Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan: Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Helen White (Cyngor Sir Ddinbych), Neal Cockerton (Cyngor Sir Fflint) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel
y gellr eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad
yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes
unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr
unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r
wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: Penderfynwyd cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.. |
|
|
PENODI CYFARWYDDWR PORTFFOLIO - TYNNU RHESTR FER Tynnu rhestr fer i benodi
Cyfarwyddwr Portffolio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. (Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu
i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)
Penderfyniad: RHOI TRI YMGEISYDD AR RESTR
FER CYFWELIADAU SWYDD Y CYFARWYDDWR PORTFFOLIO. Cofnod: Adroddodd Alwen Williams (Prif Weithredwr) bod 16 cais wedi
dod i lawr. Mynegwyd fod 3 o’r ceisiadau wedi cyrraedd gofynion y swydd. Cynigwyd ac eiliwyd rhoi tri ymgeisydd ar y rhestr fer. PENDERFYNWYD RHOI TRI YMGEISYDD AR RESTR
FER CYFWELIADAU SWYDD Y CYFARWYDDWR PORTFFOLIO. Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygwyd y byddai’r
ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion ar-lein a
chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu yn cael ei chynnal.
Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn yr ymarferion a’r
ganolfan asesu yn cael eu cyflwyno ar lafar i’r Cydbwyllgor Corfforedig ar
ddiwrnod y cyfweliadau. |