Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026-27.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27. 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026-27.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Jason McLellan yn Is-gadeirydd. 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhwy eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 127 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2026 fel rhai cywir.

7.

PROSIECT PORTH Y PORTHLADD RHYDD - CAIS I YMESTYN Y CYFNOD DILYSRWYDD pdf eicon PDF 218 KB

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cais i ymestyn y cyfnod dilysrwydd i gwblhau’r Cytundeb Cyllido Grant o dri mis hyd at 1af o Hydref 2026. 

 

Cadarnhau bod y Cyfarwyddwr Portffolio wedi’i awdurdodi i gymryd yr holl gamau gweithredol angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r Cytundeb Cyllido Grant a’i gwblhau o fewn y cyfnod dilysrwydd estynedig, yn amodol ar ofynion cyfreithiol, ariannol, caffael a llywodraethu arferol. 

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys tan 1af Hydref 2026 ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Gytundeb Cyllido Grant wedi’i lofnodi erbyn y dyddiad hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. 

 

8.

CYNLLUN SGILIAU A CHYFLOGAETH GOGLEDD CYMRU 2026-2028 pdf eicon PDF 232 KB

David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Catherine Morris-Roberts (Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol) I gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru a’r blaenoriaethau fel y’u nodir yn y cynllun. 

 

Gofyn i’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol gyflwyno adroddiad diweddariad ymhen 12 mis. 

 

9.

CRONFA DWF LLEOL YNG NGOGLEDD CYMRU - BLAEN GYNLLUNIO AR GYFER GWELL CYDWEITHREDU RHANBARTHOL O 2027/28 pdf eicon PDF 241 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Nodi’r diweddariad ar y trefniadau pontio ar gyfer y Gronfa Dwr Lleol ers yr adroddiadau perthnasol gael eu cyflwyno i’r CBC yn mis Mawrth a Mehefin. 

 

2.     Nodi bod y Cynllun Pontio Blwyddyn 1 (2026-27) ar gyfer y Gronfa Dwf Lleol wedi ei gyflwyno ar y 9fed o Fehefin i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Gwynedd fel y corff atebol arweiniol ar gyfer Blwyddyn 1, ac bod y cynllun yn nodi’r dull o gynnal parhad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) wrth baratoi’r rhanbarth ar gyfer model cyflawni gwbl ranbarthol o dan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mlynyddoedd 2 a 3. 

 

3.     Cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig a’r cerrig milltir sydd eu hangen cyn cyfarfod nesaf o’r Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Hydref 2026, gan gydnabod bod rhaid i’r gwaith paratoi ddechrau ar unwaith os yw’r CBC am fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb am y Gronfa Dwf Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru. 

 

4.     Awdurdodi’r swyddogion i symud ymlaen gyda’r gofynion angenrheidiol gan gynnwys cynllunio, ymgysylltu, comisiynu ac adeiladu capasiti dros yr Haf, gan ddefnyddio’r cyllid ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r paratoadau ar gyfer cyflawni’r Gronfa Dwf Lleol o 2027/28 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru. 

 

 

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus.

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon. 

11.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL HWB HYDROGEN CAERGYBI

Meghan Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) a Hedd Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portffolio) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi yn amodol bod Menter Môn yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, a gofyn I Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried. 

 

Gwrtho y cais gan Menter Môn am gyllid ymlaen llaw am y rhesymau a nodir yn Adran 7. 

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro I gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel y sail i ymrwymo i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn. 

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeng mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen I Achos Busnes Llawn wedi’i gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd gan gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor I’w gymeradwyo. 

 

 

12.

ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES PROSIECT ANTUR GYFRIFOL ZIP WORLD - CARTIAU GWYLLT (SLATE EXPLORER)

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Bwyd=Amaeth a Thwristiaeth) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD  

 

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer eitem Cartiau Gwyllt y prosiect Antur Gyfrifol Zip World yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU I’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Zip World yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad fel y disgrifir hwy yn Adran 7. 

 

2.     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghorid a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro I gadarnhau bod y materion sy’n weddill yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau cyn i’r arian gael ei ryddhau. 

 

3.     Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, I gytuno ar delerau’r cytundeb arian grant yn unol â’r adroddiad hwn, i’w cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr Is-bwyllgor. 

 

4.     Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb ariannu wedi’i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. 

 

5.     Nodi y gallai fod hyd at dri chymeradwyaeth Achos Busnes arall i gyflawni’r elfennau sy’n weddill o’r prosiect Antur Gyfrifol ac y byddant yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w hystyried yn y dyfodol. 

 

13.

ACADEMI CROESO (A ELWID GYNT YN RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH) ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES DROS GYNNWYS DYLAN'S RESTAURANT LTD FEL PARTNER LLOEREN NEWYDD

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Dylan’s Restaurant Limited i fod yn bartern lloeren ar gyfer y prosiect Academi Croeso gan Grŵp Llandrillo Menai, yn amodol bod Grŵp Llandrillo Menai a Dylan’s Restaurant Limited yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7. 

 

2.     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gadarnhau bod y materion sy’n weddill yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau cyn i’r arian gael ei ryddhau. 

 

3.     Nodi bod cytundeb ariannu eisoes wedi’i wneud gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer prosiect Academi Croeso (Rhwydwaith Talent Twristiaeth) yn dilyn cymeradwyaeth Achos Busnes Llawn, ac y bydd y cytundeb hwn yn cynnwys y broses o gyflawni’r elfen hon o’r prosiect ehangach os bydd yr Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn. 

 

14.

STRATEGAETH AR GYFER GWEDDILL CYLLID Y CYNLLUN TWF SYDD HEB EI DDYRANNU

Hedd Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portffolio) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y strategaeth ac ni chafwyd ei fabwysiadu yn unol â chanlyniad y bleidlais honno. 

15.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - CYNLLUN CYFLAWNI BLYNYDDOL BLWYDDYN 2 A PHROSIECT WLA

Alwen Williams (Prif Weithredwr) ac Iain Taylor (AMION Consulting) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.     Cymeradwyo’r dyraniadau buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi dyraniadau ym Mlwyddyn 1 a fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen Blwyddyn 2. 

 

2.     Cymeradwyo’r cynnig gan Wrexham Leadership Alliance ac awdurdodi’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Cyllido Grant gyda Wrexham Leadership Alliance am £200,000 (i ganiatáu costau’r prosiect o £150,000 , £0,000 TAW a £20,000 wrth gefn). 

 

3.     Cymeradwyo i’r Swyddog Adran 151 y CBC i lofnodi a chyhoeddi’r dogfennau Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw ddiwygiadau ansylweddol pellach sy’n angenrheidiol i gytûn ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. 

 

4.     Cadarnhau ei fod yn ofynnol i unrhyw newid sylweddol i’r dyraniad cymeradwy, derbynnydd, cwmpas y prosiect, allbynnau, ffynhonnell ariannu, model cyflawni, proffil risg neu sefyllfa cydymffurfio gael ei adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd i’w gymeradwyo ymhellach.