Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Mark Pritchard yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25. COFNODION: PENDERFYNWYD Ethol y
Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. Yn absenoldeb y Cadeirydd, penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. COFNODION: PENDERFYNWYD Ethol y
Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Y Cynghorydd Mark
Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda’r Cynghorydd Nigel Williams
yn dirprwyo. ·
Y Cynghorydd Gary
Pritchard (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Nicola Roberts yn dirprwyo. ·
Aled Jones-Griffith
(Grŵp Llandrillo Menai) gyda Gwenllian Roberts yn dirprwyo. ·
Dafydd Gibbard (Cyngor
Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried. COFNODION: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
CYLCH GORCHWYL AR GYFER YR IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I adolygu’r
Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r Cylch
Gorchwyl COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Swyddog Monitro. PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r Cylch Gorchwyl. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Rhaid i’r Is-bwyllgor
weithredu’r rheolau a’r gweithdrefnau hynny fel y’u mabwysiadir gan y
Cyd-bwyllgor Corfforedig ac a nodir yn y Cylch Gorchwyl – dyma’r pwerau sy’n
cael eu dirprwyo i’r Is-bwyllgor. Rhaid i unrhyw ddiwygiad i’r telerau hyn gael
eu cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. TRAFODAETH Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl
ffurfiol ar gyfer yr Is-bwyllgor, sydd eisoes wedi cael eu mabwysiadu gan
Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Eglurwyd bod y ddogfen yn adlewyrchu’n
sylweddol Cylch Gorchwyl Bwrdd Uchelgais Economaidd blaenorol Gogledd Cymru. Nodwyd
y bwriedir parhau gyda’r trefniadau blaenorol gan egluro mai’r unig ychwanegiad
i’r Cylch Gorchwyl yw’r pŵer statudol sydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig
a’r Is-bwyllgor hwn dros les economaidd y Rhanbarth, gan nodi bydd manylder ar
y dyletswyddau hyn yn cael eu hychwanegu maes o law. |
|
CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I ystyried Cyfethol aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w benodi ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Penderfyniad: Gohirio trafodaeth a
phenderfyniad ar y mater hwn nes y Cyfarfod nesaf. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD Gohirio trafodaeth a phenderfyniad ar y mater hwn nes y
Cyfarfod nesaf. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ar
Fawrth 21 cytunodd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd y bydd aelodaeth yr
Is-bwyllgor Lles Economaidd yn cynnwys chwe Aelod Cyngor Cyd-bwyllgor
Corfforaethol y Gogledd, ynghyd a chynrychiolydd o bob un o’r cyrff hynny a
gynrychiolwyd ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gael ei benodi fel
aelodau cyfethol dibleidlais. TRAFODAETH Ystyriwyd gohirio’r drafodaeth ar Gyfethol aelod o Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri i’r Is-bwyllgor hwn, ynghyd â’r penderfyniad ar y
mater, i’r cyfarfod nesaf. Eglurwyd bydd hyn yn rhoi cyfle i swyddogion wirio
mater technegol o fewn y rheoliadau cyfethol, cyn dod a chynnig am aelod i
sylw’r Is-bwyllgor. |
|
BLAEN RAGLEN WAITH YR IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I ystyried
Blaen Raglen Waith ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytuno ar Flaen
Raglen Waith Cadarnhau y gall y
Cadeirydd ddiwygio’r Cynllun i ystyried amrywiadau mewn amserlennu gwaith yn
amodol ar y Cynllun yn cael ei ddwyn i’r cyfarfod canlynol o’r Is-bwyllgor i
gael ei gytuno. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau. PENDERFYNWYD Cytuno ar Flaen
Raglen Waith Cadarnhau y gall
y Cadeirydd ddiwygio’r Cynllun i ystyried amrywiadau mewn amserlennu gwaith yn
amodol ar y Cynllun yn cael ei ddwyn i’r cyfarfod canlynol o’r Is-bwyllgor i
gael ei gytuno. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’r Blaen
Raglen Waith yn nodi’r calendr cyfarfodydd, ac yn ychwanegol yn amlinellu’r
gwaith sydd i’w wneud gan yr Is-bwyllgor yn dilyn ei swyddogaethau dirprwyedig
fel y nodir yn ei gylch gorchwyl. TRAFODAETH Adroddwyd bod y Blaen
Raglen Waith yn nodi’r holl
brosiectau sydd wedi cael eu
rhaglennu ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ar hyn o bryd. Nodwyd bydd
achosion busnes ychwanegol yn cael
eu hychwanegu i’r Blaen Raglen
Waith pan fyddai’n amserol i wneud
hynny. |
|
PENODI SRO Y CYNLLUN TWF Cyflwyno
enwebiad ar gyfer yr Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) Newydd ar gyfer y Cynllun
Twf. Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau. PENDERFYNWYD 1. Bod yr Is-bwyllgor yn
penodi Dylan Williams (Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn) fel Uwch Berchennog
Cyfrifol (SRO) newydd ar gyfer y Cynllun Twf. 2. Bod yr Is-bwyllgor yn
cytuno i adolygu’r trefniadau ymhen 12 mis. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cadarnhau penodiad SRO y Cynllun Twf
yn unol â’r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ym mis
Chwefror 2025, i wahanu rôl yr SRO a’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymateb i’r
gofyniad newydd gan y Llywodraeth. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr Eitem hon yn deillio o
gyfarfod olaf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ble cytunwyd i
wahaniaethu swyddi’r Cyfarwyddwr Portffolio a’r Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO).
Nodwyd bod cais wedi ei wneud bryd hynny am enwebiad gan Brif Swyddogion yr
Awdurdodau Lleol er mwyn gallu penodi Uwch Berchennog Cyfrifol y Cynllun Twf. Cadarnhawyd bod Dylan Williams, Prif Swyddog
Cyngor Sir Ynys Môn, wedi cael
ei enwebu i gyflawni rôl
Uwch Berchennog Cyfrifol y Cynllun Twf. Nodwyd bod yr adroddiad yn gofyn
a yw’r Is-bwyllgor yn awyddus
i gymeradwyo’r enwebiad hwn, gyda’r
cadarnhad bydd y penodiad yn cael
ei adolygu pob 12 mis. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau
cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai
eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer
ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn
cyfansawdd gorau COFNODION: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 10 gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff
14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod
buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn
benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o
sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
ADOLYGIAD PORFFOLIO Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC / Cyfarwyddwr Portffolio) ac Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Bod yr Is-bwyllgor yn
cytuno ar yr argymhellion sy'n benodol i'r prosiect, fel a osodwyd yn adran 5
ac Atodiad 1 o'r adroddiad hwn yn dilyn cwblhau'r adolygiad portffolio. Cymeradwyo sefydlu
Rhestr Wrth Gefn fel a osodwyd yn adran 7 ac Atodiad 2 o'r adroddiad hwn,
ynghyd â'r meini prawf ac amserlen ar gyfer y broses Datganiad o Ddiddordeb
(EOI) i benodi prosiectau i'r rhestr wrth gefn.
Ychwanegu cynllun
amgen Trawsfynydd ar y Rhestr Wrth Gefn ffurfiol y Cynllun Twf. Bod yr Is-bwyllgor yn
gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) gytuno ar broses sicrwydd a
chymeradwyo symlach gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i alluogi bod
penderfyniadau ar brosiectau newydd yn cael eu gwneud mewn modd effeithiol ac
effeithlon. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr
dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a’r Pennaeth Gweithrediadau. PENDERFYNWYD Bod yr Is-bwyllgor yn cytuno ar yr argymhellion sy'n benodol i'r
prosiect, fel a osodwyd yn adran 5 ac Atodiad 1 o'r adroddiad hwn yn dilyn
cwblhau'r adolygiad portffolio. Cymeradwyo sefydlu Rhestr Wrth Gefn fel a osodwyd yn adran 7 ac Atodiad
2 o'r adroddiad hwn, ynghyd â'r meini prawf ac amserlen ar gyfer y broses
Datganiad o Ddiddordeb (EOI) i benodi prosiectau i'r rhestr wrth gefn. Ychwanegu cynllun amgen Trawsfynydd ar y Rhestr Wrth Gefn ffurfiol y
Cynllun Twf. Bod yr Is-bwyllgor yn gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) gytuno
ar broses sicrwydd a chymeradwyo symlach gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU i alluogi bod penderfyniadau ar brosiectau newydd yn cael eu gwneud mewn
modd effeithiol ac effeithlon. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae'r penderfyniad yn ymateb i'r cais a wnaed
gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ym mis Chwefror 2025 i adolygu prosiectau yn y
Cynllun Twf sydd mewn perygl o beidio â chael eu cyflawni, ac i gyflwyno
argymhellion clir i'w hystyried. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
ACHOS BUSNES LLAWN 4G+ (SAFLEOEDD A CHORIDORAU ALLWEDDOL CYSYLLTIEDIG) Stuart
Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) a Kirrie Roberts (Rheolwr Prosiect
Cysylltedd Digidol) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Bod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn cymeradwyo'r Achos
Busnes Llawn ar gyfer y prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol
Cysylltiedig) gan nodi y bydd cyfnod cychwynnol dyluniad y cynllun grant ar ôl
cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn angen asesiad rheoli cymhorthdal terfynol o'r
Cynllun Cymhorthdal arfaethedig. Bod y Is-Bwyllgor Lles Economaidd yn dirprwyo’r hawl i’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd,
Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar ddyluniad terfynol y cynllun
grant. Bod yr Is-Bwyllgor Lles Economaidd yn dirprwyo cyflwyno’r
prosiect i’r Cyfarwyddwr Portffolio gan
gynnwys dyfarniadau grant unigol dilynol yn unol â’r cynllun grant terfynol hyd
at £500,000. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen
Ddigidol. PENDERFYNWYD Bod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar
gyfer y prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig) gan nodi y
bydd cyfnod cychwynnol dyluniad y cynllun grant ar ôl cymeradwyo'r Achos Busnes
Llawn angen asesiad rheoli cymhorthdal terfynol o'r Cynllun Cymhorthdal
arfaethedig. Bod y Is-Bwyllgor Lles Economaidd yn dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro i gytuno ar ddyluniad terfynol y cynllun grant. Bod yr Is-Bwyllgor Lles Economaidd yn dirprwyo cyflwyno’r prosiect
i’r Cyfarwyddwr Portffolio gan gynnwys
dyfarniadau grant unigol dilynol yn unol â’r cynllun grant terfynol hyd at
£500,000. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth yr Is-Bwyllgor o'r Achos
Busnes Llawn ar gyfer y Prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol
Cysylltiedig). Cymeradwyodd y Bwrdd Uchelgais yr Achos
Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect ar 15 Mawrth 2024. Yn dilyn hynny,
derbyniodd y prosiect gymeradwyaeth y broses sicrwydd gan Lywodraeth Cymru.
Roedd hyn yn galluogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio i symud ymlaen gyda
datblygu'r Achos Busnes Llawn. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |