephen Jones i ddiweddaru’r Is-Fwrdd ar ddatblygiadau.

Penderfyniad:

Penderfynwyd fod angen i’r Is-Fwrdd fynd ag adroddiad i drafod yr effaith economaidd ar gyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer ardaloedd i’r Bwrdd Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Huw Percy

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd fod angen i’r Is-Fwrdd fynd ag adroddiad i drafod yr effaith economaidd ar gyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer ardaloedd i’r Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cyhoeddiad wedi ei wneud gan y Prif Weinidog y dylai Llywodraeth Cymru geisio mabwysiadu 20mya fel cyfyngiad cyflymder rhagosoded ar gyfer ardaloedd preswyl ledled Cymru. Esboniwyd mai annog newid y dull o deithio yw’r rheswm dros y newidiadau arfaethedig. Mynegwyd fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi ei sefydlu o rhan ddeiliaid ac y bydd swyddogion o Sir Fflint a Môn yn mynychu o’r Gogledd.

 

Mynegwyd fod y Grŵp wedi ei rannu yn bedwar Grŵp Prosiect er mwyn edrych ar bedwar prif ffrwd gwaith. Nodwyd o ran gorfodaeth ar hyn o bryd fod hunan orfodaeth yn cael ei amlygu gan nad oes gan yr Heddlu adnoddau ar ei gyfer. Ychwanegwyd y bydd trafodaeth ag awdurdodau i drafod hawliau gorfodaeth. Tynnwyd sylw at yr amserlen gan nodi y gobeithir y bydd deddfwriaeth cyn Hydref 2020 gyda’r nod o gychwyn gweithredu’r cynllun yn 2023.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd y bydd oblygiadau ariannol o fod yn rhan o’r cynllun hwn.

¾     Mynegwyd nad oes ystadegau yn rhan o’r adroddiad gan y Llywodraeth o ble mae goryrru yn broblem, gan ychwanegu y buasai pobl o bosib yn fwy parod i ymateb os yn ymateb i ffigyrau cadarn. Pwysleisiwyd mai anodd newid dull o deithio oddi wrth geir ac i gerdded a beicio yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth.

¾     Holwyd os oes cynlluniau peilot am gael eu cynnal yn rhai siroedd er mwyn mesur yr effaith.

¾     Trafodwyd lonydd cyswllt gan nodi y gallai fod a phroblemau, ac ychwanegwyd y bydd angen gwybod ble yn union y bydd eithriadau ac os byddant yn gyson ar draws y wlad.

¾     O ran gorfodaeth holwyd pwy fydd yn gwneud hyn gan y bydd oblygiadau ariannol i’r cynllun i awdurdodau ac esboniwyd y bydd gwaith penodol yn edrych ar hyn ymhellach.

¾     Tynnwyd sylw at yr effaith economaidd gan nodi fod angen codi ymwybyddiaeth y Bwrdd Uchelgais.

 

 

7.

DIWEDDARIAD PARCIO AR BALMENTYDD pdf eicon PDF 86 KB

Huw Percy i ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau.

Penderfyniad:

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y Grŵp Tasg Parcio Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi ei wneud a bod angen nodi’r canlynol:

  • Nad oes deddfwriaeth flanced ar gyfer pob ardal
  • Fod angen meddwl am leoliadau penodol ac am lif traffig
  • Cefnogaeth i waharddiadau parcio yn lleol ond fod angen canllawiau clir ac arian ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac amser staff. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Huw Percy.

 

PENDERFYNWYD

 

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y Grŵp Tasg Parcio Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi ei wneud a bod angen nodi’r canlynol:

·         Nad oes deddfwriaeth flanced ar gyfer pob ardal

·         Fod angen meddwl am leoliadau penodol ac am lif traffig

·         Cefnogaeth i waharddiadau parcio yn lleol ond fod angen canllawiau clir ac arian ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac amser staff. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr eitem hon yn dilyn trywydd yr eitem flaenorol o ran cyfeiriad y Llywodraeth i annog cerddedwyr. Ychwanegwyd fod parcio ar balmentydd yn berygl ac yn gosod rhwystrau i gerddwyr ynghyd â difrodi’r palmentydd. Mynegwyd fod Deddfwriaeth Rheoli Traffig Ffordd yn galluogi awdurdodau i gyflwyno gwaharddiadau a bod grŵp penodol gan Lywodraeth Cymru wedi ei sefydlu i edrych ymhellach ar y mater.

 

Mynegwyd mai consensws y grŵp yw na fydd cyflwyno gwaharddiad cenedlaethol yn benodol ar hyn o bryd oherwydd bod llawer o heriau. Nodwyd y buasai yn fwy ymarferol i awdurdodau i osod gwaharddiadau ar leoliadau addas. Esboniwyd y bydd camau penodol  fydd yn cynnwys ymgynghori, canllawiau safon ar rybuddion a gwybodaeth bellach. Ychwanegwyd y bydd modd i Weinyddwyr Parcio gallu cadw golwg ar leoliadau sydd yn achosi problemau.

 

Ategwyd y bydd argymhelliad yn cael ei wneud i’r Gweinidog i drafod y mater a’r  awdurdodau a’r heddlu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod lleoliadau yn bryder gan fod rhai lonydd yn gul ac nad oes opsiwn ond am barcio ar balmentydd a gall greu problemau o ran llif traffig. O ganlyniad bydd angen sicrhau fod y lleoliadau yn rhai synhwyrol.

¾     Pwysleisiwyd fod angen sicrhau fod y palmentydd yn saff gan fod arian wedi ei wario i sicrhau fod modd i bobl mwn cadeiriau olwyn eu defnyddio. Ychwanegwyd fod angen sicrhau ar rhai strydoedd fod modd i’r Gwasanaethau Brys basio heb geir yn rhwystr.

¾     Nodwyd os bydd angen sicrhau mannau parcio y bydd angen arian ychwanegol i greu meysydd parcio.

¾     Mynegwyd fod angen pwysleisio’r pwyntiau penodol yn y Grŵp Tasg.

 

8.

PAPUR DIWEDDARU AR DDATBLYGIAD MABWYSIADU 'FFYRDD HEB EU MABWYSIADU' LEDLED CYMRU pdf eicon PDF 82 KB

Huw Percy i ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau.

Penderfyniad:

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Huw Percy.

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cam cyntaf o waith y Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu bellach wedi ei gwblhau. Ychwanegwyd fod ‘Canllaw Model Mabwysiadu Ffyrdd’ wedi ei greu a bod gwaith bellach yn symud ymlaen gyda’r ail ran. Ategwyd mai’r ail gam fydd i sefydlu cronfa ddata i ddarparu cofnod cynhwysfawr o’r holl ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ac i ddatblygu safonau cyffredin ar gyfer dylunio ac adeiladau priffyrdd i’w ddefnyddio gan Awdurdodau Lleol a datblygwyr tai ar gyfer ffyrdd y gellir eu mabwysiadu

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Pwysleisiwyd fod angen safonau cyffredin gan eu bod yn amrywio o fewn ardaloedd ac felly fod angen cysondeb ar gyfer datblygwyr tai.

¾     Nodwyd na fydd y ddeddfwriaeth yn edrych ar achosion hanesyddol ond yn sicrhau na fydd problemau newydd yn digwydd.

 

 

9.

TRAFNIDIAETH CARBON ISEL pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyniad ar Bwyntiau Gwefru Cerbyndau Trydan gan Rhys Horan, Llywodraeth Cymru, a Geoff Murphy a Sarah Buckley, SPEN.

 

Papurau ychwanegol er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniadau ar Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan gan Geoff Murphy o SPEN, Rhys Horan o Lywodraeth Cymru ac Iwan Prys Jones o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Sylwadau’n codi o’r cyflwyniadau

¾     Mynegwyd pwysigrwydd cael cysondeb dros Gymru ac y bydd angen cylchreded y lleoliadau posib ar awdurdodau.

¾     Nodwyd fod angen i’r Is-fwrdd drafod lleoliadau dros y rhanbarth er mwyn ymgeisio am grant OLEV.

¾     Esboniwyd fod angen sicrhau cydweithio rhwng awdurdodau a Thrafnidiaeth yng Nghymru fel bod yn lleoliadau yn rhai cywir rhag ofn y bydd angen lleoliadau ychwanegol.

¾     Pwysleisiwyd fod angen holi Llywodraeth Cymru os bydd system genedlaethol fel sydd i’w gweld yn yr Alban yn cael ei greu  a beth fydd yr amserlen.

¾     Mynegwyd fod gangen trafodaethau a chynllun digidol y Bwrdd Uchelgais gan fod y ddau gynllun yn cydgysylltu.

 

10.

DYDDIADAU CYFARFODYDD 2020

Cynnig fod y dyddiadau isod yn cael ei dynodi ar gyfer cyfarfodydd 2020

·         17.02.20

·         18.05.20

·         14.09.20

·         07.12.20

Penderfyniad:

Derbyniwyd y dyddiadau a gyniwyd ar gyfer cyfarfodydd yr Is-Fwrdd Trafnidiaeth ar gyfer 2020.

 

Cofnod:

Cytunwyd ar y dyddiadau'r Is-Fwrdd ar gyfer 2020.