Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Dafydd Rhys
Thomas yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd
Dafydd Rhys Thomas yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- · Y Cynghorydd Craig ab
Iago (Cyngor Gwynedd) · Dafydd Wyn Williams
(Cyngor Gwynedd) · Dewi Morgan (Prif
Swyddog Cyllid) · Iwan Evans (Swyddog
Monitro) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS To note any
items that are a matter of urgency in the view of the Chair for consideration. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1
Hydref 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 fel
rhai cywir. |
|
BLAEN GYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL Claire
Incledon (Dirprwy Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
I gytuno ar y Blaen Gynllun Gwaith. ·
Cadarnhau gall y Cadeirydd ddiwygio’r Cynllun er mwyn cymryd
i ystyriaeth newidiadau mewn amserlennu gwaith, yn amodol ar ddod â’r Cynllun i
gyfarfod dilynol yr Is-bwyllgor i’w gytuno. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD · I gytuno ar y Blaen Gynllun
Gwaith. · Cadarnhau gall y Cadeirydd
ddiwygio’r Cynllun er mwyn cymryd i ystyriaeth newidiadau mewn amserlennu
gwaith, yn amodol ar ddod â’r Cynllun i gyfarfod dilynol yr Is-bwyllgor i’w
gytuno. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’r Blaen Gynllun Gwaith yn nodi calendr o gyfarfodydd ar gyfer y
cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2025, ac mae’n cyd-fynd ag amserlennu Llywodraeth
Cymru yn ol yr angen, a gyda dyddiadau cyfarfod y CBC. TRAFODAETH Tywyswyd yr aelodau drwy Blaen Gynllun
gwaith yr Is-bwyllgor, gan egluro ei fod yn amlinellu’r eitemau bydd yn cael eu
cyflwyni o’r Is-bwyllgor dros y flwyddyn nesaf. Eglurwyd bod y Blaen Gynllun
hwn yn cymryd i ystyriaeth yr angen i dderbyn cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor ar
nifer o Adroddiadau tra hefyd yn ystyriol i newidiadau posib i amserlenni.
Ychwanegwyd bod y Blaen Gynllun gwaith wedi cael ei lunio gydag amserlen
Llywodraeth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd mewn golwg. Cadarnhawyd nad yw’r Blaen Gynllun hwn
yn derfynol ac mae’n bosib bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnal er
mwyn cyfarch anghenion anrhagweladwy. Ystyriwyd y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd yr Is-bwyllgor fel
cyfarfodydd aml-leoliad |
|
David Hole
(Rheolwr Rhaglen Gweithreedu y Cyd-bwyllgor Corfforedig)) i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Achos dros Newid
gan gynnwys y Cynllun Ymgysylltu a Rhanddeiliaid fel rhan o Gynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol y Gogledd yn amodol ar argymell i Fwrdd Cydbwyllgor
Corfforedig Y Gogledd eu bod yn gofyn i bob Cabinet priodol edrych ar y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol yn fanylach ac ymateb yn ôl. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Reolwr Rhaglen Gweithredu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Achos dros Newid gan gynnwys y Cynllun
Ymgysylltu a Rhanddeiliaid fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y
Gogledd yn amodol ar argymell i Fwrdd Cydbwyllgor Corfforedig Y Gogledd eu bod
yn gofyn i bob Cabinet priodol edrych ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn
fanylach ac ymateb yn ôl. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021
yn trosglwyddo'r swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth mewn perthynas
ag ardal pob un o'i chynghorau cyfansoddol i'r CBC. Mae datblygu a gweithredu
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn swyddogaeth statudol a weithredir gan y CBC
drwy ei is-bwyllgor, gyda chefnogaeth y Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig
ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol (Fersiwn 2) 2023. Mae'r Achos dros Newid
gan gynnwys y Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn rhan allweddol o'r broses o
ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer rhanbarth y Gogledd. TRAFODAETH Atgoffwyd bod y Cynllun wedi cael i gyflwyno i’r Is-bwyllgor yng nghyfarfod
1 Hydref 2024. Diolchwyd am y gwaith cydweithio clos gyda Trafnidiaeth Cymru ac
ARUP i ddatblygu’r dogfennau. Argymhellwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig Y Gogledd eu
bod yn gofyn i bob Cabinet priodol edrych ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
yn fanylach ac ymateb yn ôl. |