Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan: ·
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor
Gwynedd) ·
Y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Môn) gyda’r
Cynghorydd Robin Williams yn dirprwyo. ·
Iwan Evans (Swyddog Monitro) ·
Iwan Jones (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 158 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 6ed o Fedi, 2024 fel rhai
cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2024 fel rhai
cywir. |
|
DIWEDDARIAD CYNNYDD AR SEFYDLU'R CBC PDF 365 KB Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: 1.
Derbyn
y diweddariad, y cynnydd sydd wedi'i wneud ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig y
Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC, ond yn cydnabod yr her a'r rhesymau a
amlinellir dros yr oedi, a fydd yn effeithio ar y cynlluniau presennol i
drosglwyddo ar 1 Tachwedd, 2024. 2.
Cyfarwyddo
cyflwyno adroddiad pellach ar nodi dyddiad trosglwyddo diwygiedig a'i gefnogi
gan asesiad risg cynhwysfawr a chynllun manwl. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC. PENDERFYNWYD: 1.
Derbyn
y diweddariad, y cynnydd sydd wedi'i wneud ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig y
Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC, ond yn cydnabod yr her a'r rhesymau a
amlinellir dros yr oedi, a fydd yn effeithio ar y cynlluniau presennol i
drosglwyddo ar 1 Tachwedd, 2024. 2.
Cyfarwyddo
cyflwyno adroddiad pellach ar nodi dyddiad trosglwyddo diwygiedig a'i gefnogi
gan asesiad risg cynhwysfawr a chynllun manwl. TRAFODAETH Darparwyd
crynodeb o’r adroddiad oedd yn diweddaru aelodau’r CBC ar y cynnydd sydd wedi’i
wneud i sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig, sy’n cynnwys trosglwyddo’r Cynllun
Twf, ei gyllid a’r Swyddfa Rheoli Portffolio. Atgoffwyd
y Cyd-bwyllgor o’r cefndir a’r penderfyniad gwreiddiol a oedd yn benderfyniad
mewn egwyddor gan fod deddfwriaethau sy’n ymwneud â’r CBC yn parhau i
ddatblygu. Nodwyd bod y gwaith yn ymwneud â’r cynllun rhaglen i adnabod a
lliniaru risgiau posib a all effeithio ar y trosglwyddiad ar y 1af o
Dachwedd yn parhau. Soniwyd am y materion cyfreithiol allweddol sy’n cael eu
datblygu fel sydd wedi eu nodi yn rhan 5.2 o’r adroddiad cyn son am yr heriau
all achosi oedi. Cydnabuwyd
y cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud ar y rhan fwyaf o agweddau’r prosiect
ond y bydd y broses yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl a bod cynllunio argyfwng
ar y gweill er mwyn diffinio os fydd modd cyflawni rhai elfennau o’r
trosglwyddiad eleni a’r hyn fyddai’n trosglwyddo yn 2025. Ategwyd ei fod yn
newid cymhleth sydd yn cynnwys trosglwyddo pobl i gorff corfforaethol newydd ac
felly cyfrifoldeb i sicrhau bod y corff hwnnw yn barod i dderbyn y bobl ac i’r
trefniadau gweithio fod yn ddigonol. Diolchodd y Cadeirydd i Brif Weithredwr dros dro’r CBC am yr adroddiad
cynnydd cynhwysfawr gan ddiolch am ei hamynedd wrth geisio trosglwyddo’r
Cynllun Twf. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio’n ofnadwy o
galed i gyrraedd y targedau. Gobeithir gallu cyrraedd y targed o ran y dyddiad
anelir amdano ond cydnabuwyd y gallai hyn fod yn heriol a dyna pam bod angen
dyddiad trosglwyddo diwygiedig wrth gefn. Nodwyd bod yr adroddiad yn un clir ac yn manylu ar y gwahanol bryderon
a’r cymhlethdodau amrywiol sydd ynghlwm â’r broses o sefydlu’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. |
|
IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL - AELODAETH GYFETHOLEDIG PDF 207 KB Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo penodi'r aelodau cyfetholedig a ganlyn (heb bleidlais) i
Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol y CBC: •
Cynrychiolydd Parc Cenedlaethol Eryri •
Cynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Claire Incledon (Cyfreithiwr a’n dirprwyo i’r Swyddog Monitro). PENDERFYNWYD
cymeradwyo penodi'r aelodau cyfetholedig a ganlyn (heb bleidlais) i
Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol y CBC: •
Cynrychiolydd Parc Cenedlaethol Eryri •
Cynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi bod cyfarfod cyntaf Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol y
CBC wedi ei gynnal ar y 1af o Hydref. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn
gofyn am gymeradwyaeth i benodi dau aelod cyfetholedig i’r Is-bwyllgor sef
Cynrychiolydd Parc Cenedlaethol Eryri a Chynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru. Tynnwyd
sylw at un gwall yn yr adroddiad oedd yn argymell y byddai’r penodiadau yn
weithredol am gyfnod cychwynnol tan 31 Mawrth 2025; nodwyd mai tan 31 Mawrth
2026 yw’r cyfnod cywir. Nid
oedd unrhyw gwestiynau na sylwadau pellach. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL - ADRODDIAD CWMPASU ARFARNU LLES INTEGREDIG PDF 217 KB Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) i
gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a chymeradwyo Adroddiad Cwmpasu IWBA, gan gynnwys yr atodiadau
technegol (ar gael ar gais), sy’n rhaid eu paratoi i gefnogi'r CTRh, fel yr
argymhellwyd gan yr Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol.
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC. PENDERFYNWYD
derbyn a chymeradwyo Adroddiad Cwmpasu IWBA, gan gynnwys yr atodiadau
technegol (ar gael ar gais), sy’n rhaid eu paratoi i gefnogi'r CTRh, fel yr
argymhellwyd gan yr Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r gwaith i ddatblygu Adroddiad Cwmpasu Arfarniad
Lles Integredig (IWBA) sy’n ofynnol er mwyn i’r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol
alluogi’r CBC i gyflawni ei ddyletswyddau statudol. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol a Chynllun Cyflawni
Trafnidiaeth Ranbarthol erbyn 31 Mawrth 2025. Adroddwyd bod yr IWBA yn gam
hanfodol yn y cynllun map ffordd a bod yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn
ei gyfarfod ar y 1af o Hydref wedi mabwysiadu adroddiad Cwmpasu IWBA
ac yn argymell bod y CBC yn cymeradwyo’r camau i fynd â’r gwaith ymlaen i’r
cyfnod ymgynghori cwmpasu. Darparwyd
y cefndir a’r ystyriaethau perthnasol fel sydd wedi eu nodi yn rhan 4 o’r
adroddiad. Amlygwyd bod atodiadau technegol ar gael ar gais, nodwyd nad ydynt
wedi eu cynnwys efo’r adroddiad. Diolchwyd
i Brif Weithredwr dros dro'r CBC am yr adroddiad. |
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM PDF 345 KB Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC), Ian Bancroft (Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Neal Cockerton (Prif Weithredwr, Cyngor Sir y Fflint) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC. PENDERFYNWYD
derbyn
yr adroddiad. TRAFODAETH Nodwyd bod yr
adroddiad yn un ar y cyd rhwng Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistrefol Sirol
Wrecsam, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint a Prif Weithredwr dros dro’r CBC.
Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd
y Parth Buddsoddi newydd yn Sir y Fflint a Wrecsam sy’n canolbwyntio ar
Weithgynhyrchu Uwch. Amlygwyd bod y Parth Buddsoddi yn canolbwyntio ar
fuddsoddiadau yn Sir y Fflint a Wrecsam ond disgwylir iddo gael effeithiau
buddiol ehangach ar draws y Gogledd. Adroddwyd bod cynnydd da yn cael ei wneud ar ddatblygiad Porth 2 a bod
y ddogfen Porth 2 ddrafft wedi ei pharatoi ar gyfer ei hadolygu’n ffurfiol gan
y Llywodraeth. Nodwyd bydd Porth 3 yn dilyn diwedd mis Tachwedd unwaith y bydd
Porth 2 wedi cael ei gymeradwyo. Nodwyd bod yr
adroddiad yn rhoi trosolwg o Safleoedd Treth arfaethedig ac eglurwyd y gall y
Parth Buddsoddi gael tri Safle Treth, hyd at 200ha yr un. Cyfeiriwyd ar ran 5
o’r adroddiad oedd yn manylu ar y Safleoedd Treth a’u buddion gan nodi bod
potensial i gefnogi dros 6,400 o swyddi newydd. Nodwyd y bydd adroddiad pellach
efo mwy o fanylion a chrynodeb o’r cyfle i ddilyn ar ôl i waith pellach gael ei
wneud. Soniwyd am
strwythur cyflawni ac adnoddau’r Tîm Parth Buddsoddi a chyfeiriwyd at yr
enghraifft o strwythur arfaethedig y tîm a nodwyd yn rhan 9.4 o’r adroddiad. Diolchwyd i Brif
Weithredwr dros dro’r CBC am y diweddariad a’r cyflwyniad gan nodi fod yr
adroddiad yn un cynhwysfawr. Mynegwyd diolchiadau hefyd i’r ddau Awdurdod Lleol
sydd yn cydweithio gan nodi fod hyn yn elfen bwysig a diolchwyd i awduron yr
adroddiad. Mynegwyd fod y
gwaith i weld yn symud yn ei flaen yn sydyn a datganwyd balchder am yr hyn sydd
wedi ei gyflawni hyd yma. Credwyd bod rhyngweithio da gyda Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU i yrru’r cynllun yn ei flaen, nodwyd bod hyn yn rhywbeth
positif ac yn angenrheidiol. Mynegwyd balchder
o weld safle Warren Hall yn yr adroddiad ac ymfalchïwyd bod rhywbeth bellach yn
cael ei wneud yma. Datganwyd fod y datblygiad yn ddarn cyffrous o waith, nodwyd
bod yr agwedd o greu swyddi a’r agweddau o dwf economaidd yn enfawr ac yn rhywbeth
i fod yn falch ohono. |