Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 189 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mai 2026 fel rhai cywir.

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus.

Penderfyniad:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd.

 

6.

YSGOL FUSNES ALBERT GUBAY, PRIFYSGOL BANGOR, ACHOS BUSNES LLAWN

David Mthews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay.
  2. Cymeradwyo £143,000 ychwanegol o’r Gronfa Wrth Gefn Chwyddiant Costau i gyflawni’r prosiect.
  3. Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda phrifysgol Bangor ar gyfer cyflawni’r prosiect, yn amodol ar Brifysgol Bangor yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r materion sy’n weddill gan gynnwys cynnydd mewn costau caffael.
  4. Cadarnhawyd bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb ariannu wedi’i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor ei gymeradwyo.