Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gan egluro fod Richard Weigh yn dirprwyo. Nodwyd fod Annwen Morgan (Cyngor Sir Ynys Mon) yn ymddiheuro ond fod Marc Jones yn dirprwyo ar ei rhan, a derbyniwyd ymddiheuriad gan Emyr Williams (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) . |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEB 2022/23 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AR ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL PDF 771 KB Cymeradwyo
Cyllideb 2022/23 ar gyfer CBC a chymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau
cyfansoddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd Cyllideb o ddim gwariant ar gyfer 2021/22 ac felly ni chodir
ardoll. Cymeradwywyd Cyllideb 2022/23 ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y
Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad, gyda chyfansymiau: ·
Cynllunio
Strategol £87,950 (pleidlais 1) ·
Swyddogaethau
Eraill y CBC yn cynnwys Trafnidiaeth £274,310 (pleidlais 2) Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, wedi’i ddosrannu ar
sail y boblogaeth perthnasol,
gyda’r symiau fel y’i cyflwynir isod: ·
Cynllunio
Strategol (pleidlais 3) ·
Swyddogaethau
eraill (pleidlais 4)
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor). PENDERFYNIAD Cadarnhawyd Cyllideb o ddim gwariant ar gyfer 2021/22 ac felly ni chodir ardoll.
Cymeradwywyd Cyllideb 2022/23 ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad, gyda chyfansymiau: · Cynllunio Strategol £87,950 (pleidlais 1) · Swyddogaethau Eraill y CBC yn cynnwys Trafnidiaeth £274,310 (pleidlais 2)
Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, wedi’i ddosrannu ar sail y boblogaeth perthnasol, gyda’r symiau fel y’i cyflwynir isod: · Cynllunio Strategol (pleidlais 3) · Swyddogaethau eraill (pleidlais 4)
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofyniad statudol i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig gymeradwyo ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf, sef 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Nodwyd fod angen penderfyniad cynnar oherwydd yr angen i roi ardoll ar gynghorau sir cyn i’r rheiny osod cyllidebau eu hunain. Mynegwyd fod y gyllideb wedi ei seilio ar y ‘swyddogaethau cychwynnol’ y Cyd-Bwyllgor ac amlygwyd y ddau gynllun statudol. Eglurwyd fod angen i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2023, tra fod yr ail gynllun statudol, Cynllun Datblygu Strategol, gydag amserlen hwy. Nodwyd fod y gyllideb yn adlewyrchu’r amserlen hwn. Ychwanegwyd fod y gyllideb am eleni yn parhau i gadw cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar wahân i’r Cyd-Bwyllgor. Eglurwyd fod hyn er fod y 6 awdurdod wedi cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor ymhen amser ond fod angen cytuno ar gytundeb llywodraethu pendant. Tynnwyd sylw at benawdau’r gyllideb gan nodi o dan gyllideb gweithwyr ei fod wedi ei seilio ar isafswm staff er mwyn cynhyrchu’r gwaith ar gyfer y cynlluniau. Eglurwyd y bydd angen mwy o swyddogion yn y pendraw ond fod isafswm am gael ei cyllido yn y cyfnod byr. Mynegwyd o ran y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fod swm o arian yno ar gyfer ymgynghorwyr. Pwysleisiwyd y bydd angen penodi ymgynghorwyr i symud y gwaith ymlaen os am lwyddo i gynhyrchu’r gwaith erbyn Gorffennaf 2023. Nodwyd fod y gyllideb wedi ei greu ar y cyd gyda Trysoryddion yr holl awdurdodau ac wedi ei nodi ar sail isafswm ymarferol, a gobeithir na fydd angen cyflwyno cyllideb atodol eleni. Ychwanegwyd fod y cyfraniadau o’r holl awdurdodau wedi ei gosod ar sail garn o’r boblogaeth. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd dealltwriaeth i’r penderfyniad a ofynnwyd amdano i’r eitem hon gan holi os oes gan yr aelodau hawl dirprwyedig gan eu Awdurdodau i wneud penderfyniad am y gyllideb. Eglurwyd eu bod, fel Arweinyddion eu hawdurdodau, wedi eu penodi fel Aelodau i’r Cyd-Bwyllgor ac o ganlyniad fod ganddynt hawl statudol i weithredu fel aelodau llawn gyda hawliau gweithredol o’r Cyd-Bwyllgor ac nid yn ddirprwyedig o’i Awdurdodau. ¾ Holwyd, os yn cytuno ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |