Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir.

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 3 pdf eicon PDF 198 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.
  2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

6.

CYLLIDEB 2026/27 pdf eicon PDF 223 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid, a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi cyllideb refeniw Y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27.
  2. Nodi cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.

 

7.

SEFYLLFA REFENIW A CHYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD RHAGFYR 2025 pdf eicon PDF 219 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid, a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025, gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn.
  2. Nodi a derbyn proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf.

 

8.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - CYNLLUN CYFLAWNI BLYNYDDOL (ADP) BLWYDDYN 2 pdf eicon PDF 667 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr, ac Iain Taylor, AMION Conslting, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo dyraniadau buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi’r dyraniadau ym Mlwyddyn 1 fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o’r rhaglen Blwyddyn 2.
  • Cymeradwyo’r Rhaglen Parth Buddsoddi, yn cynnwys dyraniad £4m i brosiect Porth Busnes Prifysgol Wrecsam.
  • Caniatáu i Swyddog A151 y CBC lofnodi a chyhoeddi dogfennau’r ADP i Lywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw fân ddiwygiadau amherthnasol pellach sy’n angenrheidiol i gytuno ar yr ADP  gyda Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â  defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

10.

PADESWOOD - CAIS AM NEWID

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cefnogi’r cais am newid gan Lywodraeth Cymru a dyrannu cyllid ychwanegol o’r Cynllun Twf a’r Parth Buddsoddi yn amodol ar:

 

  1. Dod i gytundeb ar materion a drafodwyd yn adran 6.3 (a) a (b) yr adroddiad.
  2. Y bydd buddsoddiad a nodwyd yn rhan 6.3(c) o’r adroddiad yn amod ariannu i’w weithredu cyn cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn a /neu ei gynnwys yn y Cytundeb Cyllido Grant, pa bynnag un sydd gynharaf.
  3. Y bydd cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn yn amodol ar y penderfyniadau buddsoddi yn adran 6.3(d)

 

Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar yr amodau a osodir gyda chymeradwyaeth derfynol i’w cheisio gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (yn amodol ar gyngor y Swyddog Monitro), mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

Bod yr Is-bwyllgor yn nodi bod rhannu’r cyllid rhwng y Cynllun Twf a’r Porth Buddsoddi yn destun trafodaethau a phenderfyniad ar wahân cyn cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn.

 

11.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL PORTH BUSNES WRECSAM

Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Porth Busnes Wrecsam yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Prifysgol Wrecsam yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifiwyd yn Adran 7, a gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn.

 

Bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Nodi’r bwriad i rannu’r cyllid rhwng y Cynllun Twf a’r Parth Buddsoddi ac y bydd y sefyllfa hon yn cael ei chadarnhau yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.