Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Mark Pritchard
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Cadeirydd), Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys
Môn), Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr – Cyngor Gwynedd), Alwyn Jones (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam), a Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Gorffennaf 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2025 fel rhai cywir. |
|
|
SEFYLLFA REFENIW 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD GORFFENNAF 2025. Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y
CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025 ar
gyfer y CBC. Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025 ar
gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf), gan gynnwys y sefyllfa
cronfeydd wrth gefn a chymeradwyo'r trosglwyddiad unwaith ac am byth yn y
gyllideb sy'n ymwneud ag incwm a gwariant grant. Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025 ar
gyfer y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid
(Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid. PENDERFYNWYD: Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025 ar
gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC). Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025 ar
gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf), gan gynnwys sefyllfa
cronfeydd wrth gefn a chymeradwyo'r trosglwyddiad unwaith ac am byth yn y
gyllideb sy'n ymwneud ag incwm a gwariant grant. Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025 ar
gyfer y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. TRAFODAETH Cyflwynwyd adolygiad amcan sefyllfa refeniw y CBC gan
gynnwys penawdau ar wahân ar gyfer Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Parth Buddsoddi.
Nodwyd bod proffil rhaglen gyfalaf y Cynllun Twf wrthi’n
cael ei adolygu ar hyn o bryd a hynny’n dilyn yn sgil rai cynlluniau’n cael eu
tynnu allan a chynlluniau newydd yn cael eu hychwanegu o’r rhestr wrth gefn.
Bydd y gwaith yma yn cael ei adrodd fel rhan o’r Achos Busnes Portffolio ym mis
Rhagfyr ac yna fel rhan o’r adolygiad ariannol chwarter tri. Ymhelaethwyd bod amcan o danwariant o £411 mil ar gyfer y
CBC. Nodwyd fod hyn yn bennaf oherwydd tanwariant mewn gwariant gweithwyr,
yswiriant, systemau a gwasanaethau cefnogol, yn ogystal â grant gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac incwm llog. Yn ogystal, nodwyd bod amcan o danwariant o £280 mil ar
gyfer y Cynllun Twf. Eglurwyd fod hyn yn bennaf oherwydd tanwariant mewn
gwariant gweithwyr, swyddi llywodraeth ychwanegol a gwasanaethau cefnogol y
corff atebol. Cydnabuwyd llwyddiant gyda’u cais Cronfa Ffyniant Gyffredin, sydd
wedi cyfrannu ymhellach at y tanwariant mewn gwariant gweithwyr. Adroddwyd fod grant o £177 mil gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
y Cynllun Ynni a £444 mil o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu cynnwys yn y
gyllideb yng ngholofn Trosglwyddiad
unwaith ac am byth. Ychwanegwyd amcan o falensau'r cronfeydd ar 31 Mawrth 2026,
gan nodi eu bod yn rhagweld y bydd angen benthyca yn ystod y flwyddyn ariannol
nesaf er mwyn ariannu'r Cynllun Twf, ac felly bydd y costau yma yn cael eu
hariannu o’r gronfa llog. Nodwyd dadansoddiad o’r gwariant ar y Partneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol; ymhelaethwyd fod y gwariant yma yn cael ei ariannu gan
grant Llywodraeth Cymru o £290 mil a £12 mil o’r gronfa wrth gefn. Diolchwyd am yr adroddiad. |
|
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL Alwen
Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a chymeradwywyd y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
y CBC. PENDERFYNWYD Derbyniwyd a chymeradwywyd y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol yn amlinellu fod trefniadau llywodraethu carn yn eu lle,
yn gadarn, tryloyw ac wedi ei seilio ar arfer gorau. Amlygwyd fod trefniadau a
phrosesau yn cael eu haddasu’n barhaus a bod lle i ddatblygu ymhellach. Amlygwyd fod wedi ei dderbyn gan y Swyddog Monitro a’r
Swyddog Cyllid Statudol. Diolchwyd am yr adroddiad a thynnwyd sylw at ran 6 o’r
adroddiad - Rheoli Risgiau, Perfformiad a Chyllid gan nodi fod rheoli risgiau
yn holl bwysig fel corff cyhoeddus. Er hyn, mynegwyd mai’r prif risg yw bod yn
rhy gadarn ac i sicrhau balans rhwng gwario arian a rheoli risg. Ymatebwyd drwy
nodi fod yr adroddiad yn cydnabod ble mae’r Cydbwyllgor heddiw, ac yn nodi sut
i symud yn eu blaen. Tynnwyd sylw at yr argymelliadau i lyfnhau eto er mwyn
cael cydbwysedd rhwng risg a gwariant gan fod prosiectau angen symud yn gyflym.
Gofynnwyd fod cynlluniau sydd ddim yn cyrraedd y gofynion yn dod yn ôl at y
Bwrdd am drafodaeth yn syth. |
|
|
LLYWODRAETHU’R CBC: IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD CYLCH GORCHWYL DIWYGIEDIG Iwan Evans,
Swyddog Monitro, i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cylch Gorchwyl diwygiedig a'r dirprwyaethau
ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro
(Swyddog Monitro Statudol y CBC). PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd y Cylch Gorchwyl diwygiedig a'r dirprwyaethau
ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. TRAFODAETH Cyflwynwyd bod y CBC wedi datblygu trefniadau Parth
Buddsoddiad ac wedi adeiladu trefniadau llywodraethu dros y misoedd diwethaf.
Atgoffwyd yr aelodau eu bod wedi adnabod fframwaith llywodraethu yng nghyfarfod
mis Tachwedd, a olygai y byddai’r Is-bwyllgor Lles Economaidd yn dod yn gorff
arweiniol o ran gweinyddu a chefnogi cyflawni y Parth Buddsoddi. Nodwyd bod yr
adroddiad hwn yn argymell newidiadau i Gylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor Lles
Economaidd, er mwyn ymestyn hawliau
dirprwyedig y Cylch, i gwmpasu gwaith cyflawni y Parth Buddsoddi. Nodwyd bod y
newidiadau yn debyg iawn i'r pwerau Cylch Gorchwyl y Cynllun Twf, gyda'r un
math o egwyddorion. Atgyfnerthwyd y bydd y CBC yn cadw’r pwerau sy’n
gysylltiedig â materion cyllidol, polisi staffio, ac yn parhau i ymwneud ag
unrhyw benderfyniadau mawr o gwmpas ymrwymiadau corfforaethol i’r Parth
Buddsoddi. Gofynnwyd am sicrwydd fod yr arian sydd wedi cael eu dyrannu
i’r Parth Buddsoddi yn cael eu gwario yn Wrecsam a Fflint. Cadarnhawyd fod y
Cylch Gorchwyl yn datgan fod y holl Gynllun yn gweithredu o fewn y Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth, y Cytundebau Cyllidol, a'r Cytundeb Partneriaeth.
Ymhelaethwyd bod Cytundeb y Cyd-Awdurdod yn monitro sut mae’r Parth Buddsoddi
yn cael eu gweinyddu a dosbarthu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor
Sir y Fflint, a’r CBC. |
|
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad diweddaru a nodi'r gwaith rhwng tîm y
Parth Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i benderfynu ar ddyraniad
derbyniol o fewn y £160m ar gyfer cost rhyddhad treth sy'n gysylltiedig â
meddiannu a datblygu Safleoedd Treth Parth Buddsoddi. Cymeradwyo'r egwyddorion allweddol a nodir yn y Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) a baratowyd gan Geldards
LLP i gytundeb rhwng y CBC, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam. Cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Ymgynghorol y Parth
Buddsoddi. Cymeradwyo'r aelodau a enwebwyd i Fwrdd Ymgynghorol y Parth
Buddsoddi gan enwebu Aelod o Gyngor y CBC i'w benodi i'r Bwrdd yn unol â'r
Cylch Gorchwyl. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
y CBC ac Iain Taylor, AMION Consulting. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad diweddaru a nodi'r gwaith rhwng tîm y
Parth Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i benderfynu ar ddyraniad
derbyniol o fewn y £160m ar gyfer cost rhyddhad treth sy'n gysylltiedig â
meddiannu a datblygu Safleoedd Treth Parth Buddsoddi. Cymeradwyo'r egwyddorion allweddol a nodir yn y Cytundeb
Rhyng-Awdurdod (IAA) a baratowyd gan Geldards LLP i gytundeb rhwng y CBC,
Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Ymgynghorol y Parth
Buddsoddi. Cymeradwyo'r aelodau a enwebwyd i Fwrdd Ymgynghorol y Parth
Buddsoddi gan enwebu Aelod o Gyngor y CBC i'w benodi i'r Bwrdd yn unol â'r
Cylch Gorchwyl. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
fod yn rhoi diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud ers mis
Gorffennaf. Nodwyd yr angen i gymeradwyo’r egwyddorion allweddol a oedd wedi eu
nodi yn y Cytundeb Rhyng Awdurdod. Amlygwyd Cylch Gorchwyl y Bwrdd Ymgynghorol
y Parth Buddsoddi a fydd yn adrodd ar y cynnydd i’r Is-bwyllgor Lles
Economaidd. Nodwyd yr angen i enwebu un aelod o’r Cydbwyllgor i fod yn
aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol ac awgrymwyd eu bod tu hwnt i aelodau Sir Fflint a
Wrecsam gan eu bod yn rhan ganolog o’r prosiect. Bu i Cyng. Jason McLellan gael
ei benodi gan y Cydbwyllgor. |
|
|
CYTUNDEB CYFLAWNI'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL Alwen
Williams, Prif Weithredwr ac Andy Roberts, Swyddog Cynllunio
Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni Drafft yn dilyn ymgynghori
a’i gymeradwyo fel y Cytundeb Cyflawni Drafft, gan gynnwys y newidiadau a
ddangosir yn yr adroddiad ymgynghori, yn barod i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru,
yn amodol i benderfynu ar y cyllid ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol. Cytunwyd i addasu geiriad yr Adroddiad i amlygu
cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg fel rhan o’r Cynllun Datblygu Strategol,
i sicrhau fod y Gymraeg a’r Saesneg yn cyfartal. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
ac Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni Drafft yn dilyn ymgynghori
a’i gymeradwyo fel y Cytundeb Cyflawni Drafft, gan gynnwys y newidiadau a
ddangosir yn yr adroddiad ymgynghori, yn barod i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru,
yn amodol i benderfynu ar y cyllid ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol (CDS). Cytunwyd i addasu geiriad yr Adroddiad i amlygu
cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg fel rhan o’r Cynllun Datblygu Strategol,
i sicrhau fod y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. TRAFODAETH Cyflwynwyd bod y Cytundeb Cyflawni CDS yn cynnwys gwybodaeth
ar bedwar elfen: sut fydd y CBC yn bwriadu ymgymryd â’r CDS; pwy fydd yn cael
eu cynnwys; yr amserlen; a sut y bydd yn
cael ei gyllido. Bydd y CBC yn adrodd ar y rhain i Lywodraeth Cymru. Ystyriwyd y Cytundeb Cyflawni gan yr Is-bwyllgor Cynllunio
Strategol ar 27 Mehefin ac fe’i hargymhellwyd i’r CBC ar 18 Gorffennaf i’w
cymeradwyo er mwyn cynnal ymgynghoriad. Nodwyd bod cyfnod ymgynghoriad chwe
wythnos wedi cynnal. Eglurwyd fod adroddiad ymgynghori dilynol yn cynnwys tua
18 o ymatebion ffurfiol, a oedd o ansawdd uchel. Mynegwyd bod yr ymatebion yn
cynnig arweiniad defnyddiol, a'u bod yn dangos bwriad i fod yn rhan o’r
broses wrth iddo ddatblygu. Atgoffwyd mai dogfen gweithdrefn yw hon, nid dogfen polisi.
Nodwyd roedd yr ymgynghoriad yn caniatáu i’r tair elfen gyntaf o’r pedair elfen
gael eu trafod a’u cadarnhau, ond nid y bedwaredd elfen, sy’n cyfeirio at
gyllido’r CDS. Byddai’r argymhelliad o ail-gymeradwyo hyn fel Cytundeb Cyflawni
Drafft yn sefydlu safbwynt y Bwrdd ar ôl yr ymgynghoriad a byddai’n caniatáu, o
safbwynt perfformiad, i hawliad gael ei wneud i Lywodraeth Cymru am grant
potensial o £100 mil. Mynegwyd pryder am ddiffyg cydymffurfiaeth â safonau’r iaith
Gymraeg, a oedd wedi’u hamlygu gan Gyngor Gwynedd yn yr ymgynghoriad. Nodwyd
bod y mater wedi cael ei chynnwys yn yr adroddiad ond nad oedd unrhyw
addasiadau wedi’i gwneud. Gofynnwyd am sicrwydd bod y pryderon yn cael eu
hystyried fel y byddai’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn cael eu trin yn
gyfartal. Ar hyn o bryd, mynegwyd fod y cytundeb cyflawni drafft yn dangos bod
y Saesneg yn cael ei drin yn ffafriol, a ddangosir achosion megis gorfod gwneud
cais i dderbyn dogfennau yn Gymraeg a gorfod gwneud cais am gyfieithu ar y pryd
mewn cyfarfodydd. Mynegwyd ymddiheuriadau
a phwysleisiwyd bod safonau’r iaith Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifri.
Cynigiwyd cynnwys gwelliant i ddangos cydymffurfiaeth lawn gyda safonau’r iaith
Gymraeg. |
|
|
Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Andy Roberts, Swyddog
Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cydnabod y materion cyllido a'r opsiynau a nodir yn y
nodyn briffio atodol, ac ystyried yr holl opsiynau i gyllido'r CDS fel rhan o'r
broses o osod y gyllideb, gan gynnwys gwneud sylwadau pellach i Lywodraeth
Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
ac Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD: Ystyried y materion cyllido a'r opsiynau a nodir yn y nodyn
briffio atodol, ac ystyried yr holl opsiynau i gyllido'r CDS, fel rhan o'r
broses o osod y gyllideb, gan gynnwys gwneud sylwadau pellach i Lywodraeth
Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn
dangos sut mae modd cyflawni’r cynllun, ei gost ac i adnabod ffyrdd i gwrdd â’r
diffyg ariannol. Amcangyfrifir dros y 5 mlynedd nesaf y bydd y gost oddeutu
£3.27m. Nodwyd bod y CBC wedi mynd ati i osod cyllideb cychwyn gwaith ar y
Cynllun Datblygu Strategol yn ei gyllideb, rhagdybiwyd oddeutu £431,000 yn
flynyddol dros y 5 mlynedd . Nodwyd nad fyddai hyn yn bodloni’r costau yn
llawn. Pwysleisiwyd nad yw’r adroddiad hwn yn gofyn am arian ychwanegol ond yn
hytrach adnabod fod diffyg yn y gyllideb ac yr angen i ddod o hyd i gwrdd â’r
diffyg. Mynegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod £400k o
bosib ar gael yn y flwyddyn ariannol hon i bob CBC fwrw ymlaen a’r gwaith ar y
Cytundebau Cyflawni. Nodwyd y byddai hyn yn cynnig £100 os yw’n cael ei
ddosbarthu yn gyfartal, ond deallir ei bod yn fwy tebygol o gael ei gynnig i’r CBCau hynny sydd eisoes wedi dechrau gweithio ar eu
Cytundebau Cyflawni. Eglurwyd y bydd £100k yn cael ei roi gan y Llywodraeth pan
fydd y Cytundeb Cyflawni terfynol yn cael ei gyflwyno. Holwyd pam fod y Llywodraeth yn gofyn am gyllideb 5 mlynedd
ond ddim ariannu cynllun yn llawn. Felly holwyd beth fydd yn digwydd mis Ebrill
os arian ddim ar gael, ac os oes arian arth gefn mae modd ei ddefnyddio. Nodwyd
fod tan wariant dan y pennawd Cynllunio Strategol a bod £140k ynddo. Eglurwyd
nad yw’n ddigon ond y gall gyfrannu ato. Amlygwyd fod llawer o’r arian TWF fod
tan wariant ar gyfer y camau cyntaf ac felly fod arian wrth gefn. Pwysleisiwyd yr angen i gadw y lefi i lawr o ran y Cynghorau
a’r Parc yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Nodwyd fod yr angen i gwblhau'r gwaith yma yn statudol ac
felly mae angen rhoi pwysau ar y Llywodraeth i ariannu’n deg. |