Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2026 fel rhai cywir. |
|
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 2 Hedd
Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - CAIS I YMESTYN CYFNOD DILYSRWYDD ACHOSION BUSNES AMLINELLOL Hedd
Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio i gyflwyno’r adroddiad. |
|
|
Y GRONFA TWF LLEOL YNG NGOGLEDD CYMRU - BLAENORIAETHAU CYCHWYNNOL A'R CAMAU NESAF Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru, ac
Iain Taylor, Rheolwr Rhaglen, Uchelgais Gogledd Cymru i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGANIAD O DDIDDORDEB EFFAITH UCHEL - PROSIECT DINAS UTOPIA Hedd
Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio
i gyflwyno’r adroddiad. Mae Atodiad 1 yn eithriedig yn unol â Paragraff 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth
sy'n ymwneud â materion ariannol a busnes sefydliadau adnabyddadwy, gan gynnwys
gwybodaeth ariannol fanwl am brosiectau, gofynion cyllido a rhagdybiaethau,
trefniadau masnachol a chyflawni, risgiau prosiectau, gofynion buddsoddi yn y
dyfodol a gwybodaeth fasnachol sensitif arall a ddarperir at ddibenion arfarnu
a chyllido. |