Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dylan Williams (Cyngor Sir Ynys Môn), Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint), ac Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych) oherwydd ei fod yn ffrind personol i un o’r ymgeiswyr.

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y drafodaeth.

 

Nododd yr Aelodau a’r Prif Swyddogion eraill eu bod yn adnabod rhai o’r ymgeiswyr mewn cyd-destun proffesiynol, ond nid yn bersonol.

 

 

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys

gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

5.

PENODI PRIF WEITHREDWR AR GYFER Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG - TYNNU RHESTR FER

Tynnu rhestr fer i benodi Prif Weithredwr ar gyfer Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

 

(Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR RESTR FER CYFWELIADAU PRIF WEITHREDWR   CYD-BWYLLGOR CORFFOEDIG Y GOGLEDD

 

 

 

Cofnod:

 

 

Adroddodd Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd) bod deg cais wedi ei dderbyn am y swydd gyda phedwar yn cyfateb yn llawn i feini prawf hanfodol gofynion y swydd.

 

Argyhoeddwyd yr Aelodau bod y swydd wedi ei hysbysebu yn ddigonol a bod yr ystod eang o ymgeiswyr yn tystiolaethu hyn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer.

 

PENDERFYNWYD:

 

RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI PRIF WEITHREDWR AR GYFER CYDBWYLLGOR CORFFOREDIG

 

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygwyd y byddai’r ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion ar-lein a chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu yn cael ei chynnal, ynghyd a threfniadau asesu pellach o dan arweiniad yr Awdurdod Lletyol. Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn yr ymarferion a’r ganolfan asesu yn cael eu cyflwyno ar lafar i’r Cydbwyllgor Corfforedig ar ddiwrnod y cyfweliadau.

 

Trafodwyd testun cyflwyniad 10 munud i’r ymgeiswyr ynghyd a chwe cwestiwn (drafft) ar gyfer y cyfweliadau. Yn dilyn yr adborth a dderbyniwyd, adroddwyd y bydd fersiwn derfynol o’r cwestiynau yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau cyn diwrnod y cyfweliadau.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am y gwaith trylwyr ac am gwblhau’r broses yn unol â’r drefn.