Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Goronwy Edwards yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Dave Hughes yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

CYLCH GORCHWYL AR GYFER YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL pdf eicon PDF 169 KB

I adolygu’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cylch Gorchwyl.

 

7.

CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL pdf eicon PDF 187 KB

I ystyrid Aelodaeth yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol.

Penderfyniad:

·       Cyfethol Aelodau (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.

·       Gofyn i’r isod am gynrychiolydd fel yr Aelodau Cyfethol:

o   Parc Cenedlaethol Eryri (unigolyn sydd â chyfrifoldeb am y portffolio trafnidiaeth)

o   Trafnidiaeth Cymru ( unigolyn sydd âchyfrfoldeb dros ranbarth y Gogledd)

 

8.

CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: DIWEDDARIAD CYNNYDD AC ARGYMHELLION pdf eicon PDF 223 KB

I gyflwyno diweddariad ar y gwaith i ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft Gogledd Cymru’.

 

2.     Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

3.     Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys.

 

4.     Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn.

 

9.

CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: ADRODDIAD CWMPASU ARFARNU LLES INTEGREDIG pdf eicon PDF 225 KB

I ddatblygu Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell bod yr Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig (IWBA) gan gynnwys ei Atodiadau’n cael eu mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor gan fod yn rhaid  eu paratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.