Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones
Rhif | eitem | |||
---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Gareth
(Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy) a Dewi Morgan
(Swyddog Adran 151). |
||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant ar
gyfer eitem 5 gan Dafydd L. Edwards gan mai ei brif swydd yw Cyfarwyddwr y
Gronfa Bensiwn yng Nghyngor Gwynedd. Nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu
felly ni adawodd y cyfarfod. |
||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 139 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2022 fel
rhai cywir. Nodwyd fel
cywirdeb bod Emyr Williams (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) wedi ei gynnwys
yn bresennol ac fel ymddiheuriad yn y cofnod. Cadarnhawyd nad oedd yn bresennol
yn y cyfarfod 7 Hydref ac wedi ymddiheuro. |
||||
Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn cadarnhau fod
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa Bensiwn
Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC) PENDERFYNIAD Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn
cadarnhau fod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa
Bensiwn Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad ar ddethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan nodi bod gofyniad i
adrodd i Lywodraeth Cymru erbyn 22 Rhagfyr, 2022 i gadarnhau pa Awdurdod
gweinyddol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer CBC Gogledd Cymru. Adroddwyd bod dau
Gynllun union yr un fath wedi eu hystyried sef Cronfa Bensiwn Clwyd (Cyngor Sir
y Fflint) a Chronfa Bensiwn Gwynedd (Cyngor Gwynedd). Penderfynwyd ei bod yn
gwneud synnwyr i enwebu Cynllun Pensiwn Cyngor Gwynedd, gan fod gweithwyr
presennol Uchelgais Gogledd Cymru yn aelodau o Gronfa Bensiwn Gwynedd, a
gallai’r trefniadau hynny drosglwyddo i’r CBC yn y dyfodol, felly byddai cynnal
yr un trefniadau pensiwn yn rhesymegol. Cadarnhawyd hyn i Lywodraeth Cymru ar
21 Rhagfyr, 2022. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn cadarnhau’r penderfyniad ac er
gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd parodrwydd i
gefnogi’r argymhelliad. ¾ Nid oedd unrhyw
sylwadau pellach. |
||||
CYLLIDEB 2023/24 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL PDF 779 KB Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog
Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm
£764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll
berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd L. Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cydbwyllgor). PENDERFYNIAD Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm £764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll
berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B.
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig gymeradwyo ei
gyllideb erbyn diwedd Ionawr, 2023. Eglurwyd bod dau opsiwn wedi eu llunio ar
gyfer gwahanol lefelau o weithrediad tuag at gyflawni’r swyddogaeth Cynllunio a
Thrafnidiaeth a galluogi’r Cyd-bwyllgor i weinyddu yn briodol. Nodwyd bod Opsiwn
A yn adlewyrchu dyheadau swyddogion proffesiynol Trafnidiaeth a Chynllunio i
gyflawni’r ddau gynllun strategol. Ychwanegwyd mewn sefyllfa ddelfrydol byddai
Opsiwn A yn cael ei argymell ar gyfer cyllideb y CBC ar gyfer 2023/24, ond yng
nghyd-destun y pwysau ariannol ar sawl awdurdod eleni, cyflwynwyd opsiwn B fel
cyllideb isafswm realistig a dyma yw’r argymhelliad. Ychwanegwyd bod
opsiwn B yn adlewyrchu penderfyniadau blaenorol y Cyd-bwyllgor o ran tybiaeth o
lefel adnoddau. Nodwyd bod amcangyfrifon 2022/23 yn cynnwys tybiaeth o gyflogi
swyddogion Trafnidiaeth am 9 mis a swyddogion Cynllunio am 4 mis, tra byddai
cyllideb 2023/24 yn cynnwys effaith blwyddyn lawn o gyflogi'r uchod am 12 mis
llawn. Ategwyd bod yr opsiwn hwn yn cynnwys amcangyfrif o rôl y Prif Swyddog am
ddau ddiwrnod yr wythnos ynghyd a chost swyddogaethau corfforaethol i gefnogi’r
Is-bwyllgor Cynllunio a’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth. Mynegwyd y byddai
cost Opsiwn B hefyd yn llai nac Opsiwn A am ei fod yn rhagdybio defnydd un tro
o gronfeydd wrth gefn gwerth £80,000, sef amcangyfrif o danwariant blwyddyn
ariannol 2022/23. Yn ogystal, nodwyd yr angen i godi ardoll ar wahân ar gyfer
swyddogaethau Cynllunio, a swyddogaethau eraill. Nodwyd y byddai Awdurdod Parc
Eryri yn cyfrannu at gost yr elfen Cynllunio yn unig. Awgrymwyd dosrannu’r
ardoll rhwng yr Awdurdodau cyfansoddol ar sail y boblogaeth berthnasol i’r maes
gwaith. Nodwyd bod y symiau ardoll ar gyfer yr Awdurdodau unigol wedi eu manylu
ym mhwnt 2.2 o’r adroddiad. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Nodwyd cefnogaeth i
gefnogi Opsiwn B. ¾ Gwnaethpwyd sylw bod angen
trafodaethau pellach ar feysydd Cynllunio, Economi a Thrafnidiaeth efo’r Prif
Weithredwyr er mwyn cynllunio ar gyfer y ffordd ymlaen yng nghyd-destun y
Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd awydd i drafod trefniadau'r Is-bwyllgorau gan
sicrhau cyfarfodydd buan. Gofynnwyd i drefnu cyfarfod efo’r Arweinyddion a’r
Prif Weithredwyr cyn gynted a bo modd i drafod yr uchod. ¾ Eglurwyd ei bod yn
debygol y bydd cyfarfod blynyddol o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael ei
gynnal ym mis Mai ble bydd Cadeirydd yn cael ei benodi am y flwyddyn Bwyllgorau
2023/24. |
||||
DATGANIAD CYFRIFON CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AR GYFER 2021/22 PDF 497 KB Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp
y CBC i gyflwyno’r datganiad Cyfrifon statudol ar gyfer blwyddyn ariannol
2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Datganiad Cyfrifon Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar
gyfer 2021/22 a rhoddwyd grym i’r Cadeirydd arwyddo’r datganiad yn Atodiad 1,
cyn iddo gael ei gyflwyno i Archwilio Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp y CBC). PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
Datganiad Cyfrifon Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2021/22 a
rhoddwyd grym i’r Cadeirydd arwyddo’r datganiad yn Atodiad 1, cyn iddo gael ei
gyflwyno i Archwilio Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei bod wedi dod yn amlwg yn ddiweddar bod angen datganiad blynyddol ffurfiol am y flwyddyn ariannol 2021/22, er nad oedd
unrhyw drafodion ar gyfer CBC y Gogledd. Nodwyd, fel mater o ffurfioldeb, yr
adroddiad oedd yn cadarnhau nad oedd unrhyw drafodion yn y flwyddyn ariannol
2021/22, a’r datganiad blynyddol oedd yn Atodiad 1 er cymeradwyaeth y
Cydbwyllgor, er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol perthnasol. |
||||
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG AR GYFER 2023/24 PDF 196 KB I gytuno ar ddyddiadau arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Penderfyniad: Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24 ac addasiad i
ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023. Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y
CBC drefnu cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y
ffordd ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cadeirydd. PENDERFYNIAD Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr
adroddiad ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24
ac addasiad i ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023.
Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y CBC drefnu
cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y ffordd
ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad oedd yn nodi dyddiadau cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar gyfer 2023/24. Eglurwyd y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y
prynhawn er mwyn osgoi gwrthdaro â chyfarfodydd CLlLC.
Cyfeiriwyd yn ogystal at addasu dyddiad y cyfarfod nesaf o’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig ym mis Mawrth 2023. Nid
oedd unrhyw sylwadau pellach a derbyniwyd yr adroddiad i bennu’r dyddiadau a
nodwyd. Cyfeiriwyd
yn ôl ar y sylw gafodd ei dderbyn dan eitem 6 a cytunwyd i drefnu’r cyfarfod
anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr; bydd Prif Weithredwr y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn trefnu. |