Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sera Jane Whitley  E-bost: sarajanewhitley@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Angela Jones (Parc Cenedlaethol Eryri) gyda Keira Sweenie yn dirprwyo

·         Emlyn Jones (Cyngor Dinbych) gyda Mike Jones yn dirprwyo

·         Iwan Evans (Swyddog Monitro)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 126 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2025 fel rhai cywir.

 

5.

CYFLWYNIAD: MASNACHFREINIO BYSIAU

Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad ar fasnach freinio Bysiau gan Lee Robinson (Trafnidiaeth Cymru).

 

6.

CYFLWYNIAD: RHWYDWAITH GOGLEDD CYMRU

Rhwydwaith Gogledd Cymru i gyflwyno.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad ar Rwydwaith Gogledd Cymru gan Anthony McKenna (Rhwydwaith Gogledd Cymru).

 

7.

CYFLWYNIAD: PANELI YMGYNGHOROL RHWYDWAITH-T

Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno.

Cofnod:

Penderfynwyd gohirio’r diweddariad ar Paneli Ymgynghorol Rhwydwaith-T gan Drafnidiaeth Cymru.

 

8.

CYLCH GORCHWYL AR GYFER YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL pdf eicon PDF 191 KB

Claire Incledon, Dirprwy Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell y newidiadau a ganlyn i'r Cylch Gorchwyl i'r CBC:

 

• Bod y gofyn i gynhyrchu adroddiad cynnydd chwarterol yn cael ei ddisodli gan adroddiadau bob chwe mis.

• Bod gan yr is-bwyllgor y pŵer dirprwyedig i ystyried a gwneud argymhellion i'r CBC ar gyllid trafnidiaeth rhanbarthol ac ymrwymiadau cynlluniau.

 

Cofnod:

Amlygwyd bod y cylch gorchwyl yn nodi bod rhaid i’r Is-bwyllgor adolygu ei gylch gorchwyl yn flynyddol, a bod rhaid argymell unrhyw addasiadau i’r Cydbwyllgor Corfforedig, a’u cymeradwyo ganddo.

 

Eglurwyd bod y cylch gorchwyl yn cynnwys pwerau a ddirprwywyd i’r Is-bwyllgor, a bod rhaid i’r Is-bwyllgor gymhwyso’r rheolau a’r gweithdrefnau hynny fel y’u mabwysiadwyd gan y Prif Gynghorydd Cyffredinol yn eu cylch gorchwyl.

 

Darparwyd cyd-destun ynghylch ar argymhelliad cyntaf. Nodwyd mai natur strategol rôl yr Is-bwyllgor yw adolygu a gwneud argymhellion ar ddatblygu polisi ar sail ranbarthol. Er mwyn monitro’r cynnydd hwn, mae’r Is-bwyllgor yn darparu adroddiadau perfformiad a rheoli i’r CBC ar ffurf adroddiadau chwarterol, ac mae’r rhain yn cynnwys diweddariadau rheolaidd ar reoli adnoddau a datblygu polisi.

 

Eglurwyd bod swyddogion o’r farn bod y gofyniad i gynhyrchu adroddiad chwarterol o dan y cylch gorchwyl presennol yn creu llawer iawn o waith o fewn cyfnod byr, ac felly teimlir ei fod yn tanseilio ei bwrpas gan mai dim ond bob chwarter y mae’r Is-bwyllgor yn cyfarfod. Gofynnwyd i aelodau ystyried yr opsiwn i ddiwygio’r cylch gorchwyl, lle maent ym mabwysiadau adrodd ddwywaith y flwyddyn fel ffordd fwy cynaliadwy o adrodd ar berfformiad a chynnydd i’r CBC.

 

Eglurwyd bod yr ail argymhelliad yn ymwneud â chyflawni diweddar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, sy’n cynnwys ffyrdd newydd o weithio trwy foderneiddio grantiau. Nodwyd bod Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cefnogi datblygiad y rhaglen o gynlluniau i gyflawni’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol trwy flaenoriaethu cynlluniau a chyllid grant.

 

Ymhellach, esboniwyd mai rôl yr Is-bwyllgor ar hyn o bryd yw gwneud argymhellion ar gynlluniau a pholisïau Trafnidiaeth Ranbarthol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gwaith yr Is-bwyllgor yn ystod y flwyddyn drosiannol gyntaf o raglennu grantiau wedi dangos bwlch yn swyddogaethau’r Is-bwyllgor. Esboniwyd, er bod Aelodau’r Is-bwyllgor yn ymwneud â’r broses blaenoriaethu cynlluniau a dyrannu grantiau, nad oes gan yr Is-bwyllgor unrhyw bwerau i wneud argymhellion i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried diwygio’r cylch gorchwyl i gynnwys y pŵer i wneud argymhellion i’r CBC ar gyllid ac ymrwymiadau cynlluniau.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith, a thynnwyd sylw at bwysigrwydd diwygio’r cylch gorchwyl fel y gall yr Is-bwyllgor wneud argymhellion i’r CBC. Nodwyd byddai rhaid i unrhyw argymhellion gael eu hadrodd a’u cymeradwyo gan y CBC yn y cyfarfod ar 23 Ionawr.

 

9.

ADOLYGIAD HUNANASESU BLYNYDDOL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL pdf eicon PDF 178 KB

Claire Incledon, Dirprwy Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Adroddwyd ar unrhyw gasgliadau ac argymhellion sy’n deillio o’r hunanasesiad i’r CBC.

 

Cofnod:

Atgoffwyd yr aelodau bod gwaith yr Is-bwyllgor wedi cychwyn ym mis Hydref 2024 ac ers hynny mae gwaith helaeth wedi’i wneud gan gynnwys adolygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, y cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol, a dogfennau cymeradwyo polisi cysylltiedig.

 

Ymhelaethwyd, ochr yn ochr â’i waith, fod yr Is-bwyllgor wedi elwa o ddigwyddiadau rhwydweithio wyneb i wyneb a sesiynau anffurfiol gyda diweddariadau a chyflwyniadau ar fentrau a chynigion trafnidiaeth genedlaethol a rhanbarthol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod aelodaeth yr Is-bwyllgor yn dod o blith swyddogion gweithredol pob awdurdod lleol, a bod lawer o newidiadau i’r aelodaeth yr Is-bwyllgor wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf.

 

Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r Is-bwyllgor cwblhau hunanasesiad blynyddol o’i weithgareddau, ac fel rhan o’r gwaith hwn, gofynnwyd i’r Aelodau ystyried a ydynt wedi derbyn cefnogaeth briodol a digonol i gyflawni eu rôl, ac os yw cynllun gwaith blynyddol yr Is-bwyllgor yn hylaw. Amlygwyd bod hwn wedi bod yn gyfle i asesu gweithgareddau’r Is-bwyllgor yn benodol. Diolchwyd i’r Aelodau am eu hymgysylltiad.

 

Nodwyd ymhellach bod yr holiadur yn gofyn am waith yr Is-bwyllgor, ac os oedd Aelodau’n teimlo eu bod yn cael cefnogaeth o’r pwynt cyfethol i’w hamser a’u gwaith ar yr Is-bwyllgor. Adroddwyd bod safbwynt y swyddogion yn gadarnhaol bod yr Is-bwyllgor yn cyflawni ei rôl yn briodol gyda’r blaen cynllun gwaith, agendâu, a rhannu gwybodaeth.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu hamser yn paratoi’r adroddiad.

 

10.

CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL - COFRESTR YMRWYMIADAU pdf eicon PDF 199 KB

Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r Gofrestr Ymrwymiadau a’r adroddiad blaen.

 

Cofnod:

Amlygwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys sgôp eang o bolisïau, ac fe’i cefnogir gan y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Eglurwyd nad yw rhai polisïau a dyheadau yn ffitio o fewn y gylch gwaith y mae awdurdodau lleol yn eu datblygu drwy’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol, a darperir y rhain fel diweddariad i aelodau. Ymhelaethwyd bod pethau fel sut mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar rwydweithiau a pholisïau ffyrdd strategol, a phrosiectau eraill fel y Ganolfan Hydrogen yng Nghaergybi, yn cael eu cynnwys. Nodwyd mai bwriad y ddogfen hon yw bod yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei diweddaru yn rheolaidd.

 

Cytunwyd y byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i’r Is-bwyllgor bob chwe mis.