Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2025-26. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Jason McLellan yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 2 I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
|
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972:
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod
buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes
ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac
yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu
gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau Penderfyniad: Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd. |
|
|
ADOLYGIAD PORFFOLIO 2 Cyflwyno
canfyddiadau’r ail adolygiad portfolio a gyflawnwyd. Penderfyniad: Cytuno ar yr
argymhellion sy’n benodol i’r prosiectau a chamau nesaf yr asesiad, yn dilyn
cwblhau’r ail adolygiad portffolio. |
|
|
DYFODOL VENUE CYMRU - CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY I gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Prosiect Dyfodol Venue Cymru. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar
gyfer Venue Cymru yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn
mynd i’r afael â’r argymhellion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos
Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried. 2.
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn
ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog
Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r
trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth
Achos Busnes Llawn. 3.
Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr
Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau
caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y
cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r
Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. |