Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Adeiladau'r Llywodraeth - Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

·        Cynghorydd Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

·        Cynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd) gyda’r Cynghorydd Medwyn Hughes yn dirprwyo

·        Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

·        Helen White (Cyngor Sir Ddinbych)

·        Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint)

·        Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)

·        Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni chofnodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol yn y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellr eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

Penderfynwyd cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Nodwyd fod y paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

5.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD CYFARWYDDWR PORTFFOLIO CYDBWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd.

Penderfyniad:

Penodi Hedd Vaughan-Evans i’r rôl Cyfarwyddwr Portffolio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Cofnod:

a)     Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda'r Aelodau. Mynegwyd bod un ymgeisydd wedi tynnu ei gais yn ôl oherwydd amgylchiadau personol.

 

b)     Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Portffolio Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

c)     Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad 10 munud ar y testun ‘Beth ydych yn ei weld fel y prif gyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu economi Gogledd Cymru – sut ydych yn gweld y Cynllun Twf yn blaenoriaethu ac yn ymateb i'r cyfleoedd a'r heriau hyn’.

 

Ymatebwyd i chwe cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan yr Arweinyddion, ynghyd a chwestiynau dilynol.

 

ch)       Bu i Alwen Williams adrodd ar ganlyniadau profion seicometreg a gwblhawyd gan yr ymgeiswyr, ynghyd ag adborth o’r ganolfan asesu, fel rhan o’r broses penodi.

 

Cadarnhawyd mai’r matrics sgorio a ddefnyddiwyd yn y ganolfan asesu. Sgoriodd yr Arweinyddion y ddau ymgeisydd ar eu cyflwyniadau a’u  hatebion i’r chwe cwestiwn ffurfiol, a rhoddwyd sgôr cyfartalog i’r ddau ymgeisydd.

 

d)     Cynigwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Hedd Vaughan-Evans.

 

      Pleidleisiwyd ar y cynnig.

 

PENDERFYNWYD PENODI HEDD VAUGHAN-EVANS I’R RÔL CYFARWYDDWR PORTFFOLIO CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD.

 

Diolchwyd i bawb am eu hamser a’u cyfraniadau yn ystod y broses gyfweliadau hon.