Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jason
McLellan (Cyngor Sir Ddinbych), Ian B. Roberts (Cyngor Sir y Fflint) ac Annwen
Hughes (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant ar
gyfer eitem 5 gan Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC. Gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 250 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2023 fel
rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2023, fel rhai
cywir. |
|
YMESTYN CYFNOD SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CBC PDF 224 KB Ymestyn cyfnod penodiad Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru yn Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Medi, 2023. Penderfyniad: Cytunwyd i ymestyn cyfnod secondiad
rhan-amser Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru i rôl Prif Weithredwr
Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hyd at ddiwedd Medi, 2023. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd). PENDERFYNIAD Cytunwyd i ymestyn cyfnod secondiad rhan-amser
Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru i rôl Prif Weithredwr
Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hyd at ddiwedd Medi, 2023. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan ategu’r bwriad o ymgorffori Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i fod
yn rhan o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol agos. Eglurwyd y gellir
cychwyn ar y camau perthnasol er mwyn symud staff drosodd drwy’r broses TUPE yn
fuan. Nodwyd bod prosesau i’w dilyn yn ymwneud â’r maes cyflogaeth sydd wedi
arafu’r cynnydd ond y nod yw symud drosodd cyn gynted ag y bo modd ac i symud
tuag at benodiad parhaol. Ychwanegwyd bod cynllun mewn lle ar gyfer gwireddu
hyn. Ategwyd y penderfyniad a geisir sef i ymestyn cyfnod secondiad
rhan-amser y Prif Weithredwr Cydbwyllgor Corfforedig dros dro tan ddiwedd mis
Medi 2023. |
|
ADNODDAU I SWYDDOGAETHAU STATUDOL PDF 254 KB Alwen Williams, Prif Weithredwr dros dro y CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyniwyd cymeradwyaeth ar gyfer
model cyflawni'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ar gyfer swyddogaethau
statudol. Cymeradwywyd y strwythur staffio
cychwynnol a nodir yn Atodiad 2 o’r adroddiad. Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i
Brif Weithredwr dros dro y CBC, mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adnoddau Dynol
Cyngor Gwynedd, ac yn unol â Datganiad Polisi Tâl y Cyd-bwyllgor Corfforedig,
ac mewn perthynas â’r swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth i: ·
Gwblhau'r Swydd Ddisgrifiadau angenrheidiol ar
gyfer y swyddi ·
Gadarnhau'r raddfa gyflog sydd wedi'i harfarnu ·
Hysbysebu a recriwtio i'r swyddi Cymeradwywyd trosglwyddo'r gyllideb staffio trafnidiaeth
sy'n weddill sy'n cyfateb i 1 x Swyddog Trafnidiaeth FTE a gymeradwywyd ym mis
Ionawr i gostau sy'n gysylltiedig â gofynion ymgynghorol y broses Cynllunio
Trafnidiaeth Ranbarthol. Cytunwyd i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig
dderbyn papur yn y dyfodol i argymell opsiwn a ffafrir er mwyn cyflawni
swyddogaeth 'Llesiant Economaidd', a fydd yn cynnwys yr opsiwn i drosglwyddo
staff sy'n gysylltiedig â Swyddfa Portffolio gyfredol Uchelgais Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC). PENDERFYNIAD Derbyniwyd cymeradwyaeth
ar gyfer model cyflawni'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ar gyfer swyddogaethau
statudol. Cymeradwywyd y strwythur staffio cychwynnol a nodir
yn Atodiad 2 o’r adroddiad. Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr dros
dro y CBC, mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, ac yn
unol â Datganiad Polisi Tâl y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac mewn perthynas â’r
swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth i: ·
Gwblhau'r Swydd Ddisgrifiadau angenrheidiol ar gyfer y swyddi ·
Gadarnhau'r raddfa gyflog sydd wedi'i harfarnu ·
Hysbysebu a recriwtio i'r swyddi Cymeradwywyd trosglwyddo'r gyllideb staffio
trafnidiaeth sy'n weddill sy'n cyfateb i 1 x Swyddog Trafnidiaeth FTE a
gymeradwywyd ym mis Ionawr i gostau sy'n gysylltiedig â gofynion ymgynghorol y
broses Cynllunio Trafnidiaeth Ranbarthol. Cytunwyd i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig dderbyn papur
yn y dyfodol i argymell opsiwn a ffafrir er mwyn cyflawni swyddogaeth 'Llesiant
Economaidd', a fydd yn cynnwys yr opsiwn i drosglwyddo staff sy'n gysylltiedig
â Swyddfa Portffolio gyfredol Uchelgais Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer model cyflawni’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer swyddogaethau statudol, ‘dyletswyddau ar
unwaith’ â nodwyd yn y ddeddfwriaeth. Nodwyd bod y model
arfaethedig wedi ei amlinellu yn Atodiad 2 yn cynnwys capasiti
Rheoli Strategol i oruchwylio’r rhaglen waith yn ogystal ag arbenigwyr
proffesiynol yn y maes Trafnidiaeth a Chynllunio. Eglurwyd, yn
nhermau Trafnidiaeth, y dylai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig baratoi a chyflwyno
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fyddai yn nodi gweledigaethau, blaenoriaethau
ac yr amcanion ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth. Nodwyd y dylai’r Cynllun
ystyried polisïau a strategaethau Cenedlaethol yn ogystal ag anghenion lleol.
Rhagwelwyd y byddai’r Cynllun yn cymryd oddeutu 18 mis i’w gwblhau cyn cael ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu
cymeradwyaeth gyda’r bwriad o’i weithredu yn 2025. O ran Cynllunio,
nodwyd bod y Cynllun Datblygu Strategol yn gynllun mwy hirdymor. Eglurwyd y
bydd yn gosod gweledigaeth, amcanion a pholisïau ar gyfer defnyddio tiroedd ac
adeiladau mewn ardal neu ranbarth penodol. Rhagwelwyd y bydd y gwaith o baratoi
Cynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol yn cymryd o leiaf 5 mlynedd. Ychwanegwyd
bod y Gwerthusiad Opsiynau sydd wedi ei nodi yn Atodiad 1 yn ceisio pennu’r
ffordd ymlaen. Nodwyd bod y
goblygiadau ariannol eisoes wedi eu cyfarch ers y cyfarfod 13 Ionawr 2023 o’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig ble cymeradwywyd y gyllideb oedd ei angen ar gyfer recriwtio.
Ategwyd bod yr argymhelliad i recriwtio’n uniongyrchol i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd wedi ei gynllunio a’i ystyried o fewn y cyllidebau sydd
wedi eu cymeradwyo. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd am y cyflwyniad a
mynegwyd parodrwydd i gefnogi’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
DATGANIAD POLISI TÂL 2023-24 PDF 218 KB I fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl
Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC). PENDERFYNIAD Cytunwyd i fabwysiadu datganiad
polisi tâl Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig fabwysiadu datganiad
Polisi Tâl ar gyfer 2023/24. Eglurwyd ei bod yn ddyletswydd statudol ar bob
awdurdod cyhoeddus i fabwysiadu datganiad polisi tâl yn flynyddol. Nodwyd bod y
Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 ynghlwm â’r adroddiad ac yn hawdd i’w ddeall;
ychwanegwyd mai mater technegol yw’r eitem hon. |