Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad i'r cyfarfod cysylltwch â ni
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD 2022/23 I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn
Gadeirydd Cydbwyllgor Rhanbarth y Gogledd Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor ar
gyfer 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD 2022/23 I ethol Is-Gadeirydd
ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y Cyng. Marc Pritchard yn
Is-gadeirydd Cydbwyllgor Rhanbarth y Gogledd Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cyng. Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor
ar gyfer 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Ian Roberts
(Cyngor Sir y Fflint), Emyr Williams (Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri)
ond nodwyd fod Iwan Jones yn dirprwyo ar ei ran, a Dewi Morgan (Swyddog Adran
151). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan Iwan Evans a Dafydd Gibbard ar gyfer eitem 9: Strwythur y Sefydliad a Staffio. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL PDF 131 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd
blaenorol a gynhaliwyd ar 14 ac y 28 Ionawr 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr 14eg a’r 28ain o Ionawr 2022 fel rhai cywir. |
|
MATERION CYFANSODDIADOL PDF 327 KB Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC ac Iwan Evans, Swyddog Monitro'r CBC i gyflwyno adroddiad ar faterion cyfansoddiadol y Cyd-Bwyllgor. Penderfyniad: 1.
Cytunwyd i
sefydlu Is-Bwyllgor Cynllunio Strategol ac Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a
chymeradwywyd yr aelodaeth a’r hawliau pleidleisio canlynol –
i)
Is-bwyllgor Cynllunio
Strategol gyda 7 aelod â phleidlais, un o bob un o'r awdurdodau cyfansoddol (6
Chyngor ac APCE).
ii)
Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol gyda 6 aelod â phleidlais, un o bob un o'r 6 Chyngor.
iii)
Aelodaeth yr
Is-bwyllgor Cynllunio Strategol i gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob
Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Cynllunio, a
chynrychiolydd APCE.
iv)
Aelodaeth yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob
Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Trafnidiaeth. 2.
Cadarnhawyd yr 22
Gorffennaf fel dyddiad nesaf y Cyd-Bwyllgor a cadarnhawyd y bydd holl
gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor yn cael ei cynnal yn rhithiol am y tro. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor). PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y penderfyniad sef i sefydlu dau is-bwyllgor ar gyfer
Cynllunio Strategol ynghyd â Thrafnidiaeth, ac i ofyn am adroddiad pellach ar
Gylch Gorchwyl a Rheolau Sefydlog yr Is-bwyllgorau i’r cyfarfod nesaf. Nodwyd yn
ogystal i ohirio sefydlu’r Is-Bwyllgorau Safonau a Llywodraeth ac Archwilio hyd
nes y bydd cadarnhad o’r gofynion statudol. Eglurwyd fod y
darlun o ran strwythur yr Is-bwyllgorau wedi parhau yr un strwythur ers yr
adroddiad safonol a gyflwynwyd i’r chwe Cyngor a’r Parc yn ôl ym mis Rhagfyr
2021. Amlygwyd fod y strwythur yn un ar gyfer y dyfodol ac mai dim ond
penderfynu ar sefydlu dau o’r is-bwyllgorau mae’r Cyd-bwyllgor yn y cyfarfod
hwn. Mynegwyd drwy wneud hyn fod y Cyd-bwyllgor yn gosod fframwaith ar gyfer
cyflawni eu dyletswyddau cychwynnol. Ychwanegodd y
Swyddog Monitro mai hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyd-Bwyllgor gytuno ar y fframwaith
ar gyfer is-bwyllgorau ynghyd a’r aelodaeth.
Eglurwyd fod
sefyllfa’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn eitem i’w drafod yn
ystod tymor yr hydref. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾
Diolchwyd am y gwaith a cefnogwyd y cynnig a
wnaethpwyd. ¾
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cyfarfodydd barhau yn rhithiol ar hyn o bryd. |
|
DATGANIAD POLISI TÂL 2022/23 PDF 141 KB Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd i gyflwyno datganiad polisi tâl y Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i fabwysiadu
datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2022/23. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen (Pennaeth Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd). PENDERFYNIAD Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar gyfer 2022/23. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn hunan eglurhaol.
Mynegwyd ei bod yn ddyletswydd i’r Cyd-Bwyllgor fod yn mabwysiadu polisi tal yn
flynyddol. Eglurwyd mai polisi tâl Cyngor Gwynedd sydd wedi’i fabwysiadu ar
gyfer cyflogi staff “Uchelgais Gogledd Cymru” ac fod adroddiad arall ar y
rhaglen yn argymell ymestyn y trefniadau presennol i Cyngor Gwynedd ddarparu
gwasanaethau cefnogol i’r Cydbwyllgor am gyfnod dros-dro, am y rheswm hyn
cynigwyd defnyddio addasiad o bolisi tâl Cyngor Gwynedd ar gyfer 2022/23. |
|
STRWYTHUR Y SEFYDLIAD A STAFFIO PDF 235 KB Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno adroddiad sydd yn ymdrin ag (ail)benodi swyddogion statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), darparu gwasanaethau cefnogol craidd a'r trefniadau i gyflogi staff i ymgymryd â'r dyletswyddau Cynllunio a Thrafnidiaeth. Penderfyniad: Cytunwyd i ail-benodi Dafydd
Gibbard yn Brif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor ar sail dros dro hyn nes y bydd y
swydd yn cael ei hadolygu eto. Cytunwyd i ail-benodi Dewi
Morgan yn Brif Swyddog Cyllid a Iwan Evans yn Swyddog Morntiro a Swyddog
Priodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor. Cytunwyd i barhau gyda’r
trefniadau sydd yn bodoli yn barod i Gyngor Gwynedd darparu gwasanaeth
cefnogdol i’r Cyd-Bwyllgor, o leiaf hyd at ddyddiad trosglwyddo’r Bwrdd
Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor, neu pan fydd Partneriaid i “GA2” y Bwrdd Uchelgais
yn cytuno i fodel amgen. Mabwysiadwyd Amodau a Thelerau cyflogaeth Cyngor Gwynedd i
ddechau, yn wrthredol o ddyddiad yr adroddiad hwn fel ei delerau ac amodau
cyflogaeth i’r staff. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect
y Cyd-Bwyllgor). PENDERFYNIAD Cytunwyd i ail-benodi Dafydd Gibbard yn Brif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor ar
sail dros dro hyn nes y bydd y swydd yn cael ei hadolygu eto. Cytunwyd i ail-benodi Dewi Morgan yn Brif Swyddog Cyllid a Iwan Evans yn
Swyddog Monitro a Swyddog Priodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor. Cytunwyd i barhau gyda’r trefniadau sydd yn bodoli yn barod i Gyngor
Gwynedd darparu gwasanaeth cefnogol i’r Cyd-Bwyllgor, o leiaf hyd at ddyddiad
trosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor, neu pan fydd Partneriaid i
“GA2” y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i fodel amgen. Mabwysiadwyd Amodau a Thelerau cyflogaeth Cyngor Gwynedd i ddechau, yn
weithredol o ddyddiad yr adroddiad hwn fel ei delerau ac amodau cyflogaeth i’r staff. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi er fod yr adroddiad yn argymell
penderfynu ar dair swydd Cynllunio ynghyd â dwy swydd Trafnidiaeth eglurwyd fod
angen trafodaeth pellach cyn gwneud penderfyniad ar y swyddi yma ac felly
tynnwyd rhan berthnasol o’r argymhellion yn ôl i’w trafod y cyfarfod nesaf. O ganlyniad nodwyd mai gofyn mae’r adroddiad i ail benodi swyddogion
Gwynedd ar sail dros dro sef y Brif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog
Monitro a Swyddog Priodoldeb ynghyd â darparu gwasanaethau cefnogol i’r
Cydbwyllgor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Cefnogwyd y cynnig i dynnu yn ôl yr
argymhellion swyddi. ¾ Diolchwyd i staff
Gwynedd am gymryd y rôl i arwain ar gwaith o sefydlu’r Cydbwyllgor, gan fod
maint yn y gwaith yn sylweddol er mwyn creu corff biwrocrataidd. |