skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dafydd Edwards (Swyddog Cyllid – Awdurdod Arweiniol), Emlyn Jones (Cyngor Sir Ddinbych), Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganwyd buddiant personol gan Y Cynghorydd David Bithell ar Eitem 6 gan ei fod yn gweithio i Network Rail.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2020.

Cofnod:

Derbyniwyd y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 7fed Rhagfyr, 2020  fel rhai cywir yn ddarostyngedig: 

 

-       Cywiro cofnodion Saesneg i nodi mai i Gyngor Sir Ddinbych ac nid Cyngor Sir y Fflint y mae Peter Daniels yn gweithio.

 

 

5.

DIWEDDARIAD Y CADEIRYDD AR WAITH BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU A'R GRŴP TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL pdf eicon PDF 466 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Y Bwrdd Uchelgais) a'r Grŵp Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cadeirydd yn diweddaru’r Is-Fwrdd ar y ffrydiau gwaith a’u cynnydd dros y ddeufis diwethaf.

 

Trafodwyd y prif bwyntiau gan gynnwys y canlynol;

-       Bod yr Is-Fwrdd i gyflwyno adroddiad i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd dwywaith y flwyddyn i’w diweddaru ar y gwaith.

-       Rhoddwyd trosolwg ar y sefyllfa gyda’r Cyd Bwyllgorau Corfforaethol gan nodi y byddant yn trafod materion mwy cyfyng nag a thrafodwyd yn yr Is-Fwrdd hwn.

-       Nodwyd eu bod yn disgwyl am arweiniad pellach yn dilyn yr etholiadau seneddol diweddar

 

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Ni chafwyd sylwadau pellach.

 

6.

DIWEDDARIAD BYSIAU RHANBARTHOL AC METRO GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 396 KB

Rhoi cyflwyniad a diweddariad i Aelodau ar gynnydd Trafnidiaeth Cymru ar waith sy'n cael ei wneud ar Adolygiad Rhwydwaith Bws Cenedlaethol Cymru.

 

Rhoi cyflwyniad a diweddariad i Aelodau ar gynnydd Trafnidiaeth Cymru ar waith sy'n cael ei wneud ar brosiectau o fewn Metro Gogledd Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW.

 

Metro Gogledd Cymru

 

Rhannwyd cyflwyniad gyda’r Is-Fwrdd yn egluro’r darlun cenedlaethol ac yna ffocysu ar Ogledd Cymru a’r prosiectau sydd ar waith. Eglurwyd cyd-destun y rhaglen Metro Gogledd Cymru a thywyswyd yr Is-Fwrdd drwy’r amserlen arfaethedig a’r parthau dan sylw.

 

Trafodwyd y prif amcanion ynghylch Metro gogledd Cymru gan gynnwys:

 

-       Bod angen diwygio ambell i amserlen bresennol gan eu bod yn gyfyng

-       Nifer o adrannau gydag arwyddion wedi dyddio

-       Ar y cyfan, mae cyflymdra isel ar y lein

-       Bod angen gwerthuso cyflwr presennol asedau sy’n ymwneud a’r Metro

-       Nodi bod rhai gorsafoedd yn parhau i fod yn anhygyrch

-       Croesfannau rheilffordd yn amharu ar y gallu i gynnal trenau sy’n rhedeg yn gyflymach ac yn amlach.

 

Amlygwyd y camau nesaf fel a ganlyn:

 

-       Gwaith parhaus gydag Network Rail er mwyn gwerthuso croesfannau rheilffordd a chyfarch yr anghenion yn y gobaith o gyrraedd datrysiad parhaol i’r sefyllfa.

-       Gwelliannau i ddod er enghraifft yn Shotton a Glannau Dyfrdwy er mwyn cynyddu cynhwysedd.

-       Dealltwriaeth o pan ddefnyddir ceir fel modd trafnidiaeth wrth deithio rhwng Gogledd Cymru a dinasoedd fel Manceinion. Archwilio cysylltiad gyda HS2.

-       Archwilio llefydd lle gallai addasu’r ddarpariaeth heb angen newid sylweddol i’r isadeiledd, er enghraifft o amgylch Gaer a Llandudno.

-       Archwilio estyniad gwasanaeth yn llefydd megis Caernarfon a Lein Amlwch.

 

 

Bysiau Rhanbarthol

 

Aethpwyd ati i drafod materion ynghylch bysiau rhanbarthol, gan dynnu sylw at y prif egwyddorion fel a ganlyn:

 

-       Awdurdodau lleol wedi cytuno mai prif amcan yw cynyddu defnydd ar y rhwydwaith bysiau.

-       Amlygwyd yng Ngogledd Cymru mewn sawl ardal nad oedd dewis amgen gan ddefnyddwyr a dyna pam mae cyfrannau uchel o ddefnyddwyr i’w gweld.

-       Canfyddiad yw cyflwyno’r rhwydweithiau mewn modd sy’n caniatáu gwella cysylltedd gan fod y rhwydwaith mor gymhleth.

-       Trefnwyd cytundebau tocynnau er mwyn hwyluso prynu tocynnau, i gael mynediad at ddata defnyddwyr, ac i wella effeithlonrwydd.

-       Soniwyd am brosiectau traws Gogledd Cymru mewn ardaloedd megis Bangor, Prestatyn a Chaergybi.

-       Nodwyd bod gwaith yn digwydd gydag Awdurdodau Lleol er mwyn adnabod safleoedd posib Parcio a Theithio megis Bangor, Rhyl a Chyffordd Llandudno a fyddai hefyd yn cael effaith bositif ar y Parc Cenedlaethol gan leihau’r problemau parcio.

-       Eglurwyd bod cynllun peilot ar waith er mwyn cyfyngu prisiau tocynnau

-       Cwmni bysiau Traws Cymru yn edrych ar ffyrdd o ganiatáu integreiddio gyda’r trenau er mwyn hwyluso teithio.

 

 

Cododd y sylwadau isod yn ystod y drafodaeth:

 

 

-       Gofynnwyd y Cadeirydd am fwy o wybodaeth ynghylch y raddfa amser tebygol ar gyfer y camau nesaf.

-       Mynegwyd un aelod bod angen gweithio ar frandio Metro Gogledd Cymru er mwyn ei hyrwyddo.

-       Cytunwyd bod gwasanaeth amserlennu yn bwysig iawn pan mae nifer uchel o ddefnyddwyr er mwyn cadw hyder yn y gwasanaeth

-       Gofynnwyd a oes unrhyw gynlluniau i addasu’r weledigaeth wrth i’r gweinidog trafnidiaeth newydd ymgymryd yn ei swydd.

Holwyd aelod ynghylch cyllid ac os oedd cadarnhad o gyllid tymor hir er mwyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

EITEM ER GWYBODAETH - DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH A DIWEDDARIAD HWB HYGROGEN pdf eicon PDF 587 KB

Darparu trosolwg o brosiect Hwb Hydrogen Caergybi o ran y cynnydd hyd yma ac

amlinellu'r camau nesaf yn natblygiad y prosiect.

 

Diweddaru'r Aelodau ar y cynnydd gyda datblygu cynigion prosiect ar gyfer prosiectau trafnidiaeth carbon isel a di-garbon yn y Gogledd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth yn unig.

 

Croesawyd yr adroddiad gan nodi ‘r cyfleoedd a swyddi a ddaw yn sgil datblygiadau gorsafoedd llenwi Hydrogen.

 

Ategwyd y byddai cerbydau hydrogen at berthynas casglu sbwriel ayyb ar gael erbyn diwedd y flwyddyn

 

Codwyd  y sylwadau isod mewn perthynas â’r adroddiad:

 

-       Nodwyd nad yw aelodau’r Is-Fwrdd yn ymwybodol o’r camau sydd ar y gweill gyda Hydrogen. Ategwyd bod cyfle i sefydlu os oes angen rhanbarthol ar gyfer hydrogen gwyrdd er mwyn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru.

 

 

-------------------------------------------------------------------------------------------------------

 

Gofynnodd cyn aelod yr Is-Fwrdd Carolyn Thomas AS, petai fodd iddi fynychu cyfarfodydd fel sylwedydd yn y dyfodol .

 

Cytunwyd nad oedd gwrthwynebiad, ac ategwyd y byddai’n ddefnyddiol i Aelod Seneddol fynychu.