skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd jones  E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Nodwyd bod y Cynghorydd David Bithell a Darren Williams yn cael trafferth ymuno a’r cyfarfod oherwydd problemau technegol.  Cymerodd Y Cynghorydd Robert G Parry y Gadair at gyfer eitemau 1, 2, 3, 4, 5 a 6. 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 286 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 14 Medi 2020 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

 

Derbyniwyd y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 14 Medi 2020  fel rhai cywir ac fe’i cynigiwyd ac eiliwyd. 

 

5.

MATERION YN CODI

I ystyried materion yn codi o’r cofnodion.

Cofnod:

 

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion. 

 

6.

YMGYNGHORIAD CYD BWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 305 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Arweiniol, i hysbysu’r Is -Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.

 

I ddilyn, caiff diweddariad ei gyflwyno gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

           

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

Cofnod:

           

 

Cyflwynwyd yr eitem gan Iwan G D Evans – Swyddog Monitro yr Awdurdod Arweiniol.

 

PENDERFYNIAD

  

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth yn y papur, gan mai papur ydoedd i  hysbysu’r Is-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.

 

 

TRAFODAETH

 

Nododd Y Swyddog Monitro mai diben yr eitem oedd hysbysu yr Is-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y papur roedd wedi ei baratoi oedd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gynigion i sefydlu Cyd Bwyllgorau Corfforedig (CBC) fesul 4 Ardal o Gymru ar sail ôl troed (Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru).

 

O fewn y Bil, mae dau gategori o CBC sef CBC drwy Orchymyn a CBC drwy Gais.  Cyfyngir y meysydd posib ar gyfer CBC Drwy Orchymyn ar gyfer 4 maes sef gwella addysg, trafnidiaeth (Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol), y swyddogaeth o lunio Cynllun Datblygu Strategol a’r swyddogaeth llesiant economaidd.

 

Cadarnhawyd bod CBC yn gyrff corfforedig ar wahân, sydd yn cael eu sefydlu drwy Gynghorau - hynny yw, yn gorfforaeth ar eu traed eu hunain, ac yn bodoli lled ar-wahân i Gynghorau.

 

O ran y maes trafnidiaeth, cadarnhawyd yr aelodaeth fandadol fel chwe Arweinydd Cynghorau Gogledd Cymru (gyda hawl i gyfethol).  Nodwyd y byddai yr opsiwn ar gael yma i sefydlu Is-bwyllgorau.

 

O ran materion cyllid ac ariannu, cadarnhawyd mai y cynghorau, drwy gytundeb, sydd yn ei ariannu, ynghyd a threfnu materion craffu ac awdit, eto drwy gytundeb.

 

Codwyd y cwestiynau canlynol o’r drafodaeth :

 

·         Beth fydd y berthynas ffurfiol gyda yr Awdurdodau?

·         O ran materion megis craffu, cod ymddygiad ac ati, o dan ba drefniant fydd y materion hyn yn disgyn?

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac derbyniwyd sylwadau fel a ganlyn :

 

·         Bydd CBC yn mynd a phwerau oddi ar y Cynghorau.  Nodwyd bod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cysylltu gyda rhai Aelodau o’r Is-Fwrdd, gan nodi mai cerbyd ydyw hwn i Lywodraeth Leol siapio y gwaith ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud

Atgyfnerthwyd y pwynt mai cryfhau y sefyllfa, a chynnwys Aelodau yw’r bwriad, gan roi cyfle iddynt rannu eu barn yn llawn, ac yn onest ar y rheoliadau drafft hyn.

 

·         Sut mae Trafnidiaeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ffitio i mewn?

Bydd apwyntio swyddogion yn bryder, yn enwedig o ddarllen y bydd y rolau yn cymryd 1-5 diwrnod o amser swyddog.

Onid oes camsyniad yma y bydd yn arbed arian?  Erbyn hyn nid oes gan gynghorau swyddogion sydd yn dyblygu gwaith.

Sut byddent yn cael eu hariannu?

Mae rhoi y pŵer i’r Awdurdodau Lleol i redeg eu trafnidiaeth bws eu hunain yn anodd iawn heb arbenigedd lleol.

Nodwyd pryder hefyd am faterion llywodraethu.

Ymatebodd Swyddog Llywodraeth Cymru gan gadarnhau mai yr unig swyddogaeth sydd yn cael ei drosglwyddo i’r CBC yw y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a bod y gweithgareddau o gwmpas bysiau yn aros gyda yr Awdurdodau Lleol, ac mai dewisol fyddai symud swyddogaethau eraill drosodd.

O ran Trafnidiaeth Cymru, cadarnhawyd mai corff danfon ydyw, ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL pdf eicon PDF 504 KB

I gyflwyno diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol.

I gynnwys cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y diweddariad gan Lee Robinson – Trafnidiaeth Cymru

 

PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol a chyda chyllid parhad y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau mewn perthynas ag effeithiau pandemig Covid 19.

 

TRAFODAETH

 

Cadarnhawyd, oherwydd COVID bo Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag ymgymerwyr bysiau gan edrych ar ffyrdd newydd o gyllido ac ystyried pa lwybrau maent yn eu rhedeg.  Cyfeiriodd hefyd ar y scheme Argyfwng Bysiau, gan gadarnhau bo sgwrs gydag ymgymerwyd ar y gweill ar gyfer 8/12/20, ond bod cyfyngiadau amser oherwydd COVID.

 

Cyfeiriodd at y Cytundeb Partneriaeth i drafod llwybrau a’r agenda carbon, ond cadarnhaodd bod yr ymgymerwyr yn gweld y drafodaeth yn unochrog.

 

Rhoddodd y Swyddog gyflwyniad ar Ddiwygio a Dyluniad Rhwydwaith Bysiau gan gadarnhau y byddent yn gweithio mewn pedwar rhanbarth Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru.

 

Atgoffodd yr Is-Fwrdd eu bod wedi comisiynu darn o waith i edrych ar wyth mater penodol ar gyfer y rhanbarth a chytunodd i rannu y cyflwyniad.

 

Gofynnwyd am unrhyw sylwadau pellach gan yr Aelodau Cabinet cyn symud ymlaen :

 

Mae gwahaniaeth rhwng cefn gwlad a threfol ond mae pob Sir yma yn bresennol yn wahanol.  Mae twristiaeth yn bwysig iawn, ac mae angen cael y neges honno ar draws.  Sylwyd bo gwaith wedi ei ffocysu o gwmpas hybiau trefol metro - mae rhai llwybrau craidd yn gallu bod yn rhai trefol i drefol a chwestiynwyd ble mae hyn yn gweithio, sut mae modd mesur gwerth cymdeithasol a gwerth economaidd?  Gofynnwyd i Drafnidiaeth Cymru beidio ag anghofio am y boblogaeth hyn wrth wneud unrhyw waith ymgynghori gan gofio nad ydym yn byw mewn cyfod arferol, cynrychiadol.

 

Gofynnwyd am ystyriaeth hefyd i sut mae cyllido addysg yn cysylltu, ynghyd a chyllido gofal iechyd cymdeithasol.

 

Nododd swyddog o Lywodraeth Cymru ei fod yn annog materion cefn gwlad yn y gymuned, ynghyd a phwysigrwydd cynllunio y rhwydwaith gan ystyried pobl mewn cymunedau.

 

Cytunwyd y byddai Iwan P Jones, fel paratoad i’r cyfarfod oedd wedi ei drefnu ar gyfer 18/1/21, yn cysylltu i geisio barn ar faterion bysiau.

                                               

 

8.

ADRODDIADAU GWYBODAETH pdf eicon PDF 353 KB

(i)             Adolygiadau Fflyd Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru, Rhys Horan -Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

 

(ii)         Diweddariad ar Gynigion Tanwydd Hydrogen, Iwan Prys Jones - Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

(iii)      Llwybr Newydd - strategaeth trafnidiaeth newydd i Gymru, Iwan Prys Jones - Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

            

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau gan Iwan Prys Jones

 

PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau gwybodaeth oedd yn rhoi diweddariad ar waith cyfredol ledled y rhanbarth gan edrych ar sut ellir trosglwyddo fflyd y sector cyhoeddus i fod yn fflyd allyriadau tra isel.

 

 

TRAFODAETH

 

          Ni fu trafodaeth