Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2025 fel rhai cywir. |
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - DIWEDDARIAD AR GYNNYDD A CHYMERADWYAETH PORTH Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC), Neal Cockerton (Prif Weithredwr, Cyngor Sir y Fflint), Alwyn Jones (Prif Weithredwr Dros Dro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Iain Taylor (Ymgynghorydd Arweiniol – Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r dyraniadau ariannol a gynigir
yn Atodiad 1. Dirprwyo Prif Weithredwr Dros Dro y CBC a’r
Swyddog S151, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y CBC, gyda
Chynghorau Wrecsam a Sir y Fflint i gytuno ar unrhyw fan addasiadau i'r
dyraniadau sy'n codi o baratoi cyflwyniad Porth 4. Er mwyn osgoi amheuaeth,
"man addasiadau" yw'r rheini lle nad oes newid o fwy na 10% i gyllid
unrhyw bennawd a gytunwyd arno, ac nid ydynt yn cynnwys symudiad rhwng cyllid
cyfalaf a refeniw. Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn a gofyn
bod y Pyrth sy'n weddill (4 a 5) yn cael eu cyflwyno am gymeradwyaeth, ynghyd â
phenderfyniad terfynol ar gynnig y Parth Buddsoddi mewn cyfarfod yn y dyfodol,
unwaith mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) a'r Pyrth wedi'u cytuno gyda
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. |
|
TROSGLWYDDO'R CYNLLUN TWF I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Alwen
Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iwan
Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyn y diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud i baratoi ar gyfer
trosglwyddiad arfaethedig y Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC ar 1 Ebrill,
2025. Cyflwyno adroddiad penderfynu pellach i gyfarfod nesaf y CBC ar 21
Mawrth, 2025 i ddarparu ei benderfyniad ffurfiol i dderbyn y trosglwyddiad ac
ymrwymo i'r cytundeb Cyflawni ac Ariannu ar gyfer trosglwyddo'r Cynllun Twf i'r
CBC. |