Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2021/22 Penderfyniad: Ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforedig y
Gogledd. COFNODION: Penderfynwyd ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn
Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22 Penderfyniad: Ethol y Cyng. Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Corfforedig
y Gogledd. COFNODION: Penderfynwyd ethol
y Cyng. Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor. |
|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Wyn Ellis Jones o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a nodwyd fod y Cyng. Anwen Hughes yn bresennol i ddirprwyo ar ei ran. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan Iwan Evans, Dewi A Morgan a Dafydd Gibbard ar gyfer Eitem 6 : Penodi Swyddogion Statudol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
PENODI SWYDDOGION STATUDOL Y CBC PDF 126 KB I benodi, a) Prif Weithredwr b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran
151’) c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol Penderfyniad: Penodwyd y
Swyddogion Statudol canlynol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn
weithredol o 14 Ionawr 2022 o leiaf hyd nes y bydd y trefniadau'n cael eu
adolygu ym mis Mehefin 2022: a) Prif Weithredwr – Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’) – Dewi Morgan (Cyngor
Gwynedd) c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol – Iwan Evans (Cyngor Gwynedd). COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol y Prosiect). PENDERFYNIAD Penodwyd y Swyddogion Statudol canlynol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn weithredol o 14 Ionawr 2022 o leiaf hyd nes y bydd y trefniadau'n cael eu adolygu ym mis Mehefin 2022: a) Prif Weithredwr – Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’) – Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd) c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol – Iwan Evans (Cyngor Gwynedd). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn sefydlu Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac o ganlyniad i hyn mynegwyd fod angen i’r Cyd-Bwyllgor wneud trefniadau priodol yn y cyfarfod cyntaf. Eglurwyd ymysg y trefniadau priodol cyntaf fod rhaid i’r Cyd-Bwyllgor benodi ei Swyddogion Statudol. Eglurwyd fod Rheoliadau Cyd-Bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (rhif 2) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi tri swyddog statudol yn cynnwys Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mynegwyd fod Rheoliadau Sefydlu yn caniatáu hyblygrwydd sut y gall y Cyd-Bwyllgor gyflogi staff, hynny yw gall gael eu cyflogi yn uniongyrchol neu drwy drefniadau gydag awdurdodau cyfansoddiadol. Nodwyd fod Cyngor Gwynedd eisoes yn darparu Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sydd â swyddogaethau gallai drosglwyddo i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn ystod 2022/23. Yn ogystal ategwyd fod Cyngor Gwynedd eisoes yn darparu Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor. Pwysleisiwyd er mwyn i’r Cyd-Bwyllgor symud ymlaen argymhellwyd y dylai swyddogion statudol gael eu darparu gan Gyngor Gwynedd am y tro, tra fod y Cyd-Bwyllgor yn cael ei sefydlu, gan nodi y gellir adolygu’r trefniadau dros dro a cyflwyno adroddiad pellach ar yr opsiynau posib ar gyfer penodi’r swyddogaethau ar sail parhaol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i Cyngor Gwynedd am gymryd y rôl ar ran y Rhanbarth. |
|
MABWYSIADU RHEOLAU SEFYDLOG A CHYFANSODDIAD CBC PDF 266 KB I ystyried
a mabwysiadu rheolau sefydlog a chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Mabwysiadwyd Rheolau Sefydlog Cychwynnol ar
gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig a derbyn y cyfeiriad ynglŷn a sefydlu
Cyfansoddiad. 2.
Dirprwywyd hawl i’r Swyddog Monitro i
wneud newidiadau golygyddol i’r Rheoliadau Sefydlog ar gyfer eu cyhoeddi gan
nodi’r angen i ail ymweld a’r Rheolau Sefydlog unwaith y bydd canllawiau’r
Llywodraeth wedi’i cadarnhau. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans (Swyddog Monitro). PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Rheoliadau Cyd-Bwyllgor Corfforedig
Gogledd Cymru 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyd-Bwyllgor wneud Rheoliadau
Sefydlog er mwyn rheoleiddio ei weithrediadau a busnes. Gan gynnwys Rheoliadau
sefydlu’r Cyd-Bwyllgor ar y 1af Ebrill 2021, nodwyd eisoes fod tri set o
reoliadau llywodraethu wedi dod i rym. Ychwanegwyd fod 2 set o Reoliadau
Cyffredinol wedi mabwysiadu gyda ymgynghoriad ar Reoliadau (3ydd)
ychwanegol wedi cau cyn y Nadolig.
Mynegwyd fod disgwyliad y bydd y Rheoliadau ychwanegol yn dod i rym yn y
Gwanwyn. Eglurwyd felly fod sefydlu trefniadau cyfansoddiadau yn gorfod ymateb
a datblygu gyda cefndir o sefyllfa gyfreithiol sydd yn parhau i esblygu. Tywyswyd drwy’r Rheolau Sefydlog gan amlygu fod yr Aelodaeth yn cynnwys
6 Arweinydd Cynghorau Cyfansoddiadau sydd â hawl gweithredu holl swyddogaethau,
Cynrychiolydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd â hawl gweithredu ar
faterion sy’n ymwneud â’r Swyddogaeth Cynllun Datblygu Strategol yn unig,
ynghyd ag Aelodau Cyfetholedig a benodir gan y Cyd-Bwyllgor fydd â hawl
gweithredu yn unol â’r gytundeb penodi. Eglurwyd o ran y cyfarfodydd y
bydd y cyfarfodydd yn agored a bydd modd
i’r wasg a’r cyhoedd gael mynediad, ychwanegwyd y bydd angen creu calendr
cyfarfodydd. Amlygwyd fod angen 5 aelod fod yn bresennol er mwyn cael cworwm ac
y bydd rhaid i’r aelodau ddynodi eilydd. Eglurwyd o ran y drefn pleidleisio y bydd yn dilyn trefn mwyafrif syml,
ond y bydd angen pleidlais unfrydol ar gyfer pennu cyfraniadau at y gyllideb a
newid y trefniadau pleidleisio. Nodwyd yn ogystal na fydd pleidlais fwrw oni
bai ar faterion Cynllun Datblygu Strategol. Eglurwyd y bydd datganiadau o’r
penderfyniadau yn cael ei cyhoeddi ond na fyddent yn ddarostyngedig i alw i
mewn. Ond nodwyd y disgwylir rheoliadau ar y trefniadau trosolwg a chraffu gael
eu cyhoeddi a olygai y gallai hyn newid. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Holwyd sut y bydd y
Cyd-Bwyllgor yn creu Is-Bwyllgorau. Nodwyd y bydd yn benderfyniad y
Cyd-Bwyllgor ac y bydd angen creu Cylch Gorchwyl i’r Is-Bwyllgor ynghyd a
hawliau dirprwyedig. ¾
Mynegwyd fod cael trefn
craffu yn holl bwysig ac fod angen cael trefniadau cadarn a mecanwaith er mwyn
datblygu. Pwysleisiwyd y bydd y Rheolau Sefydlog yn parhau i esblygu dros
amser. ¾
Pwysleisiwyd mai Rheolau
Sefydlog cychwynnol a gyflwynwyd i’r Cyd-Bwyllgor ac eglurwyd y byddant yn dod
yn ôl i’r Cyd-Bwyllgor am ystyriaeth bellach yn dilyn unrhyw addasiadau ac
unrhyw ddyblygiadau unwaith y bydd canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru. |
|
BLAEN RAGLEN WAITH Y CBC PDF 76 KB I ystyried a chymeradwyo blaen raglen waith
Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd Penderfyniad: Cymeradwywyd
Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edward (Swyddog
Arweiniol y Prosiect). PENDERFYNWYD Cymeradwywyd Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y
Gogledd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Flaen Raglen yn
rybudd o beth fydd yn cael ei drafod dros y misoedd nesaf. Nodwyd y bydd angen
i’r cyfarfod nesaf, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gymeradwyo ei
gyllideb am 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Eglurwyd fod y nifer o eitemau i’w
trafod dros y misoedd nesaf ac y bydd addasiadau i’r Flaen Raglen wrth i amser
fynd yn ei blaen.
|