Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- ·
Y
Cynghorydd Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Paul Johnson yn dirprwyo. ·
Yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol
Bangor) gyda’r Athro Paul
Spencer yn dirprwyo. ·
Yr
Athro Joe Yates (Prifysgol
Wrecsam). ·
Yana
Williams (Coleg Cambria) ·
Aled
Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo
Menai) ·
Dave
Penrith (Ymgynghorydd Anweithredol)
gyda Nick Bennett yn dirprwyo ·
Neal
Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo. ·
Dewi
Morgan (Cyngor Gwynedd). ·
Hedd
Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portffolio) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan yr Athro Paul
Spencer, Prifysgol Bangor, ar gyfer Eitem 6 gan fod y sefydliad ynghlwm â’r
cais. Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac y bu iddo adael y
cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 15 Mai 2026 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Mai 2026 fel rhai cywir. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus. Penderfyniad: Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd. Cofnod: Cynigodd y Cadeirydd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael
ei orbwyso ar hyn o bryd gan
yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol
o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r
gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus. |
|
|
YSGOL FUSNES ALBERT GUBAY, PRIFYSGOL BANGOR, ACHOS BUSNES LLAWN David
Mthews, Rheolwr Rhaglen Tir
ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Tir
ac Eiddo. PENDERFYNWYD 1. Cymeradwyo’r Achos
Busnes Llawn ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay. 2. Cymeradwyo £143,000 ychwanegol o’r Gronfa Wrth Gefn Chwyddiant Costau i gyflawni’r prosiect. 3. Awdurdodi i’r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo
i gytundeb ariannu gyda phrifysgol
Bangor ar gyfer cyflawni’r prosiect, yn amodol
ar Brifysgol Bangor yn mynd i’r afael
yn foddhaol â’r materion sy’n
weddill gan gynnwys cynnydd mewn costau caffael. 4. Cadarnhawyd bod cymeradwyaeth
yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect
yn mynd ymlaen
i gytundeb ariannu wedi’i lofnodi yn ystod
y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol
iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor
ei gymeradwyo. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth yr
Is-bwyllgor i’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Ysgol Fusnes Albert
Gubay. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |